Psalmau 50 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. l.Deus deorum Dominus.Psalm Asaph.

1 Duw y duwiau, yr Arglwydd a lefarodd, ac a alwodd y ddaiar o godiad haul hyd ei fachludiad.

2O Sion perffeithrwydd tegwch y llewyrchodd Duw.

3Ein Duw ni a ddaw, ac ni bydd ddistaw, tân a yssa oi flaen ef: a thymestl fydd oi amgylch ef yn ddirfawr.

4Geilw am y nefoedd oddi vchod: ac am y ddaiar i farnu ei bobl.

5Cesclwch fy sainct attafi, y rhai a wnaethant gyfammod â mi trwy aberth.

6A’r nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef, canys Duw ei hun farn-wr.Selah.

7Clywch fy mhobl, a mi a lefaraf, testiolaethaf i’th erbyn dithe Israel: Duw dy Dduw di, fi.

8Nid am dy aberthau i’th geryddaf, na’th boeth offrymmau ger fy mron i yn wastad.

9Ni chymmeraf fustach o’th dŷ, na bychod o’th gorlannau.

10Canys holl fwyst-filod y coed ydynt eiddo fi: anifeiliaid ar fil o fynyddoedd.

11Adwen holl adar y mynyddoedd: a gwyllt anifeiliaid y maes gyd â mi.

12Os bydd newyn arnaf ni ddywedaf i ti: canys y bŷd ai gyflawnder eiddo fi.

13A fwyttafi gîg teirw? neu a ŷfaf fi waed bychod?

14Abertha foliant i Dduw, a thâl i’r Goruchaf dy addunedau.

15A galw arnafi yn nydd trallod, i’th waredaf, a thi a’m gogoneddi.

16Ond wrth yr annuwiol y dywedodd Duw, beth i ti a fynêgech ar fy neddfau mau fi? ac a gymmerech ar fyng-hyfammod yn dy enau?

17Canys ti a gaseais addysc, ac a deflaist fyng-eiriau i’th ôl.

18Pan welaist leidr, rhedaist gyd âg ef: a’th gyfran gyd â’r godineb-wŷr.

19Gollyngaist dy safn i ddrygioni, ac â’th dafod a cyd-blethaist ddichell.

20Eisteddaist, dywedaist yn erbyn dy frawd: rhoddaist enllib i fab dy fam.

21Hyn a wnaethost, a mi a dewais, tybiaist dithe fy mod yn gwbl fel ti dy hun: ond mi a’th argyhoeddaf, ac a osodaf o flaen dy lygaid.

22Dehallwch hyn yn awr, y rhai ydych yn anghofio Duw, rhag i mi rhwygo, ac na gwaredudd.

23Yr hwn a abertho foliant a’m gogonedda fi: a’r neb a osodo ei ffordd dangosaf iddo iechydwriaeth Dduw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help