Ieremi 8 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VIII.Dinistr yr Iddewon, a’r pechodau y rhai oeddynt yn peru hynny.

1Yn yr amser hwnnw medd yr Arglwydd y dygant hwy escyrn brenhinoedd Iuda, ac escyrn ei thywysogion, ac escyrn yr offeiriaid, ac escyrn y prophwydi, ac escyrn trigolion Ierusalem allan oi beddau,

2Ac ai tanant o flaen yr haul, ac o flaen y lleuad, a holl lu y nefoedd y rhai a garâsant, a’r rhai a wasanaethasant, a’r rhai a rodiasant ar eu hôl, a’r rhai a geisiâsant, a’r rhai a addolâsant: ni chesclir hwynt, ac ni’s cleddir, yn domen ar wyneb y ddaiar y byddant.

3Ac angeu a ddewisir o flaen bywyd gan yr holl weddillion a adewir o’r teulu drwg hwn, y rhai a adewir yn y lleoedd oll y gwascerais i hwynt, medd Arglwydd y lluoedd.

4Ti a ddywedi wrthynt hefyd, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd: a gwympant hwy ac ni chodant eilwaith? os troir oni thrŷ yntef?

5Pa ham y camdroes pobl Ierusalem ymma, a chamder tragywyddol? ymafelasant mewn twyll, gwrthodasant ddatroi.

6Mi a ystyriais ac a wrandewais, ni ddywedent yn iawn, nid edifarhaodd neb am ei anwiredd gan ddywedyd, beth a wneuthum i, pob vn oedd yn troi iw yrfa megis march yn rhuthro i’r frwydr.

7Y ciconia yn yr awyr a edwyn ei dymhorau, y durtur hefyd, a’r garan, a’r wennol a gadwant amser eu dyfodiad: eithr fy mhobl i ni wyddant farn yr Arglwydd.

8Pa fodd y dywedwch synhwyrol ni, a chyfraith yr Arglwydd gyd â ni, y pinn yn ddiau a weithiodd ar ffalster, a gelwydd.

9Y doethion a wradwyddwyd, a ddychrynwyd, ac a ddaliwyd: wele gwrthodasant air yr Arglwydd, a pha ddoethineb ganddynt?

10Am hynny y rhoddaf eu gwragedd hwynt i eraill, ai meusydd i orescy-wŷr: Esa.56.11. Ier.5.31. Ier.6.13canys o’r lleiaf hyd y mwyaf, pob vn sy yn chwennychu elw: o’r prophwyd hyd at yr offeiriad, pawb sydd yn gwneuthur ffalster.

11Iachausant hefyd archoll merch fy mhobl yn yscafn, gan ddywedyd, Ier.6.14.heddwch, heddwch, pryd nad heddwch.

12A fu gywilydd arnynt hwy am wneuthur o ohonynt fryntni? na fu ddim cywilydd arnynt, gan gywilyddio ni chwilyddiasant ychwaith: am hynny y syrthiant hwy ym mysc y rhai lladdedic: yn amser eu hymweledigaeth y syrthiant medd yr Arglwydd.

13Gan ddinistrio y dinistriaf hwynt medd yr Arglwydd: ni grawn-win ar y winwydden, na ffigus ar y ffigus-bren, a’r ddeilen a syrthia, a’r hyn a roddais i iddynt a ymedu â hwynt.

14Pa ham yr ydym ni yn aros? ymgesclwch yng-hyd, ac awn i’r dinasoedd cedyrn, a distawn yno: canys yr Arglwydd ein Duw a’n gostegodd, ac a roes i ni ddwfr bustlaidd iw yfed, o herwydd pechu o honom yn erbyn yr Arglwydd.

15 Iere.14.19. Disgwil am heddwch, etto ni ddaw daioni, am amser meddiginiaeth, ac wele ddychryn.

16 Ier.4.15. O Ddan y clywir ffroeniad ei feirch ef, gan lais gweryrfa ei mawrion ef y crynodd yr holl ddaiar: hwy a ddaethant, ac a fwyttasant y tir, ac oll a oedd ynddo, y ddinas a’r rhai sy yn trigo ynddi.

17Canys wele mi a Ier.4.19.ddanfonaf seirph gwiberod i’ch mysc y rhai nid swyn rhac-ddynt: a hwynt a’ch brathant chwi medd yr Arglwydd.

18Fyng-hyssur mewn gofid, fyng-halon sydd yn gofidio ynof.

19Wele lais gwaedd merch fy mhobl rhag y rhai o wlâd bell: ond yr Arglwydd yn Sion? onid ei Brenin hi ynddi? pa ham i’m digiasant â delwau cerfiedig? ac ag oferedd dieithr?

20Y cynhaiaf aeth heibio, darfu’r hâf, er hyn nid ydym ni gadwedic.

21Am friw merch fy mhobl i’m briwyd i, galerais, daliodd synder fi.

22Onid driacl Osea.6.8.yn Gilead? onid yno bysygwr? pa ham na wellhâ iechyd merch fy mhobl?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help