1A 2 Samuel.7.1.Phan drigodd Dafydd yn ei dŷ, yna Dafydd a ddywedodd wrth Rathan y prophwyd: wele fi yn trigo mewn tŷ o cedrwydd, ac Arch cyfammod yr Arglwydd tan gortynau.
2Yna Nathan a ddywedodd wrth Ddafydd, gwna’r hyn oll yn dy feddwl: canys Duw gyd a thi.
3A’r nôs honno y daeth gair Duw at Nathan, gan ddywedyd.
4Dôs, a dywet wrth Ddafydd fyng-wâs, fel hyn y dywed yr Arglwydd: nid tydi a adailada i mi dŷ i bresswylo.
5Canys ni Phresswylais i mewn tŷ er y dydd yr hwn 2.Sam 7.6.yr arweiniais Israel hyd y dydd hwn: ond bûm o babell i babell, ac o bresswylfod
6Ym mha bynnac y rhodiais gyd ag holl Israel, a yngenais i air wrth vn o farnwyr Israel i’r rhai y gorchymynnaswn borthi fy mhobl, gan ddywedyd? pa ham nad adailadasoch i mi dŷ o cedr-wŷdd?
7Ac yr awr hon fel hyn y dywedi wrth Ddafydd fyng-wâs: fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, myfi a’th gymmerais di o’r gorlan, oddiar ôl y praidd, i fod yn dywysog ar fy mhobl Israel.
8A bum gyd a thi ym mha le bynnac y rhodiaist, torrais ymmaith hefyd dy holl elynnion o’th llaen: a gwneuthum enw i ti megis enw y rhai mwyaf yn y tîr.
9Gosodaf hefyd i’m holl bobl Israel le, ac ai plannaf ef, fel yr arhoso efe, yn ei le ei hun, ac ni symudir ef mwyach: a meibion anwiredd ni chwanegant ei gystuddio ef, megis yn y cyntaf.
10Sef er y dyddiau, 2.Sam.7.11.pan orchymynnais farnwyr ar fy mhobl Israel. Canys darostyngais dy holl elynnion di, a mynegais i ti yr adailada yr Arglwydd i ti dŷ.
11A bydd pan gyflawner dy ddyddiau di, i fyned gyd a’th dadau y cyfodaf dy hâd ar dy ôl di, yr hwn a fydd o’th feibion di: a mi a gadarnhaf ei deyrnas ef.
12Efe a adailada i mi dŷ: a minne a gadarnhaf ei deyrn-gadair ef byth.
13Myfi a fyddaf iddo ef yn dâd, ac yntef fydd i mi yn fâb, a’m trugaredd ni thynnaf oddi wrtho ef megis y tynnais oddi wrth yr hwn a fu o’th flaen di.
14Ond mi ai gosodaf ef yn fy nhŷ, ac yn fy nheyrnas byth: ai deyrn-gadair ef a gadarnheuir byth.
15Yn ôl yr holl eiriau hyn, ac yn ôl yr holl weledigaeth hon: felly y llefarodd Nathan wrth Ddafydd.
16Yna y daeth Dafydd y brenin, ac a eisteddodd ger bron yr Arglwydd, ac a ddywedodd: pwy fi ô Arglwydd Dduw: a phwy fy nhy-lwyth pan ddygyt ti fi hyd ymma?
17Etto 2.Sam.7.19.bychan hyn yn dy olŵg di ô Dduw: am hynny y dywedaist am dŷ dy wâs dros hîr o amser: a thi a edrychaist arnaf (ô Arglwydd Dduw) fel ar ddyn rhagorol.
18Pa ham y chwanega Dafydd a thi mwyach am anrhydedd dy wâs, canys ti a adwaenost dy wâs?
19Oh Arglwydd er mwyn dy wâs, ac yn ôl dy feddwl y gwnaethost yr holl fawredd hyn, i ddangos pob mawrhydri.
20Arglwydd nid fel ty di, ac nid Dduw onid ti: yn ôl yr hyn oll a glywsom a’n clustiau.
21A pha vn genedl yn y tîr megis dy bobl Israel, yr hon yr aeth Duw iw gwaredu yn bobl iddo ei hun: gan osod i ti enw mawr, ac ofnadwy, gan fwrw allan genhedloedd o flaen dy bobl, y rhai a waredaist ti o’r Aipht?
22Ei hefyd a roddaist dy bobl Israel yn bobl i ti byth: a thi Arglwydd ydwyt iddynt hwy yn Dduw.
23Am hynny yr awr hon Arglwydd, y gair yr hwit a leferaist am dy wâs, ac am ei dŷ ef, poed gwîr fyddo byth: gwna fel y lleferaist.
24A phoed gwîr fyddo, fawrhau hefyd dy enw yn dragywydd, gan ddywedyd: Arglwydd y lluoedd, Duw Israel Dduw i Israel: a tŷ Ddafydd dy wâs yn gadarn, ger dy fron di.
25Canys ti ô fy Nuw a ddywedaist i’th wâs yr adailadit ti dŷ iddo ef: am hynny y caiff dy wâs weddio ger dy fron di.
26Ac yr awran Arglwydd ti ydwyt Dduw: a thi a leferaist am dy wâs y daioni hwn.
27Ac yn awr ti a ddechreuaist fendîgo tŷ dy wâs, i fod ger dy fron yn dragywydd: am i ti ô Arglwydd ei fendîgo, bendigedic yn dragywydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.