1A llefarodd Moses wrth bennaethiaid llwythau meibion Israel, gan ddywedyd: dymma y peth yr hwn a orchymynnodd yr Arglwydd.
2Pan addunedo gŵr adduned i’r Arglwydd, neu dyngu llw gan rwymo rhwymedigaeth ar ei enaid ei hun, na haloged ei air, gwnaed yn ôl yr hyn oll a ddêl allan oi enau.
3A phan addunedo benyw adduned i’r Arglwydd, a rhwymo rhwymedigaeth yn nhy ei thâd, yn ei hieuenctyd.
4A chlywed oi thâd ei hadduned, ai rhwymedigaeth, yr hwn a rwymodd hi ar ei henaid, a thewi oi thâd wrthi: yna safed ei holl addunedau, a phob rhwymedigaeth, yr hwn a rwymodd hi ar ei henaid a saif.
5Ond os ei thad a bâr iddi dorri ar y dydd y clywo efe ei holl addunedau, ai rhwymedigaethau y rhai a rwymodd hi ar ei henaid ni saif a’madde’r Arglwydd iddi, o achos mai ei thâd a barodd iddi dorri.
6Ac os hi gan fod a fydd eiddo gŵr, ai haddunedau arni, neu draethiad ei gwefusau yr hwn a rwymodd hi ar ei henaid,
7A chlywed oi gŵr, a thewi wrthi y dydd y clywo, yna safed ei haddunedau: ai rhwymedigaethau y rhai a rwymodd hi ar ei henaid a safant.
8Ond os ei gŵr, ar y dydd y clywo a bâr iddi dorri, ac a ddiddymma ei hadduned, yr hwn arni, a thraethiad ei gwefusau’r hwn a rwymodd hi ar ei henaid: yna’r Arglwydd a fadde iddi.
9Ond adduned y weddw, a’r yscaredic, yr hyn oll a rwymo hi ar ei henaid a saif arni.
10Ond os nhy ei gŵr yr addunedodd, neu y rhwymodd hi rwymedigaeth ar ei henaid trwy lw:
11A chlywed oi gŵr, a thewi wrthi heb peri iddi dorri, yna safed ei holl addunedau, a phob rhwym yr hwn a rwymodd hi ar ei henaid a saif.
12Ond os ei gŵr gan ddiddymmu ai diddymma hwynt y dydd y clywo, ni saif dim a ddaeth allan oi gwefusau, oi haddunedau, ac o rwymedigaeth ei henaid, ei gŵr ai diddymmodd hwynt, ar Arglwydd a fadde iddi.
13Pôb adduned a phôb rhwymedigaeth llw, am gystuddio’r enaid, ei gŵr ai cadarnha, ai gŵr ai diddymma.
14Ac os ei gŵr gan dewi a dau wrthi, o ddydd i ddydd, yna y cadarnhaodd efe ei holl addunedau, neu ei holl rwymedigaethau y rhai arni, cadarnhaodd hwynt, pan dawodd wrthi y dydd y clybu efe
15Ac os efe gan ddiddymmu ai diddymma hwynt wedi iddo glywed: yna efe a ddwg ei hanwiredd hi.
16Dymma y deddfau y rhai a orchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses, rhwng gŵr ai wraig, a rhwng tâd ai ferch, yn ei hieuenctyd nhŷ ei thâd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
