1Erchwch gan yr Arglwydd law mewn pryd diweddar-law: Arglwydd a bair ddisclair ac a ddŷd iwch gofod-law, i bob vn las-wellt y maes.
2Canys y delwau a ddywedant wagedd, a’r dewiniaid a welant gelwydd, ac a ddywedant freuddwydion oferedd, rhoddant goeg gyssur: am hynny y symmudasant fel defaid, cystuddiwyd hwynt am nad bugail.
3Wrth y bugeiliaid yr ynynnodd fy llid, ac ymwelaf a’r bychod: canys Arglwydd y lluoedd a ymwel ai braidd tŷ Iuda, ac ai gesyd fel ei glod-fawr farch yn y rhyfel.
4Y gongl a ddaw allan oddi wrtho ef, yr hoel oddi wrtho ef, y bwa rhyfel oddi wrtho ef, phob gorthrymmwr ar vnwaith oddi wrtho ef.
5A byddant fel cewri yn sathru yn nhom yr heolydd yn y rhyfel: a rhyfelant, canys yr Arglwydd gyd â hwynt, a chywilyddiir marchogion meirch.
6Nerthaf dŷ Iuda, a gwaredaf dŷ Ioseph, a pharaf iddynt ddychwelyd, canys trugarheais wrthynt, a byddant fel pe na’s gadawswn hwynt: o herwydd myfi ydwyf yr Arglwydd eu Duw hwynt, ac ai gwrandawaf hwynt.
7Bydd Ephraim hefyd fel cawr, a’u calonnau a lawenychant fel trwy win: ai meibion a gânt weled, ac a lawenychant, a bydd eu calon hwynt hyfryd yn yr Arglwydd.
8Chwibianaf arnynt, a chasclaf hwynt, canys gwaredaf hwynt, ac amlhânt fel yr amlhasant.
9Hauaf hwynt ym mysc y bobloedd, ac o bell i’m coffânt, a byddant fyw hefyd gyd ai plant, a dychwelant.
10A pharaf iddynt ddychweld o dîr yr Aipht, a chasclaf hwynt o Assyria, ac arweiniaf hwynt i dîr Gilead a Libanus, ac ni cheir iddynt.
11Ac efe a drāmwya dros fôr blinder, a theru y tonnau yn y môr: a holl ddyfnderoedd yr afon a fyddant ddiespydd: yno y descynnir balchder Assur, a theyrn-wialen yr Aipht a gilia.
12Nerthaf hwynt hefyd yn yr Arglwydd, ac yn ei enw ef yr ymrodiant, medd yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
