1Yna Pen.8.35.Ierubbaal (hwnnw Gedeon) a gyfododd yn foreu, a’r holl bobl y rhai gyd ag ef, ac a werssyllasant wrth ffynnon Harod: a gwerssyll y Madianiaid oedd iddynt o du’r gogledd wrth frynn Moreh yn y dyffryn.
2A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon, rhy luosog yw’r bobl y rhai gyd a thi i mi roddi y Madianiaid iw llaw hwynt: rhac i Israel ymogoneddu i’m herbyn gan ddywedyd, fy llaw fy hun a’m gwaredodd.
3Am hynny yn awr, cyhoedda lle y clywo’r bobl gan ddywedyd, Deut.20.8. 1.Mac.3.56.yr hwn sydd ofnus, ac arswydus dychweled, ac ymadawed y boreu o fynydd Gilead: yna y dychwelodd o’r bobl ddwy fil ar hugain, a deng-mîl a arhosasant.
4A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon etto y mae gormod o bobl, dŵg hwynt i wared at y dyfroedd, a mi ai profaf hwynt yno i ti: ac am yr hwn y dywedwyf wrthit hwn a aiff gyd a thi, eled hwnnw gyd a thi, ac am y rhai oll y dywedwyf wrthit, hwn nid aiff gyd a thi, nac eled hwnnw gyd a thi.
5Felly efe a ddygodd y bobl i wared at y dyfroedd, a dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon, pwy bynnac a leppio ai dafod o’r dwfr fel y lleppio cî, gosot ef ar nailltu, felly pwy bynnac a ymgrymmo ar eiliniau i yfed.
6A rhifedi y rhai a godasant ai llaw ac eu genau oedd dry chānwr: ar holl bobl eraill a ymgrymmasant ar eu gliniau i yfed dwfr.
7Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon, drwy’r trychan-nwr y rhai a leppiasant y gwaredaf chwi, ac y rhoddaf y Madianiaid yn dy law di: am hynny cled yr holl bobl ymmaith bob vn iw fangre ei hun.
8Felly y bobl a gymmerasant fwyd yn eu ai hudcyrn, a a ollyngodd ymmaith holl wŷr Israel pob vn iw babell a thry chan-nwr a ddaliodd efe: a gwerssyll y Madianiaid oedd oddi tanodd iddo mewn dyffryn.
9A’r nosson honno y dywedodd yr Arglwydd wrtho ef, cyfot dos i wared i’r gwerssyll, canys mi ai rhoddais ef yn dy law di.
10Ac od wyt yn ofni myned i wared, dos di a Phurah dy langc i wared i’r gwerssyll:
11A gwrando beth a ddywedant, fel yr ymnertho wedi hynny dy ddwylo, ac yr elech i wared i’r gwerssyll: yna efe a aeth i wared a Phurah ei langc i gwrr y rhai arfogion y rhai yn y gwerssyll.
12A’r Madianiaid, a’r Amaleciaid, a holl Pen.6.33.feibion y dwyrain oeddynt yn gorwedd yn y dyffryn fel y locustiaid o amldra: ai camelod heb rîf fel y tyfod yr hwn ar fin y môr o amldra.
13Pan ddaeth Gedeon, yna wele ŵr yn mynegu iw gyfell freuddwyd: ac efe a ddywedodd, wele breuddwyd a freuddwydiais, ac wele dorth o fara haidd yn ymdreiglo i werssyll y Madianiaid, ac hi a ddaeth hyd y babell, ac ai tarawodd fel y syrthiodd, ac hi ai hymchwelodd fel y syrthiodd y babell.
14Ai gyfell ef a atebodd, ac a ddywedodd nid hyn ddim onid cleddyf Gedeon mab Ioas gŵr o Israel: Duw a roddodd Madian ai holl fyddin yn ei law ef.
15Pan glybu Gedeon adroddiad y breuddwyd ai ddirnad, yna efe a addolodd: ac a ddychwelodd i werssyll Israel, ac a ddywedodd, cyfodwch, canys rhoddodd yr Arglwydd werssyll y Madianiaid yn eich llaw chwi.
16Ac efe a rannodd y trychan-nwr yn dair byddin, ac a roddodd vdcyrn yn llaw pawb o honynt, a phisser gwâg, a llugyrn yng-hanol y pisserau.
17Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, edrychwch arnaf, a gwnewch felly: wele pan ddelwyf igwrr y gwerssyll, yna fel y gwnelwyfi? gwnewch chwithau.
18Pan vdcanwyf mewn vdcorn, myfi a’r holl rai a’r gyd a mi: vdcenwch chwithau mewn vdcyrn o amgylch yr holl werssyll, a dywedwch yr Arglwydd, a Gedeon.
19Felly Gedeon a ddaeth i mewn a’r can-nwr y rhai gyd ag ef i gwrr y gwerssyll yn nechreu y wiliadwriaeth ganol, a’r gwilwŷr gan godi a godasant, ac a vdcanasant mewn vdcorn, ac a ddrylliasant y pisserau y rhai yn eu llaw hwynt.
20A’r tair byddin eraill a vdcanasant mewn vdcyrn, ac a ddrylliasant y pisserau ar a ddaliasant y llugyrn yn eu llaw asswy, a’r vdcyrn yn eu llaw ddehau i vdcanu: llefasant, cleddyf yr Arglwydd, a Gedeon.
21A safasant bob vn yn ei lê o amgylch y gwerssyll: a’r holl werssyll a dorrodd allan, gwaeddasant hefyd, a ffoasant.
22A’r try chant a vdcanasant ag vdcyrn, Esa.9.4.a’r Arglwydd a osododd gleddyf pob vn yn erbyn ei gilydd, ac yn erbyn yr holl werssyll: felly y gwerssyll a ffôdd hyd Bethhasitah yn Zererah hyd fin Abel Meholah yn ymyl Tabbath.
23Yna gwŷr Israel a gasclwyd o Nephthali, ac o Aser, ac o holl Manasses: ac a erlidiasant ar ôl y Madianiaid.
24A Gedeon a anfonodd gennadau i holl fynydd Ephraim gan ddywedyd, deuwch i wared yn erbyn y Madianiaid, ac achubwch oi blaen hwynt y dyfroedd hyd Bethbarah, a’r Iorddonen: a chasclwyd holl wŷr Ephraim, ac ennillasant y dyfroedd hyd Bethbarah, a’r Iorddonen.
25A daliasant ddau Psal.83.12. Esa. 10.26,o dywysogion Madian sef Oreb, a Zeeb, a lladdasant Oreb ar graig Oreb, a lladdasant Zeeb wrth wîn-wryf Zeeb, ac a erlidiasant y Madianiaid: a dugasant bennau Oreb, a Zeeb at Gedeon i’r tu hwnt i’r Iorddonen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.