1YN y flwyddyn gyntaf o deyrnasiad Cyrus brenin y Persiaid, (i gyflawni gair yr Arglwydd o enau Ieremi)
2Yr Arglwydd a annogodd Yspryd Cyrus brenin y Persiaid, fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl deyrnas, a hefyd mewn scrifen,
3Gan ddywedyd: fel hyn y dywedodd Cyrus brenin y Persiaid: Arglwydd yr Israel, îe yr Arglwydd goruchaf a’m gwnaeth fi yn frenin ar yr holl fŷd,
4Ac efe a orchymynnodd i mi adailadu iddo ef dŷ yn Ierusalem, yr hon sydd yn Iuda.
5[Am hynny] od oes nêb o honoch chwi oi bobl ef, bydded yr Arglwydd ei Arglwydd gyd ag ef, ac eled i fynu i Ierusalem yr hon sydd yn Iuda, ac adailaded dŷ Arglwydd yr Israel: efe yw ’r Arglwydd yr hwn sydd yn presswylio yn Ierusalem.
6A phwy bynnac sydd yn cyfaneddu y lleoedd hynny oi hamgylch, cynnorthwyant ef (y rhai ydynt yno] ag aur, ac ag arian,
7A rhoddion, â meirch, ac anifeiliaid, gyd ag addunawl offrymmau i Deml yr Arglwydd, yr hon sydd yn Ierusalem.
8Yna pennaethiaid teuluoedd Iuda, a llwyth Beniamin a’r offeiriaid, a’r Lefiaid a gyfodâsant, a chymmeint oll a’r y cynhyrfodd yr Arglwydd eu meddwl i fyned i fynu, ac i adailadu tŷ i’r Arglwydd yn Ierusalem.
9A’r rhai oeddynt oi hamgylch hwynt ai cynnorthwyâsant ym mhob peth ag arian, ac ag aur, â meirch, ac anifeiliaid, ac ag ymrafael addunawl roddion y rhai yr oedd eu meddwl wedi eu cynhyrfu
10Brenin Cyrus hefyd a ddug allan lestri sanctaidd yr Arglwydd, y rhai a ddugase Nabuchodonosor ymmaith o Ierusalem, ac ai cyssegrase yn nheml ei eulynnod
11A phan ddug Cyrus brenin y Persiaid hwynt allan, efe ai rhoddodd hwynt at Mithridates ei dryssorudd,
12Iw rhoddi hwynt i Abassar rhaglaw Iuda.
13Dymma eu rhifedi hwynt: mil o gawgiau aur, a mil o gawgiau arian, o noiau arian i’r ebyrth naw ar hugain, dêc ar hugain o phiolau aur, ac o arian dwy fîl, pedwar cant a dêc, a mil o lestri eraill.
14Felly yr holl lestri aur ac arian, y rhai a ddugasid ymmaith oeddynt bum mîl, a phedwar-cant, a naw a thrugain.
15A Sanabassar ai dug hwynt gyd a’r o gaethiwed Babilon i Ierusalem.
16Ond yn amser Artaxerxes brenin y Persiaid: Belemus, a Mithridates, a Thabelius, a Rathumus, a Beeltethmus, a Semelius yr scrifennydd, ac eraill oi cyd-swydd-wŷr hwynt, y rhai oeddynt yn aros yn Samaria, ac mewn lleoedd eraill, a scrifennasant y llythr hwn yn erbyn y rhai oeddynt yn presswylio yn Iuda, ac Ierusalem: AT Y BRENIN ARTAXERXES HARGLVVYDD,
17Dy weision di, Rathumus scrifennydd pethau digwyddawl, a Semelius yr scrifennydd, ac eraill oi cyd-gynghor-wŷr, a’r barnwŷr y rhai ydynt yn Coelosyria, ac yn Phenice:
18Bydded hyspys i’n harglwydd frenin fod yr Iddewon y rhai a ddaethant oddi wrthych chwi attom ni i Ierusalem (y ddinas wrthryfelgar ddrygionus honno) yn adailadu y farchnad-lê, ac yn adnewyddu ei muroedd hi, ac yn gosod sylfaenau y Deml.
19Am hynny os adailedir y ddinas hon, ac adnewyddu ei muroedd hi, ni wrthodant yn vnic dalu teyrn-ged, eithr hwynt a wrthwynêbant frenhinoedd.
20Ac o herwydd bod y pethau y rhai ydynt yn perthynu i’r Deml yn myned rhagddynt, ni thybiasom fod yn weddaidd gollwng heibio y fath beth:
21Eithr ei ddangos ef i’n harglwydd y brenin, modd y gellech ti o rhynge fodd i ti chwilio yn llyfrau dy dadau,
22A thi a gei yn scrifennedic yn yr hystoriâu am y pethau hyn, fel y ceffech di ŵybod fod y ddinas hon bob amser yn gwrthryfêla, ar yn gwneuthur blinder i frenhinoedd, ac i ddinasoedd,
23A bod yr Iddewon yn wrthryfelgar, ac yn magu terfyscau ynddi erioed: o herwydd yr hwn beth y gorfu dinistrio y ddinas hon.
24Am hynny yn awr ô frenin yr ydym ni yn hyspysu i ti, os adailedir y ddinas hon, ac os cyweirir ei muroedd hi, ni bydd i ti ffordd i fyned i Edelosyria, nac i Phenice.
25Yna y brenin a a scrifennodd trachefn at Rathumus, yr hystoria-wr, ac at Beeltethmus, ac at Samelius yr scryfennydd, ac at eraill oi cyd-swydd-wŷr, a thrigolion Samaria, Syria, a Phenice, yn y wedd hon.
26Myfi a ddarllenais y llythr yr hwn a ddanfonasoch chwi attafi: am hynny mi a orchymynnais chwilio, ac fe a gafwyd, fod y ddinas hon bob amser yn gwrthwynebu brenhinoedd,
27A bod ei phobl yn gwneuthur terfyscoedd, a rhyfeloedd, a bod brenhinoedd cryfion, a chedyrn yn teyrnasu yn Ierusalem, y rhai oeddynt yn mynnu teyrn-ged o Coelosyria, a Phenice.
28O herwydd hynny y gorchymynnais yn awr wahardd i’r gwŷr hyn adailadu y ddinas, a gwilied rhac gwneuthur o honynt ddim mwyach,
29Ac na chaffe y pethau drygionus hynny (y rhai fyddent yn blîno y brenin) fyned rhagddynt.
30Ac wedi i Rathumus, a Semelius yr scrifennydd, ac eraill eu cyd-swydd-wŷr ddarllen y pethau a scrifennase y brenin Artaxerxes, yna hwynt a ddaethant ar ffrŵst i Ierusalem ai byddinau o wŷr meirch, ac o wŷr traed,
31Ac a ddechreuasant rwystro yr adailadwŷr, fel y peidiodd adailadaeth y Deml yn Ierusalem hyd yr ail flwyddyn o deyrnasiad Darius brenin y Persiaid.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.