1A Daeth gair yr Arglwydd attaf gan ddywedyd:
2Gosot dy wyneb fab dŷn tu ag at fynydd Seir, a phrophwyda yn ei erbyn.
3Dywet hefyd wrtho, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Dduw, wele fi i’th erbyn di mynydd Seir, estynnaf hefyd fy llaw arnat, a rhoddaf di yn anghyfannedd, ac yn ddiffaethwch.
4Gosodaf dy ddinasoedd yn ddiffaethwch, a thithe a fyddi yn anghyfannedd, fel y gwypech mai myfi yr Arglwydd.
5Am fod gennit alanastra tragywyddol, ac ymlit o honot feibion Israel â mîn y cleddyf yn amser eu gofid hwynt yn amser diwedd hanwiredd
6Am hynny byw fi medd yr Arglwydd Dduw, oni wnaf di yn waed, a gwaed a’th ymlyd di, îe gwaed a’th ddilyd oni chasei waed.
7Rhoddaf hefyd fynydd Seir yn anrhaith, ac yn ddiffaethwch, a thorraf ymmaith o honaw ef yr hwn a elo, a’r hwn a ddychwelo.
8Llanwaf hefyd ei fynyddoedd ef ai Iaddedigion, yn dy frynnau, a’th ddyffrynnoedd, a’th holl afonydd, rhai wedi lladd â chleddyf a syrthiant ynddynt.
9Rhoddaf di yn anrhaith tragywyddol, a’th ddinasoedd ni chyfanneddir, fel y gŵypoch mai myfi yr Arglwydd.
10Am ddywedyd o honot y ddwy genhedlaeth, a’r ddwy wlad fyddant eiddo fi: canys gorescynnwn hwy er bod yr Arglwydd yno:
11Am hynny byw fi medd yr Arglwydd Dduw, a gwnaf yn ôl dy ddîg, ac yn ôl dy wŷn y rhai o’th gâs yn eu herbyn hwynt a wnaethost: fel i’m hadwaener yn eu mysc hwynt pan i’th farnwyf di.
12A chei ŵybod ddarfod i mi’r Arglwydd glywed dy holl ddirmyg yr hyn a draethaist yn erbyn mynyddoedd Israel gan ddywedyd: anrheithiwyd hwynt, i ni y rhoddwyd hwynt yn ymborth.
13Ymfawrygasoch hefyd a’ch geneuau yn fy erbyn i, ac amlhausoch eich geiriau i’m herbyn: mi clywais.
14Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Dduw, anrhaith a wnaf it fel y llawenycho’r holl wlad.
15Fel dy lawenydd di am feddiant tŷ Israel o herwydd ei anrheithio, felly y gwnaf i tithe: anrhaith fyddi dy mynydd Seir ac Edom oll ei gyd: fel y gwypont mai myfi yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
