1Ac yn ôl hyn y darfu i frenin meibion Ammon farw: 1.Cron.19.1.a Hanon ei fab ef a deyrnasodd yn ei lê ef.
2Yna y dywedodd Dafydd, mi a wnaf garedigrwydd a Hanon mab Nahas, megis y gwnaeth ei dâd ef garedigrwydd a mi, a Dafydd a anfonodd gyd ai weisiō iw gyssuro ef am ei dâd: a gweision Dafydd a ddaethant i wlad meibion Ammon.
3A thywysogion meibion Ammon a ddywedasant wrth Hanon eu harglwydd, ai anrhydeddu y mae Dafydd dy dâd ti yn dy olwg di, o herwydd iddo ddanfon cyssur-wŷr attati? onid er mwyn chwilio’r ddinas, ai throedio, ai difetha yr anfonodd Dafydd ei weision attat ti?
4Yna Hanon a gymmerth weision Dafydd ac a eilliodd hanner eu barfau hwynt, ac a dorrodd eu gwiscoedd hwynt yn hanner hyd eu cluniau: ac ai gollyngodd hwynt.
5Pan fynegwyd i Ddafydd, yna efe a anfonodd iw cyfarfod hwynt, (canys y gwŷr oeddynt wedi eu cywilyddio yn fawr) a dywedodd y brenin arhoswch yn Iericho hyd oni dyfo eich barfau chwi, yna dychwelwch.
6Yna meibion Ammon a welsant eu bod yn ffiaidd gan Ddafydd: 1.Cron.19.6.a meibion Ammon a anfonasant, ac a gyflogasant o’r Syriaid, o dŷ Rehob, ac o Syriaid Zoba vgain mîl o wŷr traed, a chan frenin Maacah fîl o wŷr, ac o Istob ddeuddeng-mil o wŷr.
7Pan glybu Dafydd: yna efe a anfonodd Ioab, a holl lu y cedyrn.
8A meibion Ammon a aethant, ac a luniaethasant ryfel ddrws y porth: a’r Syriaid, Zoba, a Rehob, Istob hefyd, a Maacah ar naill-du yn y maes.
9Pan ganfu Ioab fod wyneb y rhyfel yn ei erbyn ef ym mlaen, ac yn ôl: yna efe a etholodd o holl etholedigion Israel, ac a ymdaclodd yn erbyn y Syriaid.
10A gweddill y bobl a roddes efe tann law Abisai ei frawd: (ac yntef a ymdaclodd yn erbyn meibion Ammon. )
11Ac efe a ddywedodd, os trêch fydd y Syriaid na mi, yna bydd di i mi yn gynnorthwy: ond os meibion Ammon fyddant trêch na thi, yna y deuaf i’th gynnorthwyo dithe.
12Ymnertha, ac ymegniwn dros ein pobl, a thros ddinasoedd ein Duw ni: a’r Arglwydd a wnaiff yr hyn fyddo da yn ei olwg ef.
13Yna y nessaodd Ioab, a’r bobl y rhai gyd ag ef yn erbyn y Syriaid i’r rhyfel: a hwy a ffoasant oi flaen ef.
14Pan welodd meibion Ammon ffoi o’r Syriaid, yna hwythau a ffoasant o flaen Abisai, ac a ddaethant i’r ddinas: a dychwelodd Ioab oddi wrth feibion Ammon, ac a ddaeth i Ierusalem.
15Pan welodd y Syriaid eu lladd o flaen Israel, yna’r ymgynnullasant yng-hyd.
16Ac Hadarezar a anfonodd, ac a ddug y Syriaid y rhai o’r tû hwnt i’r afon, ac a ddaethant i Helam: a 1.Cron.19.16.Sobac tywysog llu Hadarezar oi blaen hwynt.
17Pan fynegwyd i Ddafydd yna efe a gasclodd holl Israel, ac a aeth tros yr Iorddonen, ac a ddaeth i Helam, a’r Syriaid a ymdaclasant yn erbyn Dafydd, ac a ymladdasant ag ef.
18A’r Syriaid a ffoasant o flaen Israel, a Dafydd a laddodd o’r Syriaid saith gant gerbydau, a deugain mil o wyr meirch: ac efe a darawodd Sobac tywysog eu llû, fel y bu efe farw yno.
19Pan welodd yr holl frenhinoedd yn weision i Hadarezar eu lladd hwynt o flaen Israel, yna’r heddychasant ag Israel, a gwasanaethasant hwynt: a’r Syriaid a ofnasant gynnorthwyo meibion Ammon mwyach.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.