4.Esdras 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.3 Yr Eglwys yn beio ar ei phlant. 18 galwedigaeth y cenhedloedd.

1Fel hyn y dywed yr Arglwydd, dygais y bobl hyn o gaethiwed, a rhoddais iddynt fyng­orchymynnion drwy enau fyng-weision y prophwydi y rhai ni wrandawent hwy, ond diystyru fyng-hyngor a wnaethant.

2Eu mam (’r hon ai magodd) a ddywed wrthynt, ewch ymmaith chwi blant, canys gweddw ydwyf, ac mi a wrthodwyd.

3Mi a’ch megais drwy lawenydd, ond mi a’ch collais drwy alar a thrymder: canys pechasoch yn erbyn ’r Arglwydd eich Duw, a gwnaethoch y peth oedd ddrwg yn ei olwg ef.

4A pha beth a wnaf i chwi y pryd hyn fy mhlant: gweddw ydwyf a gwrthodedic, ewch, gofynnwch drugaredd gan ’r Arglwydd.

5A minnef (ô dâd) a alwaf arnat ti am destio­laeth yn erbyn mam y plant y rhai ni chadwent fyng-hyfammod.

6Fel y dygech hwy yn wrâdwydd, ai mam yn anrhaith, fel na chenhedler mwy o honynt hwy.

7Gwascarer eu henwau ar llêd ym mhlith y cenhedloedd, bwrier hwy ymmaith oddi ar y ddaiar: canys diystyrasant fyng-hyfammod.

8Gwae tydi Assur ’r hon a guddiaist ’r anwir gyd â thi: tydi genhedlaeth anwir, cofia beth a wnaethym i Sodoma a Gomora.

9Eu tîr a droed yn briddellau pŷg, ac yn syppiau o ludw: felly hefyd y gwnaf i’r sawl ni’m gwrandawant, medd ’r Arglwydd holl-alluoc.

10Fel hyn y dywed ’r Arglwydd wrth Esdras, dywet i’m pobl y rhoddaf iddynt deyrnas Ierusalem yr hon a roeswn i Israel.

11Eu gogoniant hefyd a gymmeraf i mi, a rhoddaf iddynt hwy babellau tragywyddol, y rhai a ddarperais i’r lleill.

12Hwy a gânt bren y bywyd wrth eu hewyllys fel arogl enaint, ni lafuriant, ac ni ddeffygiant.

13Cerddwch, a chwi ai derbynniwch, gweddiwch ar aros o honynt ychydig ddyddiau, paratoiwyd teyrnas i chwi eusus, (am hynny) gwiliwch.

14Cymmer destiolaeth o nef a daiar, canys drylliais y drwg a gwneuthum y dâ: canys byw ydwyf medd ’r Arglwydd.

15Tydi fam, cofleidia dy blant, a mâg hwynt drwy lawenydd, gwna eu traed yn siccr fel colo­fn, canys ty di a ddywisais i medd yr Arglwydd

16A’r meirw a atgyfodaf i oi lle, ac ai dygaf allan o’r beddau: canys adnabum fy enw yn Israel.

17Tydi fam y plant nac ofna, canys dewisais di, medd ’r Arglwydd.

18A danfonaf i’ch gynnorthwyo Esay, ac Ieremi fyng-wasanaeth-wŷr, wrth gyngor y rhai y sancteiddiais, ac y darperais i ti ddeuddec prenn yn llawn o amryw ffrwythau.

19A’r vn rhifedi o ffynhonnau yn llifeirio o laeth a mêl: a saith fynydd vchel yn dwyn rosau a Lili, a’r rhai y llanwaf dy blant o lawenydd.

20Gwna di gyfiawnder i’r weddw, a chyfiawnder a’r ymddifaid, dillada ’r noeth.

21Iachâ ’r clwyfus a’r afiachus, na watwar y cloff, amddeffyn ’r efrydd, a gâd ti i’r dall weled fy nisclaerdeb.

22Cadw hên ac ieuangc a’r y sydd o fewn dy gaerau.

23Pa le bynnac y caffech y marw amdoa, Tobit.1.22.a chladd hwynt, a rhoddafi ti eistedd yn flaenaf yn fy ail-gyfodiad.

24Gorphywys (ô fy mhobl,) a chymmer dy ysmwythdra, canys y mae dy heddwch yn dyfod.

25Mâg dy blant ti fammaeth dda, a chryfhâ eu traed hwynt.

26Ni dderfydd am neb o’th wasanaeth-wŷr a roddais i ti, canys ceisiaf hwynt o fysc dy rifedi di.

27Na ddeffygia, canys pan ddel dyddiau blinder ac ing, eraill a ŵylant, ac a alârant, Esai.14.1.ond ty di a fyddi lawen a diwall.

28Y cenhedloedd a genfigennant, er hynny ni’s gallant wneuthur dim yn dy erbyn di medd yr Arglwydd.

29Fy nwylaw mau fi a’th wascoda di, fel na welo dy blant vffern.

30Ymlawenha tydi fam gyd a’th blant, canys Esai.56.1.2.mi a’th achubaf medd yr Arglwydd.

31Cofia dy blant y rhai sydd yn cyscu, canys dygaf hwynt o gyrrau ’r ddaiar, a byddaf drugarog wrthynt, canys trugarog ydwyf medd yr holl-alluog Arglwydd.

32Cofleidia dy blant hyd oni ddelwyfi roddi trugaredd iddynt, canys y mae fy ffynhonnau yn myned trosodd, a’m grâs ni phalla.

33Myfi Esoras a gefais orchymyn gan yr Arglwydd ar fynydd Horeb, i fyned at Israel: ond pā ddaethum attynt hwy, hwy a’m diystyrasant, ac a wrthodasant orchymyn yr Arglydd.

34Am hynny y dywedaf wrthych chwi genhedloedd y pethau a glywch, ac a ddeallwch, edrychwch am eich bugail, efe a rydd i chwi orphywysfa dragywyddol, canys yr hwn a ddaw ar ddiwedd y bŷd sydd ger llaw.

35Byddwch barod i wobry deyrnas, canys goleuni tragywyddawl a lewyrcha arnoch byth.

36Ffoiwch rhag cyscod y bŷd hwn, derbyn­niwch lawenydd eich gogoniant: datcanaf fy achub-wr ar gyhoedd.

37Derbynniwch yn llawen yr anrheg a rodded i chwi, gan ddiolch i’r hwn a’ch galwodd i’r deyrnas nefol.

38Codwch, a sefwch, gwelwch rifedi y rhai a nodwyd yng-wledd yr Arglwydd.

39Y rhai a ymadawsant â chyscod y bŷd, ac a dderbynnasant wiscoedd disclaer gan yr Arglwydd.

40Cymmer dy rifedi (ô Sion,) caea di ar dy rhai puredig y rhai a gadwasant gyfraith yr Arglwydd.

41Cyflawnwyd rhifedi dy blant y rhai a hiraethaist am danynt, dymuna ar ymerodraeth yr Arglwydd sancteiddio dy bobl y rhai a alwyd o’r dechreuad.

42Myfi Esoras a welais ar fynydd Sion dyrfa o bobl allan o rifedi a hwyntwy eu gyd oeddynt yn moli ’r Arglwydd ar gerdd.

43Ac yn eu canol hwynt yr ydoedd gŵr ieuangc hîr yn vwch nâ hwynt oll, ac efe a osodes goronau ar bennau pob vn o honynt oll, ac efe oedd yn myned fwyfwy o vchder, a hynny oedd ryfedd genif.

44Yna y gofynnais i’r Angel, gan ddywedyd, beth yw y rhai hyn Arglwydd:

45Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wrthif, dymma y rhai a ddioscasant y dillad marwol, ac a wiscasant y dillad anfarwol, ac a gyfaddefasant enw Duw, yn awr y coronwyd hwynt, ac y cawsant eu taledigaeth.

46A dywedais wrth yr Angel, pwy yw yr gwr ieuangc sydd yn eu coroni hwynt, ac yn rhoddi y Palm-wŷdd yn eu dwylo:

47A chan atteb efe a ddywedodd wrthif, Mab Duw yw efe, ’r hwn a gyfaddefasant yn y bŷd, yna y dechreuais inne eu canmol hwynt yn fawr, y rhai a safasent mor bybyr wrth enw yr Arglwydd.

48Yna y dywedodd yr Angel wrthif, dôs ymmaith a dangos i’m pobl pa fath bethau, a pha gymmaint o ryfeddodau yr Arglwydd Dduw a welaist ti.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help