Ieremi 51 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. LI.Dinistr Babilon. 59 Ieremi yn rhoddi ei lyfr i Sariah.

1Fel hynn y dywed yr Arglwydd, wele myfi a godaf wynt dinistriol yn erbyn Babilon, ac yn erbyn thrigolion y rhai a godant calon yn fy erbyn i.

2Ac mi a anfonaf i Babilon nith-wŷr, a hwynt ai nithiant hi, ac a waghânt ei thir hi, o herwydd hwynt a fyddant yn ei herbyn hi o amgylch ar y dydd blinderoc.

3Wrth y perchen bwâu, ac wrth yr hwn a ymdderchafo mewn llurig na chymmerwch drugaredd ar ei gwyr ieuaingc, difrodwch chwi ei holl lu hi.

4Felly y rhai lladdedig a syrthiant yng-wlad y Caldeaid, a’r rhai archolledic yn ei heolydd hi.

5Canys Israel nid yw weddw, nac Iuda oi Duw, o Arglwydd y lluoedd: er bod eu gwlâd hwynt yn llawn o gamwedd yn erbyn Sanct yr Israel.

6Ffoiwch chwi o ganol Babilon, ac achubwch bawb ei enioes ei hun, na adewch chwi eich difetha yn ei hanwiredd hi, o blegit amser dial hwn i’r Arglwydd, efe a dâl y pwyth iddi hi.

7Phiol aur Babilon yn llaw yr Arglwydd, yn meddwi pôb gwlâd: yr holl genhedloedd a yfasant oi gwîn hi, am hynny y cenhedloedd a ynfydâsant.

8 Esa. 21 9.|ISA 21:9. gwel.14.9. Yn ddisymmwth y syrthiodd Babilon, ac y drylliwyd hi: vdwch chwi drosti, cymmerwch driacl iw harcholl hi, i edrych a iachâ hi.

9Nyni a iachauasom Babilon ond nid aeth hi yn iach gedwch chwi hi ymmaith, ac awn bawb iw wlâd: canys ei barn a gyrhaeddodd i’r nefoedd, ac a dderchafwyd hyd yr wybrau.

10Yr Arglwydd a ddug allan ein cyfiawnder ni: deuwch a thraethwn ni yn Sion waith yr Arglwydd ein Duw ni.

11Gloiwwch y saethau, cesclwch chwi y tariannau, yr Arglwydd a gyffru yspryd brenhinoedd Media, o blegit y mae ei fryd ef yn erbyn Babilon iw dinistrio hi: Ierem.50.28.canys dial yr Arglwydd yw hynn, dial ei Deml ef.

12Derchefwch chwi faner ar furoedd Babilon, cadarnhewch y wiliadwriaeth, gosodwch i fynu y gwil-wŷr, darperwch chwi gynllwynwŷr, canys yr Arglwydd a fwriadodd, ac efe a wna hefyd yr hyn a lefarodd am drigoliō Babilon.

13Tydi yr hon ydwyt yn aros ar ddyfroedd lawer, yn aml dy dryssorau, dy ddiwedd di a ddaeth mesur dy gybydd-dod.

14Arglwydd y lluoedd a dyngodd iddo ei hun a hwynt a ganant floddest i’th erbyn.

15 Ierem.10.12. Yr hwn a wnaeth y ddaiar drwy ei nerth a siccrhaodd y bŷd trwy ei ddoethineb, ac a danodd y nefoedd drwy ei ddeall.

16Pan roddo efe ei lêf y terfysca y dyfroedd yn y nefoedd, ac y mae efe yn codi y niwloedd o eithaf y ddaiar, ac efe sydd yn gwneuthur y mellt yn law, ac yn dwyn y gwynt allan oi dryssorau.

17 Ierem.10.14. Ynfyd yw pôb dŷn o ŵybodaeth, gwradwyddwyd pôb toddydd o achos y ddelw: canys celwyddoc[yw] ei doddiad, ac nid oes chwythad ynddynt.

18Oferedd hwy gwaith cyfeiliorni: yn amser eu hymwelediad y difethir hwynt.

19Nid fel y rhai hynn, eithr lluni-ŵr y cwbl oll yw rhan Iacob: Ierem.10.16.ac gwialen ei etifeddiaeth ef, Arglwydd y lluoedd ei enw.

20Ti ydwyt forthwyl i mi, arfau rhyfel, â thi y drylliafi genhedloedd, ac â thi y dinistriaf deyrnasoedd,

21A thi hefyd y gwascaraf y march a’r march-ŵr, ac â thi y drylliaf y cerbyd ai farchog.

22A thi y drylliafi ŵr a gwraig, ac â thi y drylliaf hên ac ieuangc, ac â thi y drylliaf y gŵr ieuangc a’r forwyn.

23A thi hefyd y drylliafi y bugail ai braidd, ac â thi y drylliaf yr ardd-ŵr ai iau ŷchen, ac â thi y drylliaf y tywysogion a’r pennaethiaid.

24Ac mi a dalaf yn eich golwg chwi i Babilon, ac i holl bresswyl-wŷr Caldea eu holl ddrygioni hwynt yr hyn a wnaethant hwy yn Sion medd yr Arglwydd.

25Wele fi i’th erbyn di ô fynydd dinistriol, yr hwn yn dinistrio yr holl dîr medd yr Arglwydd, ac myfi a estynnaf fy llaw arnat, ac a’th dreiglaf di i lawr o’r creigiau, ac a’th roddaf di yn fynydd llosc:

26Fel na chymmerant o honot ti faen congl, na sylfaen: o blegit diffaethwch tragywyddol a fyddi di medd yr Arglwydd.

27Derchefwch chwi faner yn y tir, lleisiwch vdcorn ym mysc y cenhedloedd, darperwch chwi y cenhedloedd yn ei herbyn hi, gelwch chwi deyrnasoedd Ararat, Minni, ac Ascanez yn ei herbyn hi: gosodwch dywysog arni, gwnewch chwi i feirch ddyfod i fynu cynn amled a’r mywion ascelloc.

28Darperwch chwi y cenhedloedd yn ei herbyn hi, sef brenhinoedd Media, ai thywysogion, ai holl bennaethiaid hi, a’r holl wlâd, ei lywodraeth ef.

29Y ddaiar hefyd a gryna, ac a ofidia pan gyflawner amcan yr Arglwydd yn erbyn Babilon, am roddi gwlâd Babilon yn anghyfannedd heb drigiannol

30Cedyrn Babilon a beidiasant ag ymladd, ac y maent hwy yn aros o fewn yr amddeffynfeudd: pallodd eu cadernid hwynt, aethant yn wrageddos, ei hanneddau hi a loscwyd, ai barrau a dorrwyd.

31Redeg-ŵr a rêd i gyfarfod â rhedeg-ŵr, a chenned i gyfarfod â chennad, i fynegu i frenin Babilon orescyn ei ddinas ef oi chwrr,

32Ac ennill y rhydau, a llosci y llynnoedd â than, a synnu ar y rhyfel-wŷr.

33Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd Duw Israel: merch Babilon fel llawr dyrnu, amser ei dyrnu hi ac ar fyrder y daw amser cynhaiaf iddi.

34Nabuchodonosor brenin Babilon a’m hysodd fi, a’m dinistriodd, efe a’m gosododd fel llestr gwag, efe a’m llyngcodd fel draig, ac a lanwodd ei fol o’m dainteithion, a’m bwriodd fi allan.

35Y cam a wnaed i mi, ac i’m cnawd ar Babilon medd presswyl-ferch Sion: a’m gwaed i ar drigolion Caldea medd Ierusalem.

36Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, wele myfi a ddadleuaf dy ddadle di, ac a ddialaf trosot ti: ac mi a ddiyspyddaf ei môr hi, ac a sychaf ei ffynhonnau hi.

37Yna y bydd Babilon yn garneddau, yn drigfa dreigiau, yn syndra, ac yn aruthr, heb bresswylydd.

38Cyd-rûant fel llewod: bloeddiant fel cenawon llewod.

39 Dan.5.2. Yn eu gwrês hwynt y gosodaf wledd iddynt, ac mi ai meddwaf hwynt fel y llawenychant, ac y cyscant hûn dragywyddol: ac ni ddeffroant medd yr Arglwydd.

40Myfi ai dygaf hwynt i wared fel ŵyn iw lladd,fel hyrddod a bychod.

41Pa fodd y gorescynnwyd Sesach? ac yr ennillwyd gogoniant yr holl dîr? pa fodd yr aeth Babilon yn rhyfeddod ym mysc y cenhedloedd?

42Y môr a dderchafodd tros Babilon: hi a orchguddiwyd ag amlder ei donnau ef.

43Ei dinasoedd hi a aethant yn anghyfannedd, yn gras-dîr, ac yn rhôs: gwlâd ni thrîg vn gŵr ynddi, ac ni thrammwya mab dyn trwyddi.

44Ac mi a ymwelaf â Bel yn Babilon, ac mi a dynnaf oi safn ef yr hyn a lyngcodd efe: a’r cenhedloedd ni ddilifant atto ef mwyach, a mûr Babilon a syrth.

45Deuwch chwi allan oi chanol ô fy mhobl, ac achubwch chwi bôb vn ei enioes, rhac llid digofaint yr Arglwydd,

46Ac rhac llwfrhau eich calonnau, ac ofni rhag y chwedl a glywir yn y wlâd: canys y flwyddyn chwedl newydd, ac ar ôl hynny chwedl newydd y flwyddyn a thrais yn y wlâd, a llywodraeth-ŵr ar lywodraeth-ŵr.

47Am hynny wele y dyddiau yn dyfod pan yr ymwelwyf â delwau Babilon, ai holl wlâd hi a wradwyddir, ai holl rai lladdedig hi a syrthiant yn ei chanol.

48Yna y nefoedd a’r ddaiar a’r hyn oll ynddynt a gânant yn llafar o herwydd Babilon: o blegit o’r gogledd y daw yr anrheith-wŷr medd yr Arglwydd.

49Fel y gwnaeth Babilon i’r rhai lladdedic o Israel syrthio: felly y Babiloniaid a syrthiant yn lladdedig drwy yr holl dîr.

50Y rhai a ddiangant gan y cleddyf ewch chwi ymmaith na sefwch, cofiwch chwi yr Arglwydd o bell, a bydded Ierusalem yn eich cof chwi.

51Yr oedd cywilydd arnom pan glywsom ni y cabledd, gwarth a orchguddiodd ein hwynebau ni pan ddaeth yr estroniaid i gyssegr tŷ yr Arglwydd.

52Am hynny wele y dyddiau yn dyfod medd yr Arglwydd, pan ymwelwyfi ai delwau hwynt: a thrwy ei holl wlâd hi y clwyfus a riddfan.

53Er i Babilon dderchafu i’r nefoedd, ac er iddi gadarnhau ei hamddeffynfa yn vchel: anrheith-wŷr a ddeuant oddi wrthifi medd yr Arglwydd.

54Sain gwaedd o Babilon: a dinistr mawr o wlâd y Caldeaid,

55O herwydd yr Arglwydd a anrheithiodd Babilon, ac a ddinistriodd y mawr-air o honi hi: er rhuo oi tonnau fel dyfroedd lawer rhoddi twrwf eu llef hwynt.

56Canys yr anrheith-ŵr, a ddaeth yn ei herbyn hi, sef yn erbyn Babilon, ai chedyrn hi a ddaliwyd, ei bŵa hi a dorrwyd: canys Arglwydd Dduw y gobr, a obrwya yn gwbl.

57Myfi a feddwaf ei thywysogion hi, ai doethion, ei phennaethiaid, ai swyddogion, ai chedyrn fel y cyscant hûn dragywyddol, ac na ddeffroant medd y Brenin, enw yr hwn Arglwydd y lluoedd.

58Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, gan ddryllio y dryllir helaeth furoedd Babilon, ai huchel byrth a loscir â thân: a’r bobl a ymboenant mewn oferedd, a’r cenhedloedd mewn tân, a hwynt a ddeffygiant.

59Y gair yr hwn a orchymynnodd Ieremi y prophwyd i Saraiah fab Neriah, fab Maasiah pan oedd efe yn myned gyd â Sedecia frenin Iuda i Babilon, y bedwaredd flwyddyn oi deyrnasiad ef: a Saraiah oedd dywysog llonydd.

60Felly Ieremi a scrifennodd yr holl niwed a’r a oedd ar ddyfod yn erbyn Babilon mewn vn llyfr: sef yr holl bregethau y rhai a scrifennwyd yn erbyn Babilon.

61Ac Ieremi a ddywedodd wrth Saraiah, pan ddelech di i Babilon, yna edrych di a darllen y geiriau hynn,

62A dywet ti: ô Arglwydd ti a leferaist yn erbyn y lle hwn, am ei ddinistrio fel na bydde ynddo bresswylydd, na dŷn nac anifail, eithr yn anghyfannedd tragywyddol.

63A phan ddarfyddo i ti ddarllen y llyfr hwn, rhwym di faen wrtho, a bwrw di ef i ganol Euphrates,

64A dywet, fel hynn y soddir Babilon, ac ni chyfyd hi gan y drwg yr hwn a ddygafi arni, oni ddeffygiant. HYD HYN PREGETHAV IEREMI.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help