Iob 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.Satan wedi cael cennad gan Dduw yn cystuddio corph Iob. 9 Ei wraig yn ceisio ganddo felldithio Duw, A heb gael. 11 Cyfeillion Iob yn dyfod i ymweled ag ef.

1A’r dydd a ddaeth i feibion Duw ddyfod i sefyll ger bron yr Arglwydd: a Satan hefyd a ddaeth yn eu plith hwynt i sefyll ger bron yr Arglwydd.

2Yna’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, o ba le’r ydwyt yn dyfod? a Satan a attebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd, o amgylchu y ddaiar, ac Iob.1.7.o ymrodio ynddi.

3A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, a ddelaist ti sulw ar fyng-wâs Iob, nad gyffelib iddo ef ar y ddaiar? yn ŵr perffaith, ac iniawn, yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni, ac yn parhau yn ei berffeithrwydd, er it fy annog i yn ei erbyn ef, iw ddifa ef heb achos?

4A Satan a attebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd: croen am groen a’r hyn oll gan ŵr a ddyru efe am ei enioes.

5Eithr estyn yn awr dy law, a chyffwrdd ai escyrn ef, Iob.1.11.ac ai gnawd: oni felldîga efe dy di o flaen dy wyneb.

6A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, wele ef yn dy law di: etto cadw ei hoedl.

7Felly Satan a aeth allan oddi ger bron yr Arglwydd: ac a darawodd Iob a chornwydydd drwg, o wadn ei droed hyd ei goryn.

8Ac efe a gymmerth gragen i ymgrafu â hi: ac yntef oedd yn eistedd yng-hanol y llwch.

9Yna ei wraig a ddywedodd wrtho, a wyt ti etto’n parhau yn dy berffeithrwydd? melldithia Dduw, a bydd farw.

10Ac efe a ddywedodd wrthi, lleferaist fel y llefare vn o’r rhai ynfydion, a dderbynnwn ni gan Dduw’r hyn sydd dda, ac heb dderbyn yr hyn sydd ddrwg hefyd? er hyn ei gyd ni phechodd Iob ai wefusau.

11Pan glybu tri chyfell Iob yr holl ddrwg ymma’r hwn a ddigwyddase iddo ef, yna y daethant bob vn oi fangre ei hun, Eliphaz y Themaniad, Bildad hefyd y Suhiad, a Zophar y Naamathiad: ac a ymgyfarfuant yng-hyd i ddyfod i gyd-ofidio ag ef, ac iw gyssuro.

12Pan dderchafasant eu llygaid o bell, yna nid adnabuant ef, am hynny y derchafasant eu llef, ac yr ŵylasant: rhwygasant hefyd bob vn ei fantell, a thanasant lwch ar eu pennau tua yr nefoedd.

13Felly hwynt a eisteddasant gyd ag ef ar y ddaiar saith niwrnod, a saith noswaith: ac nid oedd a ddywede air wrtho ef, canys gwelent fwyhau ei ddolur ef yn ddirfawr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help