1Ac Iob a attebodd, ac a ddywedodd,
2Clywais fel hyn lawer cyssur-wŷr gofidus chwi oll.
3Oni diwedd ar eiriau ofer? neu pa beth sydd yn dy gryfhau di i atteb?
4A ddywedwn i fel chwithau, pe bydde eich enaid chwi yn lle fy enaid i, a gydiwn i â chwi mewn geiriau? a escydwn i fy mhen arnoch chwi?
5Mi a’ch cyssurwn chwi a’m genau: a symmudiad fyng-wefusau a luddie
6Os llefaraf i, nid esmwythâ fy nolur: ac os peidiaf, nid llai fyng-ofid.
7Ond yn awr efe a’m blinodd i: anrheithiaist fy holl gynnulleidfa.
8A chroen-grychu o honot fi oedd yn destiolaeth: fyng-hulni a gododd yn fy erbyn, efe a destiolaetha yn fy wyneb.
9Ei ddigllondeb ef rhwygodd, ac efe am gwrthwynebodd, efe a escyrnygodd ai ddannedd arnaf: fyng-wrthwynebwr a flaenllymmodd ei lygaid yn fy erbyn.
10Hwy a ledasant ei safnau yn fy erbyn, tarawsant fyng-hernau yn ddremygus: ymgasclasant yng-hyd yn fy erbyn.
11Duw a’m caeuodd gyd a’r anwir: ac a’m trôdd i ddwylo’r annuwolion.
12Yr oeddwn yn oludog, ond efe a’m cystuddiodd, ac a ymaflodd yn fyng-wddf, ac a’m drylliodd yn chwil-friw: ac a’m cododd fi yn nôd iddo ei hun.
13Ei saethyddion ef sy yn fy amgylchu, y mae efe yn hollti fy arennau, ac nid ydyw efe yn arbed, y mae efe yn tywallt fy mustl ar y ddaiar.
14Y mae efe yn fy rhwygo a rhwygiad ar rwygiaid: y mae efe yn rhedeg yn fy erbyn fel cawr.
15Gwnîais sachlen ar fyng-hroen: ac halogais fyng-horn mewn pridd.
16Fy wyneb sy cyn futtred a’r clai gan ŵylo: a chyscod marwolaeth ar fy amrantau,
17Er nad gam yn fy nwy-law: a fyng-weddi yn bûr.
18O ddaiaren na orchguddia di fyngwaed: ac na fydded lle i’m gwaedd.
19Wele hefyd yn awr fy nhyst yn y nefoedd: a’m testiolaeth-ŵr yn yr vchelder.
20Fyng-hyfeillion gymmen fy llygad a ddiferodd wrth Dduw.
21[O na] chai gŵr ymrysymmu a Duw, fel mab dŷn ai gyfaill.
22Canys ychydig flynyddoedd a ddaethant: ac mi a rodiaf lwybr ni ddychwelaf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
