Diharebion 30 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXX.

1Geiriau Agur mab Iace: y brophwydoliaeth, a lefarodd gŵr am Ithiel, am Ithiel meddaf ac Ucal.

2Yn wir yr ydwyf yn ffolach na neb, ac nid oes ddeall dŷn gennif.

3Ni ddyscais ddoethineb, ac nid oes gennif ŵybodaeth am bethau sanctaidd.

4Pwy a escynnodd i’r nefoedd, a phwy a ddescynnodd? a phwy a gasclodd y gwynt yn ei ddyrnau?

5Pwy a rwymodd y dyfroedd mewn dilledyn? pwy a gadarnhâodd ôll derfynnau y ddaiar? beth yw ei enw ef, a pheth yw enw ei fab, os gwyddost?

6 Psal.19.8. Gair Duw oll sydd bur: tarian yw efe i’r neb a ymddiriedant ynddo.

7a Deut.42(sic.)|DEU 4:2 & 12.32. Na ddyro ddim at ei eiriau ef, rhag iddo dy geryddu, a’th gael di yn gelwyddog.

7bDau beth yr ydwyf yn eu gofyn gennit, cyn fy marw, na ommedd hwynt i mi.

8Tynn ym mhell oddi wrthif wagedd a chelwydd, na ddyro i mi na thlodi na chyfoeth, portha fi a’m digon o fara:

9Rhag i mi pan fyddwyf lawn dy wadu di, a gofyn, pwy yw’r Arglwydd? a rhag pan syrthwyf mewn tlodi imi ledratta: a rhag i mi gymmeryd enw Duw

10Nac achwyn ar wâs wrth ei feistr, rhag iddo dywed drwg am danat a’th gael yn euog.

11Y mae cenhedlaeth a felldithia ei thâd, ai mam ni fendithia.

12Y mae cenhedlaeth lân yn ei golwg ei hun, er nas glanhauwyd oddi wrth ei haflendid.

13Y mae cenhedlaeth ai llygaid yn feilchion, ac amrantau ei llygaid yn vchel.

14Y mae cenhedlaeth ai dannedd yn gleddyfau, ai chil-ddānedd yn gyllill: i lyngcu’r tlodion oddi ar y ddaiar a’r anghênus o blith dynion.

15I’r gele y mae dwy ferch moes, moes: y tri pheth hyn ni ddiwellir pedwar peth ni ddywedant byth, digon.

16Y Bedd, crôth amhlantadwy, y ddaiar ni ddiwellir â dyfroedd, a’r tân ni ddywed, digon.

17Llygad yr hwn a wattwaro ei dâd ne a ddiystyro lywodraeth ei fam a dynno cyg-frain y dyffryn, a’r eryrod ai bwytâo.

18Tri pheth ydynt guddiedig i mi: ie pedwar peth nid adwaen.

19Ffordd yr êryr yn yr awyr, ffordd neidr ar graig, ffordd llong yng-hanol y môr, a ffordd gŵr gyd â môrwyn.

20Dymma arfer merch odinebus, hi a fwytu, ac a sych ei safn, ac a ddywed, ni wneuthym i anwiredd.

21Tann dri pheth y cryn y ddaiar, îe tann bedwar ni ddichon hi ddioddef:

22Tann wâs pan deyrnaso, tann vn ffol pan lanwer ef o fwyd,

23Tann atgâs pan brioder hi, a thann lawforwyn pan wneler yn aeres iw meistres.

24Y pedwar hyn ar y ddaiar sydd bethau bychain, ac etto y maent yn ddoethaf o’r doethion.

25Nid yw’r morgrug bobl nerthol, etto y maent yn darparu eu llunniaeth yn amser haf.

26Y cwningôd nid ydynt bôbl rymmus, etto hwy a wnânt eu tai yn y graig.

27Y ceiliogod rhêdyn nid oes brenin iddynt, ac etto hwynt a godant allan yn dorfeudd.

28Y pryf coppyn a afaela ai law, ac a êrys yn llŷs y brenin.

29Y tri pheth hyn a rodiant yn hardd, îe pedwar peth a rodiant yn hardd weddus,

30Hên lew crŷf ym mhlith anifeiliaid yr hwn ni thrŷ yn ôl ei gefn er ofn nêb.

31Y milgi crŷf yn ei feingefn, a hwrdd, a brenin, ni chyfŷd neb yn ei erbyn.

32Os buost ffôl yn ymdderchafu, ac os amcenaist, dyro dy law ar dy enau:

33Canys megis y dwg yr hwn a gorddo laeth ymênyn allan, ac y gwna yr hwn a wasco ffroenau i’r gwaed dyfod allan: felly cymmell llid a ddwg allan gynnen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help