Deuteronomium 27 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXVII.Gorchymyn scrifennu y gyfraith mewn carrec er coffadwriaeth. 5 Am adailadaeth yr allor. 12 Am y bendithion ar fynydd Garizim. 13 Am y melldithion ar fynydd Ebal.

1Yna y gorchymynnodd Moses, a henuriaid Israel i’r bobl gan ddywedyd: cedwch yr holl orchymynnion y rhai yr ydwyfi yn eu gorchymyn i chwi heddyw.

2A bydded yn y dydd yr hwn yr elech tros yr Iorddonen i’r tîr yr hwn y mae’r Arglwydd dy Dduw yn ei roddi it: godi o honot i ti gerric mawrion, a chalcha hwynt a chalch.

3Ac scrifenna arnynt holl eiriau y gyfraith hon, pan elech trosodd i fyned i’r tîr yr hwn y mae’r Arglwydd dy Dduw yn ei roddi it, tîr yn llifeirio o laeth a mêl: megis ac y llefarodd Arglwydd Dduw dy dadau wrthit.

4A phan eloch tros yr Iorddonen codwch y cerric hynn y rhai yr ydwyfi yn eu gorchymyn i chwi heddyw ym mynydd Ebal: a chalcha hwynt a chalch.

5Ac Exod.20.25. Ios.8.31.adailada yno allor i’r Arglwydd dy Dduw, allor gerric, na chyfot arnynt haiarn.

6[A] cherric cyfan yr adailedi allor yr Arglwydd dy Dduw, yna offrymma arni boethoffrymmau, i’r Arglwydd dy Dduw.

7Offrymma hefyd hedd aberthau, a bwytta yno, a llawenycha ger bron yr Arglwydd dy Dduw.

8Ac scrifenna ar y cerric holl eiriau y gyfraith hon yn eglur ddigon.

9A llefarodd Moses, a’r offeiriaid Lefiadaidd wrth holl Israel gan ddywedyd: gwrando a chlyw ô Israel, y dydd hwn i’th wnaethbwyd yn bobl i’r Arglwydd dy Dduw.

10Gwrando gan hynny ar lais yr Arglwydd dy Dduw, a gwna ei orchymynnion ef, ai ddeddfau y rhai’r wyfi yn eu gorchymyn i ti heddyw.

11A gorchymynnodd Moses bobl y dydd hwnnw gan-ddywedyd:

12Y rhai hyn a safant i fendithio y bobl ar fynydd Garizim, pan eloch tros yr Iorddonen: Simeon, a Lefi, ac Iuda, ac Issachar, ac Ioseph a Beniamin.

13A’r hai hyn a safant i felldithio ar fynydd Ebal: Ruben, Gad, ac Aser, Zabulon hefyd, Dan, a Nephthali.

14Yna y Lesiaid a destiolaethant, ac a ddywedant wrth bob gŵr Israel llef vchel:

15Melldigedic yw’r gŵr yr hwn a wnêl ddelw gerfiedic, neu ddelw doddedic ffieidd-dra’r Arglwydd gwaith dwylo y saer, ac ai gosodo mewn dirgel: a’r holl bobl a attebant, ac a ddywedant, Amen.

16Melldigedic yw’r hwn a ddirmygo ei dâd, neu ei fam: a dyweded yr holl bobl Amen.

17Melldigedic yw’r hwn a symmudo derfyn ei gymydog: a dyweded yr holl bobl Amên.

18Melldigedic yw’r hwn a gyfeiliorno y dall o’r ffordd: a dyweded yr holl bobl Amên.

19Melldigedic yw’r hwn a ŵyro farn y dieithr, yr ymddifad, a’r weddw: a dyweded yr holl bobl Amên.

20Melldigedic yw’r hwn a orweddo gyd a gwraig ei dâd, o herwydd datcuddiodd odre ei dâd: a dyweded yr holl bobl Amên.

21Melldigedic yw’r hwn a orweddo gyd ag vn anifail, a dyweded yr holl bobl Amên.

22Melldigedic yw’r hwn a orweddo gyd ai chwaer, merch ei dâd, neu ferch ei fam ef: a dyweded yr holl bobl Amên.

23Melldigedic yw’r hwn a orweddo gyd ai chwegr: a dyweded yr holl bobl Amên.

24Melldigedic yw’r hwn a darawo ei gymydog yn ddirgel: a dyweded yr holl bobl Amên.

25 Ezec.22.12. Melldigedic yw’r hwn a gymmero wobr er dieneidio gwaed gwirion: a dyweded yr holl bobl Amên.

26 Gala.3.10. Melldigedic yw’r hwn ni pharhâo yng-eiriau y gyfraith hon, gan eu gwneuthur hwynt: a dyweded yr holl bobl Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help