1Wele y dydd yn dyfod i’r Arglwydd, pan rennir dy yspail ynot ti.
2A chasclaf yr holl genhedloedd i ryfel yn erbyn Ierusalem, a’r ddinas a orescynnir, y tai a fethrir, a’r gwragedd a dreisir, a hanner y ddinas a aiff allan mewn caethiwed, a’r rhan arall o’r bobl ni’s difethir o’r ddinas.
3A’r Arglwydd a aiff allan, ac a ryfela yn erbyn y cenhedloedd hynny, megis y dydd y rhyfelodd efe yn nydd y gâd.
4Ai draed a safant y dydd hwnnw ar fynydd yr oliwydd, yr hwn ar gyfer Ierusalem, o du’r dwyrain: a mynydd yr oliwydd a hyllt ar draws ei hanner, tua’r dwyrain, a thua’r gorllewyn yn geunant mawr odieth: a hanner y mynydd a symmud tua’r gogledd, ai hanner tua’r dehau.
5Yna y ffoiwch i geunant fy mynyddoedd mau fi, canys ceunant fy mynyddoedd a gyredd hyd Azal, a ffoiwch fel y ffoasoch rhac y ddaiargryn yn nyddiau Uzziah brenin Iuda: a daw’r Arglwydd fy Nuw, holl sainct gyd â thi.
6A’r dydd hwnnw y daw i benn, na byddo goleuad gwerth-fawr, onid thywyllwch.
7A bydd vn diwrnod, hwnnw a adweinir gan yr Arglwydd, nid dydd, ac nid nôs, onid bydd goleuni yn amser cyfnos.
8A bydd y dwthwn hwnnw y daw allan o Ierusalem ddyfroedd enioes: eu hanner hwynt tua môr y dwyrain, ai hanner tua’r môr eithaf, tros hâf, a gaiaf y bydd
9A’r Arglwydd a fydd yn Frenin ar yr holl dîr: y dydd hwnnw y bydd vn Arglwydd ai henw yn vn.
10Troir yr holl dir megis yn wastad, o Gibea hyd Rimmon, o’r tu deheu i Ierusalem, hi a dderchefir, ac a erys yn ei lle, o borth Beniamin hyd le y porth cyntaf, hyd borth y conglau, ac o dŵr Hananeel hyd win-wrŷf y brenin.
11Yno y trigant ynddi, ac ni bydd yn ddifrod mwyach: onid Ierusalem a eistedd yn ddienbyd.
12A hyn fydd y blâ a’r hon y teru’r Arglwydd yr holl bobloedd y rhai a ryfelant yn erbyn Ierusalem: eu cnawd a dderfydd er eu bod yn sefyll ar eu traed, ai llygaid a ddarfyddant yn eu tyllau, ai tafod a dderfydd yn eu safn.
13Y dydd hwnnw y bydd mawr derfysc yr Arglwydd yn eu plith hwynt, a phob vn a ddeil law ei gymydog, ac a dderchaf ei law ar law ei gymydog.
14A Iuda hefyd a ryfela yn erbyn Ierusalem, a chesclir golud yr holl genhedloedd o amgylch, sef aur ac arian, a gwiscoedd yn lliaws mawr.
15Ac felly y bydd pla y march, y mûl, y camel, yr assyn, a phob anifail yr hwn a fyddo yn y gwerssylloedd hynny fel y blâ hon.
16A bydd i bob vn a adawer o’r holl genhedloedd a ddaethant yn erbyn Ierusalem fyned i fynû o flwyddyn i flwyddyn, i addoli y Brenin, Arglwydd y lluoedd, ac i gadw gŵyl y pebyll.
17A phwy bynnac nid êl i fynu o deuluoedd y bŷd i Ierusalem, i addoli y Brenin Arglwydd y lluoedd ni bydd glaw arnynt.
18Ac os teulu’r Aipht nid aiff i fynu, ac ni ddaw, y arnynt: fydd y blâ, a’r hon y teru’r Arglwydd y cenhedloedd, y rhai nid escynnant i gadw gŵyl y pebyll.
19Hyn a fydd cosp yr Aipht, a chosp yr holl genhedlaethau y rhai nid elont i fynu i gadw gŵyl y pebyll.
20Y dydd hwnnw y bydd ar sinclys ffrwyn y march SANCTEIDDRWYDD I’R ARGLWYDD: bydd y crochanau yn nhŷ’r Arglwydd fel meiliau ger bron yr allor.
21Bydd pob crochan yn Ierusalem, ac yn Iuda yn sancteiddrwydd i Arglwydd y lluoedd: a daw pob aberth-wr, ac a gymmerant o honynt, ac a ferwant ynddynt: ac ni bydd Canaanead mwyach yn-nhŷ Arglwydd y lluoedd y dydd hwnnw.
Terfyn prophwydoliaeth Zacharias.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.