4.Esdras 5 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. V.1 Yn y dyddiau dywethaf y bydd y gwirionedd yng­hudd, 10 anghyfiawnder, ac anwiredd a gaiff y llaw vchaf yn y byd.

1AC am yr arwyddion, wele, y dyddiau a ddaw pan ddalier trigolion y ddaiar yn rifedi mawr, a ffordd y gwirionedd a guddir, a’r byd yn anffyddlawn.

2A drygioni a chwanega yn fwy nag y gweli yn awr, Math.24.4.ac yn fwy nag y clywaist sôn am dano o’r blaen.

3A’r wlâd ymma yr hon a weli di yn teyrnasu a weli di yn anghyfannedd, er cynted y troedir hi.

4Ond os Duw a rydd i ti hoedl, ti a gei weled yn ôl y trydydd vdcorn, yr haul yn tywynnu yn ddisymmwth liw nôs, a’r lleuad dair gwaith yn y dydd.

5A’r coed a waeda, a’r garrec a lefara, a’r bobl a gyffroir.

6A’r neb ni’s gobeithia presswylwŷr y ddaiar ynddo a deyrnasa: a’r adar a newidiant drigfannau.

7A môr Sodom a fwrw allan byscod, ac a rua ’r nôs yn ddiethr i lawer, ond pawb a gaiff glywed ei lais ef.

8A phob peth fydd allan o drefn yn llawer lle, a’r tân a yrrir allan trachefn yn fynych, a’r anifeiliaid gwylltion a ysmudāt, a’r gwragedd mis-glwyfus a escorant ar anghenfilod.

9A dwfr hallt a geir yn y dwfr croiw, a phob cydymmaith a ymladd yn erbyn ei gilydd, a’r synnwyr a guddir, a deall a nailltuir i le dirgel.

10A llawer ai ceisiant, ac ni’s cânt hi, ac anghyfiawnder, ac aniweirdeb a amlheir ar y ddaiar.

11A’r naill wlâd a ofyn i’r llall gan ddywedyd, a aeth cyfiawnder (yr hon a wna ŵr yn gyfiawn) heibio i ti: ac hithe a wada hyn.

12Y pryd hynny y gobeithia pobl, ac ni’s caffant, llafuriant ai ffyrdd ni lwyddant.

13Cefais ganad i ddangos it yr arwyddion hyn: os tydi a weddii eil-waith, ac os ŵyli fel yn awr, ac os ymprydi saith nhiwrnod, cei glywed pethau mwy nâ hyn.

14Yna mi a ddeffroais, a’m corph a ofnodd yn ddirfawr, a’m henaid a boenodd fel y llewŷgodd efe.

15A’r Angel yr hwn a ddaethe i ymddiddan â mi a’m daliodd, ac a’m cyssurodd, ac a’m gosododd ar fy nhraed.

16A digwyddodd yr ail nôs i Salathiel ty­wysog y bobl ddyfod attaf gan ddywedyd, pa le y buosti: a pha ham y mae morr drwm yr olwg arnat:

17Oni ŵyddost ddarfod gorchymyn Israel i ti yng-wlad eû caethiwed:

18Cyfot (gan hynny) a bwytta fara, ac na âd ddim o honom ni fel y bugail yr hwn a âd ei ddefaid i’r bleiddiaid creulawn.

19Yna y dywedais wrtho ef, dôs ymaith oddi wrthif, ac na thyret attaf, ac efe a’m clybu fel y dywedais, ac a aeth oddi wrthif.

20A mi a ymprydiais saith niwrnod drwy ŵylo ac vdo, fel y gorchymynnodd yr angel Vriel i mi.

21A ym mhen y saith niwrnod myddyliau fyng-halon oeddynt yn drymmion a ruthr gennif eil-waith.

22A’m henaid a gymmerodd trachefn yspryd deall, ac mi a ddechreuais draethu ymadroddion ger bron y Goruchaf.

23A dywedais, ô Arglwydd a llywydd, o holl goedydd y ddaiar, ac oi holl brennau dewisaist vn win-llan.

24O holl ddaiarfeudd y byd ti a ddewisaist i ti vn ffau, ac o holl flodau y byd ti a ddewisaist i ti vn lili.

25Ac o holl ddyfnder y môr llanwaist ti vn afon, ac o’r holl ddinasoedd sancteiddiaist Sion it dy hun.

26Ac o’r holl ehediaid henwaist it vn golo­men, ac o’r holl anifeliaid darperaist it vn dda­fad.

27Ac o’r holl gynnulleidfa bobl ennillaist it vn genedl, a rhoddaist i’r genhedlaeth hon (yr hon a geraist) gyfraith yr hon a brofodd pawb.

28Ac yn awr Arglwydd, pa ham y rhoddaist yr vnic genedl hon i lawer, ac y gosodaist eraill ar yr vn gwreiddin, ac y gwasceraist dy vnic bobl ym mhlith llaweroedd:

29A hwy ai sathrasant hwynt, ac a wrth­wynebasant dy addewidion, ac ni chredasant dy gyfammodau.

30Os gan gasau y caseaist dy bobl, dy ddwylaw di a ddylent eu cospi hwynt,

31Ac wedi i mi ddywedyd y geiriau hyn, danfonwyd yr angel attaf yr hwn a ddaethe attaf y nôs o’r blaen,

32Ac efe a ddywedodd wrthif, gwrando arnaf, a mi a’th ddyscaf, ystyr y peth a draethwyf a dangosaf it fwy.

33Ac mi a ddywedais, dywet fy arglwydd, ac efe a ddywedodd wrthif, yr ydwyt yn fawr iawn dy ofal dros Israel, a geraist di hwynt yn fwy na’r neb ai gwnaeth hwynt?

34A dywedais wrtho ef, naddo fy arglwydd, ond o dosturi y lleferais, canys fy arennau a’m penydiant bob awr wrth geisio llwybr y Goruchaf, ac wrth chwilio am rann oi farnedigaethau ef.

35Ac efe a ddywedodd wrthif, ni’s gelli hynny, a dywedais inne, pa ham arglwydd: i ba beth i’m ganwyd, neu pa achos na bu groth fy mam yn fedd i mi, fel na chawswn weled poen Iacob, a blinder hâd Israel.

36Ac efe a ddywedodd wrthif, rhifa i mi y pethau sydd etto heb ddyfod, a chascl yng-hŷd y dafnynnau sydd ar lled, a gwna ’r llyssiau gwywon yn leision eilchwel.

37Ac agor i mi y llochesau caedig, a dwg allan i mi y gwyntoedd y rhai a gaewyd yno: dangos i mi lun lleferydd, ac yna y dangosaf i tithe y peth yr ydwyt yn dymuno ei weled.

38Ac mi a ddywedais, ô Arglwydd llywydd, pwy a all ŵybod hyn, ond y neb nid yw ei drigfa ym mhlith dynion:

39A minnef anoeth ydwyf, pa fodd wrth hynny y gallaf ddywedyd dim am y pethau a o­fynnaist i mi?

40Ac efe a ddywedodd wrthif, fel na’s medri wneuthur vn o’r pethau a hēnwyd, felly ni’s gelli ŵybod fy marn mau fi, na’r caredigrwydd a addewais i’m pobl yn y diwedd.

41Yna mi a ddywedais, wele ô Arglwydd cyfagos ydwyt ti at y pethau a fyddant yn y di­wedd, a pha beth a wna y rhai a fuant o’m blaen i: a pha beth a wnawn ni, neu y rhai sydd ar ein hôl ni:

42Ac efe a ddywedodd wrthif, cyffelybaf fy marn i fodrwy, fel nad oes anibenrwydd o’r diwethaf, felly nid oes brysurdeb yn y cyntaf.

43Minne a atebais gan ddywedyd, ac oni allasit ti wneuthur y pethau sydd wedi eu gwneuthur yn awr, a’r pethau sydd, a’r pethau a ddaw ar vn-waith, fel y dangosech dy farn yn gynt?

44Ac efe a’m hatebodd gan ddywedyd, ni all y creadur bryssuro o flaen y creawdr, ac ni all yr holl fyd gynnwys ar vn-waith y rhai a wneir ynddo ef.

45A minne a ddywedais, fel y dywedaist i’th wâs mai ty di yr hwn a fywheist y creadur, a roddaist fywyd ar vn-waith ’r creadur a wnae­thost, ac yntef ai dygodd: felly y galle efe gynn­wys pob peth yn awr ar vn-waith.

46Ac efe a ddywedodd wrthif, gofyn i groth gwraig a dywet wrthi, os ty di a blanta, pa ham wrth dymp: dymuna arni gan hynny ddwyn dêc ar vn-waith.

47A dywedais, ni ddichon hi hynny, eithr wrth dymp.

48Ac efe a ddywedodd wrthif, minne a roddais groth y ddaiar i’r rhai a hauwyd ynddi wrth dymp.

49Canys, megis na ddichon dŷn bach ieuangc ddwyn i’r dyd y pethau a berthynant i ŵr hên, felly ’r ordeinais i y bŷd yr hwn a wneuthum.

50Ac mi a ofynnais ac a ddywedais, gan it yn awr roddi i mi y ffordd, myfi a ymddiddanaf o’th flaen di: canys ein mam ni (yr hon a ddywedaist i mi ei bod yn ieuangc) sydd yn awr yn heneiddio.

51Ac efe a’m hatebodd gan ddywedyd, gofyn i wraig sydd yn planta, a hi a ddywed i ti.

52Dywet wrthi hi, pa ham nad yw y plant a ddygaist yn awr debyg i’r rhai oeddynt o’th flaen di, ond yn llai o gorpholaeth:

53A hithe a’th ettyb, rhai a anwyd yng-hryfder ieuengtid, ac eraill a anwyd yn amser henaint pan oedd y groth yn pallu.

54Ystyria dithe gan hynny, ei’ch bod yn llai o gorpholaeth na’r rhai ydoedd o’ch blaen chwi.

55A’r rhai ar eich ôl chwi fydd llai na chwithau, megis creaduriaid bellach yn heneiddio, ac yn myned tros gryfder ieuengtid.

56A dywedais, atolwg it Arglwydd os cefais ffafor yn dy olwg di, dangos i’th wâs drwŷ bwy yr ymweli a’th greadur.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help