1Llawer gwaith i’m cystuddiasant o’m hieuengtid, (y dichon Israel ddywedyd yn awr. )
2Llawer gwaith i’m cystuddiasant o’m hieuengtid, etto ni’m gorfuant.
3Yr arddwŷr a arddasant ar fyng-hefn, estynnasant eu cwysau yn hirion.
4Yr Arglwydd cyfiawn a dorrodd raffau y rhai annuwiol.
5Y rhai a gasânt Sion gŵaradwydder hwy oll, a chiliant yn ôl.
6Byddant fel glas-wellt penn tai, yr hwn a wywa cynn y tynner ef ymmaith.
7A’r hwn ni leinw y pladur-wr ei law: na’r hwn fyddo yn rhwymo yr yscubau ei fonwes.
8Fel na ddywed y rhai a ânt heibio, bendith yr Arglwydd arnoch: bendithiwn chwi yn enw’r Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
