1Yna Holophernes a ddywedodd wrthi hi, cymmer gyssur wraig, nac ofna di yn dy galon, canys ni wneuthum i niwed i’r neb a fynne wasanaethu Nabuchodonosor brenin yr holl ddaiar.
2Ac yn awr dy bobl di y rhai ydynt yn aros yn y mynyddoedd, oni buase iddynt hwy fy nirmygu, ni dderchafaswn fyng-waiwffon yn eu herbyn hwynt: ond hwy a wnaethant hyn iddynt eu hunain.
3Ond yn awr dywet i mi pa ham y ffoaist ti oddi wrthynt hwy, ac y daethost attom ni: yn ddiau ti a ddaethost i ddiogelwch, cymmer gyssur, byw fyddi di y nôs hon, ac rhac llaw: nid oes a’r a wna niwed i ti, ond a wnêl yn ddâ i ti, megis ac y gwneir i weision fy arglwydd frenin Nabuchodonosor.
4Yna Iudith a ddywedodd wrtho ef, derbyn eiriau dy wasanaeth-ferch, a gad ti i’th lawforwyn lefaru ger dy fron di, ac ni fynegaf gelwydd i’m harglwydd y nôs hon.
5Ac os tydi a ganlyni eiriau di law-forwyn, Duw a wnaiff yn gwbl y peth trwot ti ac ni phalla fy arglwydd oi amcannion.
6Fel y mae Nabuchodonosor brenin yr holl ddaiar yn fyw, ac mai byw ei nerth ef yr hwn a’th anfonodd di i geryddu pob dŷn, nid yn vnic dynion ai gwasanaethant ef drwot ti, eithr bwyst-filod y maes, a’r scrubliaid, ac ehediaid y nefoedd a fyddant byw trwy dy nerth di tann Nabuchodonosor ai dŷ ef.
7Canys nyni a glywsom am dy ddoethineb di, a chyfrwystra dy galon, ac fe a fynegwyd drwy ’r holl daiar, dy fod ti yn vnic yn rhagorol drwy yr holl deyrnas, ac yn alluoc mewn gwybodaeth, ac yn rhyfedd mewn llu rhyfeloc.
8Ac yn awr am y peth yr hwn a lefarodd Achior yn dy eisteddfod ti, nyni a glywsom ei ymadroddion ef: canys gwŷr Bethulia ai daliasant ef, ac efe a fynegodd iddynt yr hyn oll a’r a lefarase efe wrthit ti: am hynny ô arglwydd, llywawdur na ddiystyra di ei air ef, ond gosot ef at dy galon, canys gwîr yw.
9O herwydd nid oes ddial iw gymmeryd yn erbyn ein cenedl ni, ac ni ddichon y cleddyf eu gorchfygu hwynt, oddi eithr iddynt hwy bechu yn erbyn eu Duw.
10Ac yn awr (rhac bod fy arglwydd yn anobeithiol, a yn rhysso ar yr hyn a amcanodd efe) marwolaeth a syrthiodd arnynt hwy, a phechod ai daliodd hwynt, drwy yr hwn y digllonasant eu Duw, o herwydd hwynt a wnaethant frynti.
11O blegit iw llyniaeth hwynt ddarfod, ac iw dwfr hwynt brinhau, hwynt a ymgynghorasant ar ruthro i’r anifeiliaid, ac y maent ar fedr gwastraffu yr hyn oll a’r a waharddodd Duw iddynt hwy trwy ei gyfraith ei fwytta.
12Ac y maent hwy ar fedr treulio blaen-ffrwyth yr ŷd, a degwm y gwîn, a’r olew y rhai a gadwasant yn sanctaidd i’r offeiriaid y rhai ydynt yn sefyll yn Ierusalem ger bron ein Duw ni: y rhai ni pherthyn i neb o’r bobl gyffwrdd â hwynt ai dwylo.
13Hefyd hwynt a anfonasant i Ierusalem, (o herwydd y rhai sy yn trigo yno a wnaethant felly) rai i ddwyn iddynt hwy ganiad o’r senedd.
14A phan ddygant hwy air trachefn iddynt, yna hwynt a wnant hwy a roddir i ti iw dinistrio y dwthwn hwnnw.
15Am hynny myfi dy wasanaeth-ferch oeddwn yn gwybod hyn oll, mi a ffoais oi gŵydd hwynt: a Duw a’m hanfonodd i wneuthur â thi y cyfryw beth, a’r y rhyfedda yr holl fyd, sawl ai clywant.
16Canys dy wasanaeth-ferch sydd grefyddol, ac yn addoli Duw nefol ddydd a nôs, ac yn awr gad ti i mi aros gyd â thi fy arglwydd, a gad i’th wasanaeth-ferch fyned allan i’r dyffryn, ac mi a weddiaf Dduw a’r iddo ef fynegu i mi pa brŷd y gwnant hwy eu pechodau: a minnef a ddeuaf a adroddaf i ti, fel yr elech dithe allan a’th holl lu di, ac ni bydd neb o honynt hwy a allo dy wrth wynebu di.
17Ac mi a’th arweiniaf di drwy ganol Iuda, nes i ti ddyfod o flaen Ierusalem, ac mi a osodaf dy eisteddfa di yn ei chanol hi, a thi ai hymlidi hwynt fel defaid heb fugail, ac ni chyfarth ei ai dafod i’th erbyn: canys hyn a ddywetpwyd i mi drwy fy rhacluniaeth, ac a fynegwyd i mi, ac fe a’m hanfonwyd i fynegu i ei.
18Ai geiriau hi a ryglyddasant fodd Holophernes, ai holl weision ef, a hwynt a ryfeddasant o herwydd ei doethineb hi, ac a ddywedasāt,
19Nid oes mor fath wraig o brŷd a gwedd, a doeth ymadrodd o gwrr bwy gilydd i’r ddaiar.
20Ac Holophernes a ddywedodd wrthi hi, dâ y gwnaeth Duw yr hwn a’th anfonodd di o flaē y bobl fel y bydde nerth yn eu dwylo hwynt, a destruw ar y rhai a ddirmygant fy arglwydd.
21Ac yn awr yr ydwyt ti yn lan-deg yr olwg arnat, ac yn dêg dy ymadrodd, os tydi a wnei megis y lleferaist, dy Dduw di fydd yn Dduw i mi, a thi a gei aros yn nhŷ Nabuchodonosor y brenin: ac a fyddi yn enwoc drwy yr holl ddaiar.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.