1Y Ddecfed flwyddyn ar hugain yn ôl destruwiad y ddinas, yr oeddwn o fewn Babilon yn gorwedd ar fyng-wely yn drallodus, a’m meddyliau oeddynt yn dyfod i fynu ar fynghalon.
2Canys gwelais ang-hyfanneiddrwydd Sion, a digonolrwydd trigolion Babilon.
3A’m hysbryd a gynhyrfwyd yn ddirfawr, a dechreuais ddywedyd wrth y Goruchaf eiriau ofnadwy, gan ddywedyd,
4O Arglwydd a llywydd, dywedaist yn y dechreu pan osodaist y ddaiar (a hyn dy hun yn vnic) a phan roddaist orchymyn i’r bobl.
5A phan roddaist i Adda gorph marw, Gene.2.7.ond efe oedd greadur dy ddwylaw, a chwythaist ynddo ef anadl bywyd, ac efe a wnaethbwyd yn fyw ger dy fron di.
6A dygaist ef i Barâdwys yr hon a blannase dy ddwylo dy cyn dwyn o’r ddaiar ei ffrwyth.
7A gorchymynnaist iddo ef garu dy ffordd di, ac efe ai gwrthododd hi: ac allan o law ti a ordeiniaist iddo ef farwolaeth, ac iw heppil o honaw ef y daeth cenhedloedd, llwythau, pobl, a chenhedlaethau anelrif.
8A Gen.6.12.phob cenedl a rodiodd wrth ei hewyllys ei hun, a gwnaethant bethau rhyfedd yn dy olwg di, a diystyrâsant dy orchymynnion.
9Ond Gen.7.10.yn ôl ennyd o amser ti a ddugaist y diluw ar vchaf presswylwŷr y ddaiar, a difethaist hwynt.
10Ac felly y digwyddodd i bawb o honynt, feli Adda farw, a dyfod y diluw ar y rhai hynn.
11Er hynny 1.Pet.3.20.ti a adewaist vn Noah ai deulu, ac o honaw efy daeth pôb cyfiawn.
12A digwyddodd, pan ddechreuodd y rhai oeddynt yn presswylio ar y ddaiar amlhau, a phā oedd eiddynt lawer o blant, a phan oeddynt yn bobl ac yn genedl fawr, dechreuasant wneuthur mwy o anwiredd nâ’r rhai cyntaf.
13A digwyddodd, pan oeddynt yn annuwiol ger dy fron di, Gene.12.1.ddewis o honot it ŵr o honynt a elwyd Gene.17.5.Abraham.
14A hwnnw a geraist, a dangosaist iddo ef yn vnic dy ewyllys.
15A gwnaethost ag ef gyfammod tragywyddol, a dywedaist-wrtho, na wrthodit byth ei hâd ef.
16A rhoddaist iddo ef Gene.21.2.Isaac, ac i Isaac y rhoddaist Gene.25.25. Mal.1.2,3.Iacob ac Esau, ac Iacob o ddewisaist, Rhuf.9.13.a gwrthodaist Esau, ac Iacob a aeth yn genedl fawr.
17A phan ddygaist ei heppil ef allan o’r Aipht, Exod.19.1. Deut.4.10.ti ai derchefaist hwynt i fynydd Sinai,
18A gogwyddaist y nefoedd, ac a siccrheaist y tir, a chynhyrfaist y ddaiar, a gwnaethost i’r dyfnderoedd ofni, a thrallodaist y bŷd.
19A’th ogoniant a aeth drwy bedwar porth o dân, a daiar-gryniadau, gwynt, ac oerni fel y gellit roddi cyfraith i hâd Iacob, a diwydrwydd i genhedlaeth Israel.
20Ac ni thynnaist oddi wrthynt hwy y galon ddrwg, fel y galle dy gyfraith ddwyn ffrwyth ynddynt hwy.
21Canys yr Adda cyntaf yn dwyn calon ddrwg a droseddodd ac a orchfygwyd, Gene.3.6.a phawb a’r a anwyd o honaw ef.
22Fel hyn yr arhosodd gwendid, a’r gyfraith yng-halonnau ’r bobl, gyd â drygioni ’r gwreiddin, a’r hyn oedd dda a ymadawodd, a’r drwg a arhosodd.
23Ac felly ’r amseroedd a gerddasant, a’r blynyddoedd a ddarfuant, a 1.Sam.16.3.chodaist i fynu it wâs a elwyd Dafydd,
24A pheraist iddo ef adailadu dinas i’th enw di, 2.Sam.5.1. & 7.5.ac offrwm it yno thûs ac aberthau.
25A hynny a wnaethpwyd dros lawer o flynyddoedd, a phresswyl-wŷr y ddinas a ymadawsant
26Gan wneuthur ym mhob peth fel Adda ai holl genhedlaeth, canys calon ddrwg oedd ganddynt hwythau hefyd.
27Ac felly y rhoddaist dy ddinas i ddwylo dy elynion.
28A wnant hwy sydd yn presswilio yn Babilon ddim gwell, fel y caent hwy lywodraethu Sion:
29A phan ddaethum yno, a gweled drygioni aneirif, a’m henaid a welodd lawer o droseddwŷr yn y ddecfed flwyddyn ar hugain hon, a’m calon a ddeffygiodd.
30Canys gwelais fel y cyd-ddygaist â hwynt yn pechu, ac arbedaist y drwg weithredwŷr, a difethaist dy bobl dy hun, a chedwaist dy elynion, ac ni’s dangosaist hyn.
31Ni fedraf feddwl pa fodd y dylid gadel y ffordd hon, ai gwell y gwnânt hwy o Babilon, na hwy o Sion:
32Neu a oes bobl yw cael a’th edwyn di heb law pobl Israel: neu, pa hiliogaeth a gredodd i’th gyfammodau di fel Iacob:
33Ac er hynny ni’s gwelir moi gwobr hwynt, ac nid oes ffrwyth iw llafur hwy: canys aethym yma a thraw drwy ’r cenhedloedd, a gwelaf hwynt yn oludog ar ni’s meddyliant am dy orchymynnion di.
34Am hynny, pwysa mewn clorian ein pechodau ni, ai hanwireddau hwynt sy yn presswylio yn y bŷd: ac ni cheffir dy enw ond yn Israel.
35Neu pa bryd ni phechodd yn dy olwg di y rhai sydd yn presswylio ar y ddaiar: neu pa bobl a gadwodd felly dy orchymynnion:
36Cei ŵybod mai Israel a gadwodd dy orchymynnion, ac nid y cenhedloedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.