1Mab pûm-mlwydd a’r hugain Amasia pan ddechreuodd efe deyrnasu, a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe 2.Bren.14.2.yn Ierusalem: ac enw ei fam ef Iehoadan o Ierusalem.
2Ac efe a wnaeth yr hyn oedd inion yngolwg yr Arglwydd: ond nid a chalon berffaith.
3A phan siccrhauwyd ei deyrnas iddo ei hun: yna efe a laddodd ei weision y rhai a laddasent y brenin ei dâd ef.
4Ond 2.Bren.14.6. Deut.24.16. Ier.31.30. Ezec.18.20.ni laddodd efe eu meibion hwynt: canys fel y mae* yn scrifennedic yn llyfr cyfraith Moses, lle y gorchymynnase yr Arglwydd gan ddywedyd, na ladder y tadau dros y meibion, ac na ladder y meibion dros y cadau, onid lladder pob vn am ei bechod ei hun.
5Ac Amasia a gynhullodd Iuda, ac ai cyfleuodd hwynt yn ôl tŷ eu tadau, yn dywysogion ar filoedd, ac yn dywysogion ar gantoedd drwy holl Iuda, a Beniamin: ac efe ai cyfrifodd hwynt o fab vgain mlwydd, ac vchod, ac efe ai cafodd hwynt yn dry-chan-mîl etholedig yn myned i ryfel yn trin gwaiw-ffyn a tharian.
6Ac efe a gyflogodd o Israel gan mîl cedyrn nerthol er cant talent o arian.
7Ond gŵr Duw a ddaeth atto ef gan ddywedyd, ô frenin na ddeued llu Israel gyd a thi: canys nid’r Arglwydd gyd ag Israel, chyd a holl feibion Ephraim.
8Onid tyret ti, ymbaratoa, ym-gadarnha i ryfel: Duw a wna ie syrthio o flaen dy elynnion, canys y mae gan Dduw nerth i gynnorthwyo, ac i gwympo.
9Ac Amasia a ddywedodd wrth ŵr Duw, beth a wneir i’r cant talent y rhai a roddais i i dorf Israel? a dywedodd gŵr Duw, y mae gan yr Arglwydd fwy na hyn iw roddi i ti.
10Felly Amasia ai nailltuodd hwynt, sef y dorf yr hon a ddelse atto ef o Ephraim i fyned iw mangre ei hun: a llidiodd eu digllonedd hwynt yn ddirfawr yn erbyn Iuda, a dychwelasant iw lle eu hûn mewn llîd ddigllon.
11Yna Amasia a ymgadarnhaodd, ac a dywysodd ei bobl, ac a aeth i ddyffryn yr hâlen: ac a darawodd feibion Seir ddeng-mîl.
12Meibion Iuda hefyd a gaeth-gludasant ddeng-mil yn fyw, ac 2.Bren.14.7.ai dugasant i benn y graig: a thaflasant hwynt o benn y graig, fel y drylliwyd hwynt oll.
13A’r minteioedd y rhai a ddarfuase i Amasia eu troi yn ôl rhac myned gyd ag ef i ryfel a ruthrasant yn erbyn dinasoedd Iuda, o Samaria hyd Beth-Horon: a tharawsant o honynt dair mil, ac ysclyfaethasant anrhaith fawr.
14Ac wedi dyfod Amasia o ladd yr Edomiaid, efe a ddûg dduwiau meibion Seir, ac ai gosododd hwynt iddo ef yn dduwiau: ac a addolodd ger eu bron hwynt, ac a arogl-darthodd iddynt hwy.
15Am hynny y llidiodd digllonedd yr Arglwydd yn erbyn Amasia: ac efe a anfonodd brophwyd atto ef, yr hwn a ddywedodd wrtho ef, pa ham y ceisiaist ti dduwiau y bobl, y rhai nid achubasant eu pobl eu hun o’ch law di?
16A phan lefarodd efe wrtho ef, yna a ddywedodd wrtho yntef, ai yn gynghor-wr i’r brenin y rhoddasant di? paid ti, i ba beth i’th darawant? a’r prophwyd a beidiodd, ac a ddywedodd, gŵyddwn fod Duw wedi arfaethu dy ddinistrio di am it wneuthur hyn, ac na wrandewaist fyng-hyngor i.
17Yna Amasia brenin Iuda a ymgynghorodd, 2.Bren.14.8.ac a anfonodd at Ioas fab Ieboahaz fab Iehu brenin Israel gan ddywedyd: tyret ymwelwn ai gilydd.
18Ac Ioas brenin Israel a anfonodd ac Amasia brenin Iuda gan ddywedyd, yr yscellyn yr hwn yn Libanus a anfonodd at y cedr-wydden yr hon yn Libanus gan ddywedyd, dyro dy ferch i’m mab i yn wraig: 2.Bren.14.9.a bwyst-fîl y maes yr hwn yn Libanus a drammwyodd, ac a sathrodd yr yscellyn.
19Dywedaist, wele tarewaist yr Edomiaid: a’th galon a’th dderchafodd i ymffrostio: eistedd yn awr yn dy dŷ, pa ham yr wyt yn annog i ddrygioni, fel y syrthit ti hefyd, ac Iuda gyd a thi?
20Ond ni wrandawodd Amasia, canys oddi wrth Dduw hynny, fel y rhoddid hwynt yn law am iddynt geisio duwiau Edom.
21Felly Ioas brenin Israel a aeth i fynu, a hwynt a welsant eu gilydd, efe ac Amasia brenin Iuda: yn Beth-semes yr hon yn Iuda.
22Ac Iuda a laddwyd o flaen Israel: fel y ffoasant bawb iw pabellau.
23Ac Ioas brenin Israel a ddaliodd Amasia mab Ioas, fab Iehoahaz brenin Iuda yn Bethsemes: ac ai dûg ef i Ierusalem, ac efe a rwygodd fur Ierusalem o borth Ephraim hyd borth y gongl, bedwar cant cufydd.
24Ac yr holl aur, a’r arian, a’r holl lestri a’r a gafwyd yn nhy Dduw gyd ag Obed Edom, a thryssorau tŷ y brenin, a’r meibion y rhai oeddynt yn wystlon: ac a ddychwelodd i Samaria.
25Ac Amasia mab Ioas brenin Iuda a fu fyw wedi marwolaeth Ioas mab Iehoahaz brenin Israel bymtheng mlynedd.
26A’r rhann arall o’r gweithredoedd cyntaf, 2.Bren.14.18.a diweddaf i Amasia: wele onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr brenhinoedd Iuda, ac Israel?
27Ac wedi yr amser yr ymadawodd Amasia oddi ar ôl yr Arglwydd, hwynt a fradfwriadasant fradwriaeth yn ei erbyn ef yn Ierusalem, ac efe a ffoawdd i Lachis: etto hwynt a anfonasant ar ei ôl ef i Lachis, ac ai lladdasant ef yno.
28A hwynt ai dugasant ef ar feirch, ac ai claddasant ef gyd ai dadau yn ninas Iuda.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.