1 Duw sydd yn sefyll yng-hynnulleidfa duwiau: ym mhlith duwiau y barn efe.
2Pa hŷd y bernwch ar gam? ac y cymmerwch blaid y rhai annuwiol? Selah.
3Bernwch y tlawd a’r ymddifad, cyfiawnhewch y truan a’r rheidus.
4Gwarêdwch y tlawd a’r anghênus: achubwch o law y rhai annuwiol.
5Ni ŵyddant, ac ni ddeallant, mewn tywyllwch y rhodiasant: holl sylfaenau y ddaiar a symmudwyd oi lle.
6Myfi a ddywedais, duwiau chwi: a meibion y Goruchaf chwi oll.
7Diau y byddwch feirw fel dynnion, ac fel vn o’r tywysogion y syrthiwch.
8Cyfot ô Dduw, barna’r ddaiar, canys ti a etifeddi’r holl genhedloedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
