Gweledigaeth Ioan 16 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVI.1 Yr angelion yn tywallt eu phiolau yn llawn digofaint, 6 a pha blâ sy yn dyfod o hynny, 15 rhybudd i ymochelyd, a gwilied.

1Ac mi a glywais lef vchel allan o’r Deml yn dywedyd wrth y saith angel, ewch i ffordd, a thywelltwch allan saith phiol digter Duw ar y ddaiar.

2A’r cyntaf a aeth, ac a dywalltodd ei phiol ar y ddaiar, a chornwyd drŵg a dolurus a syrthiodd ar y gwyr y rhai oeddynt â nôd y bwystfil arnynt, ac ar y rhai a addolâsent ei ddelw ef.

3A’r ail angel a dywalltodd ei phiol ar y môr, ac efe a aeth fel gwaed celain, a phôb peth byw yn y môr a fu farw.

4A’r trydydd angel a dywalltodd ei phiol allan ar yr afonydd, a ffynhonnau’r dyfroedd, ac hwy a aethant yn waed.

5Ac mi a glywais angel y dyfroedd yn dywedyd, ô Arglwydd yr ŵyt yn gyfiawn, yr hwn ŵyt, ac yr hwn a fuost y Sanctaidd, o herwydd i ti farnu y pethau hyn.

6Canys hwy a dywalltasant waed y sainct, a’r prophwydi, ac am hynny y rhoddaist iddynt waed i yfed: y maent yn heuddu.

7Ac mi a glywais vn arall o’r allor yn dywedyd, ie Arglwydd Dduw holl-alluog, cywir a chyfiawn yw dy farnau di.

8A’r pedwerydd angel a dywalltodd allan ei phiol ar yr haul, a gallu a roed iddo i boethi dynion trwy dân.

9A’r dynion a doethasant gan wrês mawr, ac a gablâsant henw Duw, yr hwn sydd ag awdurdod gando ar y plâuau hyn, ac ni chymmerasant edifeirwch i roi gogoniant iddo ef.

10A’r pummed angel a dywalltodd allan ei phiol ar orseddfaingc y bwyst-fil, a’i deyrnas ef a aeth yn dywyll, ac hwy a gnoasant eu tafodau gan ddolur.

11Ac hwy a gablasant Dduw y nêf, gan eu poenau, a chan eu cornwydydd, ac ni chymmerasant edifeirwch am eu gweithredoedd.

12A’r chweched angel a dywalltodd allan ei phiol ar yr afon fawr Euphrates, a’i dwfr hi a sychodd, fel y gellid paratoi ffordd i frenhinoedd y dwyrain.

13A mi a welais dri yspryd aflan yn debyg i lyffaint, yn dyfod allan o enau’r ddraig, ac allan o enau y bwyst-fil, ac allan o enau’r prophwydi ffeilsion.

14Canys ysprydion cythreuliaid ydynt, yn gwneuthur gwrthiau, i fyned at frenhinoedd y ddaiar, a’r hôll fŷd, iw casclu hwynt i ryfel y dydd mawr hwnnw y Duw holl-alluog.

15Wele yr wyf i yn dyfod fel lleidr, gwyn ei fyd yr hwn a wilio, ac a gadwo ei ddillad, rhag iddo rodio yn noeth, a rhag gweled ei warth ef.

16Ac efe a’u casclodd hwynt yng-hyd i le a elwir yn Ebryw, Arma-gedon.

17A’r seithfed angel a dywalltodd allan ei phiol i’r awyr, a llef vchel a ddaeth allan o deml y nêf, oddi wrth yr orseddfaingc yn dywedyd, fe a ddarfu.

18Ac yr oedd lleisiau, a tharânau, a mellt, ac yr oedd diargryn mawr ar y ddaiar, cyfryw na bu er pan y maê dynnion ar y ddaiar, crynfa yr ddaiar oedd gymmaint.

19A rhannu a wnaethwyd y ddinas fawr yn dair rhā, a syrthio a wnaeth dinasoedd y cenhedloedd, a Babylon fawr a ddaeth mewn côf ger bron Duw, i roddi iddi gwppan gwin i digofaint ei lid ef.

20A phôb ynys a ffôdd ymmaith, ac ni chafwyd y mynyddoedd,

21A syrthio a wnaeth cenllysc mawr fel talentau o’r nêf ar y dynion, a’r dynion a gablasant Dduw am blâ’r cenllysc, canys mawr dros ben oedd eu pla hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help