Psalmau 54 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. viiij.At y pen-cerdd ar y Neginoth Athrawiaeth Dafydd: Pan ddaeth y Ziphiaid a dywedyd wrth Saul 1.Sam.23.19.onid ydyw Dafydd yn ymguddio gyd â ni?

1Achub fi ô Dduw yn dy enw: a barna fi yn dy gadernid.

2Duw clyw fyng-weddi, gwrando ymadrodd fyng-enau.

3Canys dieithriaid a gyfodâsant i’m herbyn: a chedyrn a geisiâsant fy enaid, ni osodâsant Dduw oi blaen.Selah.

4Wele Duw sydd yn fyng-hynnorthwyo: ’r Arglwydd ym mysc y rhai a gynhaliant fy enaid.

5Efe a dâl ddrwg i’m gelynnion: torr di hwynt ymmaith yn dy wirionedd.

6Aberthaf it yn ewyllyscar, clodforaf dy enw ô Arglwydd, canys dâ yw.

7Canys efe a’m gwaredodd o bob trallod, a’m llygad a welodd ar fyng-elynnion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help