1.Brenhinoedd 17 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVII.Elias yn prophwydo newyn i Ahab. 6 Ac yn cael ei borthi gan y cig-frain ennyd. 10 Ac wedi hynny gan wraig weddw o Sarepta. 16 A honno yn cael rhâd penllâd, ai mab o farw i fyw.

1Ac Elias (y Thesbiad o bresswylwtyr Gilead) a ddywedodd wrth Ahab, y Eccle.48.3.|SIR 48:3. iago.5.16.mae byw Arglwydd Dduw Israel yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, ni bydd y blynyddoedd hyn wlith, na glaw: onid yn ôl fyng-air maufi.

2A gair yr Arglwydd a ddaeth atto ef gan ddywedyd:

3Dôs oddi ymma a thro di tua yr dwyrain: ac ymguddia wrth afon Cerith yr hon ar gyfer yr Iorddonen.

4Ac o’r afon yr yfi: a mi a berais i’r cigfrain dy borthi di yno.

5Felly efe a aeth, ac a wnaeth yn ôl gair yr Arglwydd: efe a aeth, ac a arhosodd wrth afon Cerith, yr hon ar gyfer yr Iorddonen.

6A’r cigfrain a ddugent iddo ef fara, a chîg y boreu, a bara, a chig bryd nawn: ac yntef a yfe o’r afon.

7Ac ym mhen y flwyddyn y sychodd yr afon: canys ni buase law yn y wlâd.

8A gair yr Arglwydd a ddaeth atto ef gan ddywedyd:

9 Luc.4.25. Cyfot dos i Sareptha yr hon yn Sidon, ac aros yno: wele gorchymynnais i wraig weddw dy borthi di yno.

10Felly efe a gyfododd, ac a aeth i Sareptha, pan ddaeth efe at borth y ddinas, wele yno wraig weddw yn casclu briwydd: ac efe a lefodd arni, ac a ddywedodd, dŵg attolwg i mi ychydig ddwfr mewn llestr fel yr yfwyf.

11Ac hi a aeth iw gyrchu: yna efe a alwodd arni, ac a ddywedodd, dwg attolwg i mi dammed o fara yn dy law.

12A hi a ddywedodd y mae yr Arglwydd dy Dduw yn fyw, nid oes gennif deisen, onid lloned llaw o flawd mewn celwrn, ac ychydig olew mewn stên: ac wele fi yn casclu briwydd i fyned i mewn, ac i baratoi hynny i mi, ac i’m mab, fel y bwyttaom hynny, ac y byddom feirw.

13Ac Elias a ddywedodd wrthi, nac ofna, dos i mewn gwna yn ôl dy air: etto gwna i mi o hynny dorth fechan yn gyntaf, a dŵg i mi, yna gwna i ti, ac i’th feb yn olaf.

14Canys fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel, y blawd yn y celwrn ni threulir, a’r olew o’r sten ni dderfydd hyd y dydd y rhoddo yr Arglwydd law ar wyneb y ddaiar.

15Felly hi a aeth, ac a wnaeth yn ôl gair Elias: ac hi a fwyttaodd, ac yntef, ai thylwyth, blwyddyn.

16Ni ddarfu y celyrned blawd, a’r stêned olew ni ddarfu: yn ôl gair yr Arglwydd yr hwn a ddywedase efe drwy law Elias.

17Ac wedi y pethau hyn y clefychodd mab gwraig y tŷ: ac yr oedd ei glefyd ef mo’r gryf, fel na thrigodd anadl ynddo.

18A hi a ddywedodd wrth Elias, beth i mi a thi gŵr Duw? a ddaethost ti attaf i goffau fy anwiredd, ac i ladd fy mab?

19Ac efe a ddywedodd wrthi hi, dyro i mi dy fab: ac efe ai cymmerth ef oi mynwes hi, ac ai dûg ef i fynu i stafell yr hon yr oedd efe yn aros ynddi, ac ai gosododd i lawr ar ei wely ei hun.

20Yna efe a lefodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd: o Arglwydd fy Nuw, a ddrygaist ti y wraig weddw yr hon yr oeddwni i yn ymdeithio gyd a hi, gan lâdd ei mab hi?

21Ac efe a ymestynnodd ar y bachgen dair gwaith, ac a lefodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd: ô Arglwydd fy Nuw, dychweled attolwg enaid y bachgen hwn iddo eil-waith.

22Yna yr Arglwydd a wrandawodd ar lef Elias: ac enaid y bachgen a ddychwelodd i mewn iddo ef, ac efe a ddadebrodd.

23Yna Elais a gymmerodd y bachgen, ac ai rhoddes ef iw fam: ac Elias a ddywedodd, gwêl, byw yw dy fab.

24A’r wraig a ddywedodd wrth Elias, yn awr, hyn a wn i mai gŵr Duw ti: ac gwirionedd gair yr Arglwydd yn dy enau di.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help