1Bellach gan hynny ô Israel gwrando ar y deddfau, ac ar y barnedigaethau, y rhai’r yn dyscu i chwi iw gwneuthur, fel y byddoch byw, ac yr eloch, ac y gorescynnoch y wlâd yr hon y mae Arglwydd Dduw eich tadau’n ei rhoddi i chwi.
2Na chwanegwch at y gair yr hwn yr ydwyf yn ei orchymyn i chwi, ac na leihewch o honaw ef, gan gadw gorchymynnion yr Arglwydd eich Duw y rhai yn eu gorchymyn i chwi.
3Eich llygaid chwi a oeddynt yn gweled yr hyn a wnaeth yr Arglwydd am Baal-Peor, o blegit pob gŵr yr hwn a aeth ar ôl Baal-Peor, yr Arglwydd dy Dduw ai difethodd ef, o’th blith di.
4Ond chwi y rhai oeddych yn glynu wrth yr Arglwydd eich Duw, byw ydych heddyw oll.
5Wele dyscais i chwi ddeddfau, a barnedigaethau, fel y gorchymynnodd yr Arglwydd fy Nuw i mi: i wneuthur felly, yng-hanol y wlâd yr hon chi ar fyned i mewn iddi iw gorescyn.
6Cedwch gan hynny, a gwnewch o blegit hyn eich doethineb, a’ch deall chwi, yng-olwg y bobloedd, y rhai a glywant yr holl ddeddfau hyn, ac a ddywedant, yn ddiau pobl ddoeth, a deallus y genedl fawr hon.
7O blegit pa genedl fawr, yr hon duwiau iddi yn nessau atti, fel yr Arglwydd ein Duw ni, ym mhob a’r y galwom arno?
8A pha genedl fawr, yr hon y mae] iddi ddeddfau, a barnedigaethau cyfiawn, megis yr holl gyfraith hon, yr hon yr ydwyfi yn ei rhoddi heddyw ger eich bron chwi?
9Ond gochel arnat, a chadw dy enaid yn ddyfal, rhac anghofio o honot y pethau y rhai a welodd dy lygaid, a chilio o honynt allan o’th galon di, holl ddyddiau dy enioes: ond yspyssa hwynt i’th feibion, ac i feibion, dy feibion.
10[Sef] y dydd yr hwn y sefaist ger bron yr Arglwydd dy Dduw yn Horeb, pan ddywedodd yr Arglwydd wrthif, cynnull i mi y bobl, fel y gwnelwyf iddynt glywed fyng-eiriau y rhai a ddyscant i’m hofni fi, ’r holl ddyddiau y rhai y byddant fyw ar y ddaiar, ac y dyscantiw meibion.
11Yna y nessasoch, ac Exod.19.18.y safasoch dan y mynydd, a’r mynydd oedd yn llosci gan dân, hyd entrych awyr, yn dywyllwch, a niwl, a chwmwl.
12A’r Arglwydd a lefarodd wrthych o ganol y tân, chwithau nid oeddych yn gweled llûn heb law llais.
13Yna efe a fynegodd i chwi ei gyfammod yr hwn a orchymynnodd i chwi iw wneuthur, y deng-hair, ac ai scrifennodd hwynt, ar ddwy lech faen.
14A’r Arglwydd a orchymynnodd i mi’r amser hwnnw ddyscu i chwi ddeddfau, a barnedigaethau i wneuthur o honoch hwynt yn y wlâd, yr hon yr ydych chi yn myned iddi iw gorescyn
15Gwiliwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau, o blegit ni welsoch ddim llûn yn y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrthych yn Horeb o ganol y tân.
16Rhac ymlygru o honoch, a gwneuthur i chwi ddelw gerfiedic, cyffelybrwydd vn ddelw, llûn gwryw, neu fenyw.
17Llûn vn anifail yr hwn ar y ddaiar, llûn vn aderyn ascelloc yr hwn a eheda yn yr awyr.
18Llûn vn ymlusciad ar y ddaiar, llûn vn pyscodyn a’r y yn y dyfroedd tann y ddaiar.
19Hefyd rhac derchafu o honot dy lygaid tu a’r nefoed, a gweled yr haul, a’r lleuad, a’r sêr holl lu y nefoedd, a’th yrru di i ymgrymmu iddynt, a gwasanaethu o honot hwynt, y rhai o rannodd yr Arglwydd dy Dduw i’r holl bobloedd dann y nefoedd.
20Ond yr Arglwydd a’ch cymmerodd chwi, ac a’ch dug chwi allan o’r pair haiarn, o’r Aipht, i fod iddo yn bobl, yn etifeddiaeth fel y dydd hwn.
21A’r Arglwydd a ddigiodd wrthif am eich geiriau chwi, ac a dyngodd nad awn i tros yr Iorddonen, ac na chawn fyned i mewn i’r wlâd dda, yr hon y mae’r Arglwydd dy Dduw ar roddi i ti yn etifeddiaeth.
22O blegit byddaf farw yn y wlâd hon, nid âf i tros yr Iorddonen: ond chwychwi ydych yn myned trosodd, ac a orescynnwch y wlâd ddâ honno.
23Ymgedwch arnoch rhac anghofio cyfammod yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a ammododd efe a chwi, a gwneuthur o honoch i chwi ddelw gerfiedic, llûn dim oll a waharddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.
24O blegit yr Arglwydd dy Dduw Hebre.12.29.sydd dân yssol, Duw eiddigus.
25Pan genhedlech feibion, ac ŵyrion, ac heneiddio o honoch yn y wlâd, ac ymlygru o honoch, a gwneuthur o honoch ddelw gerfiedic, llûn dim fel y gwneloch ddryganiaeth yng-olwg yr Arglwydd dy Dduw iw ddigio ef,
26Galw’r ydwyf yn dystion yn eich erbyn chwi, heddyw y nefoedd a’r ddaiar, gan ddarfod y derfydd am danoch yn fuan oddi ar y tir, yr hwn yr ydych yn myned tros yr Iorddonen iddo iw orescyn, nid estynnwch ddyddiau ynddo, canys gan ddifetha ei’ch difethir.
27A’r Arglwydd a’ch gwascara chwi ym mhlith y bobloedd, a chwi a adewir yn ddynion anaml ym-mysc y cenhedloedd, y rhai y dwg yr Arglwydd chwi attynt.
28Ac yno y gwasanaethwch dduwiau waith dwylo dyn, pren, a maen, y rhai ni welant, ac ni chlywant, ac ni fwyttânt, ac ni aroglant.
29Pan geisiech oddi yno yr Arglwydd dy Dduw, yna y cei, os ceisi ef a’th holl galon, ac a’th holl enaid.
30Pan gyfyngo arnat, a digwyddo’r holl bethau hyn i ti yn y dyddiau diweddaf, a dychwelyd o honot at yr Arglwydd dy Dduw, a gwrando o honot ar ei lais ef:
31(O herwydd yr Arglwydd dy Dduw Dduw trugarog) ni edu efe di, ac ni’th ddifetha, ac nid anghofi a gyfammod dy dadau di, ’r hwn a dyngodd efe wrthynt.
32Canys ymofyn yn awr, am y dyddiau cyntaf y rhai a fuant o’th flaen di, o’r dydd y creawdd Duw ddŷn ar y ddaiar, ac o’r gwrr i’r nefoedd, hyd y cwrr i’r nefoedd, a fu megis y mawr-beth hwn? neu a glybuwyd ei gyffelyb ef?
33A glybu pobl lais Duw yn llefaru o ganol y tân, fel y clywaist ti, a byw o honynt?
34A brofodd Duw ddyfod i gymmeryd iddo genedl o ganol cenedl? mewn profedigaethau, mewn arwyddion, ac mewn rhyfeddodau, mewn rhyfel, mewn llaw gadarn, mewn braich estynnedic, ac mewn ofn mawr: fel yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw i chwi yn yr Aipht yng-ŵydd dy lygaid?
35Gwnaethbwyt i ti weled i wybod mai yr Arglwydd sydd Dduw, nad oes neb arall ond efe.
36O’r nefoedd y parodd i ti glywed ei lais, i’th hyfforddi di, ac ar y ddaiar y parodd i ti weled ei dân mawr, a thi a glywaist o ganol y tân ei eiriau ef.
37Ac o achos iddo garu dy dadau di, am hynny y dewisodd eu hâd hwynt, ar eu hôl, ac a’th ddug di oi flaen ai fawr allu allan o’r Aipht.
38I orescyn cenhedloedd mwy, a chryfach na thi, o’th flaen di, i’th ddwyn i mewn, i roddi i ti eu gwlâd hwynt yn etifeddiaeth, fel heddyw.
39Gwybydd gan hynny heddyw, a chofia yn dy galon, mai’r Arglwydd sydd Dduw yn y nefoedd oddi arnodd, ac ar y ddaiar oddi tanodd, nid neb arall.
40Cadw dithe ei ddeddfau ef, ai orchymynnion y rhai yn eu gorchymyn i ti heddyw, fel y byddo yn ddâ i ti, ac i’th feibion ar dy ôl di, fel yr estynnech ddyddiau ar y ddaiar, yr hon y mae’r Arglwydd dy Dduw’n ei rhoddi i ti byth.
41Yna Moses, a nailltuodd dair dinas, ar tu hwnt i’r Iorddonen, tuâ chodiad haul.
42I ffoi o’r llofrudd yno yr hwn a ladde ei gymydog yn amryfus, ac efe heb ei gasau o’r blaen: fel y galle ffoi i vn o’r dinasoedd hynny, a byw.
43[Sef] Iosua.20.8.Bezer yn yr anialwch, yng-gwastad-tir y Rubeniaid, a Ramoth yn Gilead y Gadiaid, a Golan o fewn Basan y Manassiaid.
44Felly dymma y gyfraith yr hon a osododd Moses o flaen meibion Israel.
45Dymma y testiolaethau, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, a lefarodd Moses wrth feibion Israel pan ddaethant allan o’r Aipht.
46Tu hwnt i’r Iorddonen yn y dyffryn ar gyfer Beth-Peor yng-wlâd Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, Num.21.24. Deut.1.4.yr hwn a darawse Moses, a meibion Israel, pan ddaethent o’r Aipht.
47Ac a orescynnasent ei wlâd ef, a gwlâd Num.21.33. Deut.3.3.Og brenin Basan, dau o frenhinoedd yr Amoriaid y rhai tu hwnt i’r Iorddonen tua chodiad haul.
48O Aroer yr hon ar lann afon Arnon hyd fynydd Sion, hwn yw Hermon.
49A’r holl rôs tu hwnt i’r Iorddonen tua’r dwyrain, ac hyd at fôr y rhôs Deut.3.17.dan fronnydd y brynn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.