Gweithredoedd yr Apostolion 28 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXVIII.Y wiber yn brathu Paul, a barn yr estroniaid am hynny. 7 Paul yn iachau tad Publius ac eraill. 16 Paul yn dyfod i mewn i Rufain, 17 Yn dywedyd ei hanes wrth yr Iddewon yno. 23 Yn pregethu y gair i mewn ac allan.

1Ac wedi iddynt ddiangc yn iach i’r lān, yna y gwybuant mai Melita y gelwid yr ynys.

2Ar Barbariaid a ddangosasant i ni fwyneidd-dra nid bychan, o blegit hwy a gynneuasant dân, ac a’n derbynniasant ni oll rhag y gafod gynnyrchiol, a rhag yr oerni.

3Ac wedi cynnull o Paul ddyrnaid o friwydd, ai dodi ar y tân, gwiber a ddaeth allan rhag y gwres, ac a ruthrodd iw law ef.

4A phan welodd y Barbariaid y pryf yn crogi wrth ei law ef: hwy a ddwyedasant wrth eu gilydd, yn siccr llawruddiog yw y dyn ymma, yr hwn er ei ddiangc ar y môr nis gad dialedd i fyw.

5Eithr efe a escydwodd y pryf yn tân ac ni oddefodd ddim niwed.

6Ond yr oeddynt hwy yn disgwil iddo ef chwyddo, a syrthio yn ddisymmwth yn farw, ac wedi darfod iddynt hir ddisgwil, ac heb weled niwed yn digwyddo iddo ef, hwy a newidiasant, ac a ddywedasant, ei fod efe yn Dduw.

7Yng-hylch y man hwnnw yr oedd tyddyn i bennaeth yr ynys, ei enw oedd Publius, yr hwn a’n cymmerth ni dri-diau, ac a’n lleteuodd yn garedig.

8Ac fe a ddigwyddodd, fod tad Publius yn glaf o gryd a gwaedlif, at yr hwn pan aeth Paul i mewn a gweddio, a dodi ei ddwylo arno, efe a’i iachaodd ef.

9Ac wedi gwneuthur hyn, eraill hefyd o’r ynys y rhai yr oedd heintiau arnynt a ddaethant atto, ac hwy a iachawyd.

10Y rhai a’n parchasant ni ag vrddas mawr, ac wrth longi o honom, hwy a’n llwythasant â pethau angenrheidiol.

11Ac ar ben y tri-mis yr aethom mewn llong o Alexandria, yr hon a aiafase yn yr ynys, a’i harwydd hi oedd Castor a Pholux.

12Ac wedi ein dyfod ni i Syracusa y trigasom dri-diau.

13Ac oddi yno y cyrchasom o amgylch, ac a ddaethom i Rhegium, ac yn ôl vn dydd y chwythodd y dehau-wynt, ac y daethom yr ail dydd i Puteol.

14Yna y cawsom frodyr, ac fe a ddymuned arnom aros gyd â hwynt saith niwrnod, ac felly ni a ddaethom tu a Rhufain.

15Ac oddi yno pan glybu’r brodyr oddi wrthym, hwy a ddaethant i gyfarfod â ni hyd ym marchnad Appiphorum, a’r tair Tafarn, y rhai pan welodd Paul, efe a ddiolchodd i Duw, ac a gymmerodd gyssur.

16Eithr pan ddaethom i Rufain, y Canwriad a roddes y carcharorion at y capten uchaf, ond fe adawyd Paul i aros o’r neilldu gyd â milwr yr hwn oedd yn ei gadw ef.

17Ar ben y trydydd dydd fe ddarfu i Paul alw yng-hyd bennaethiaid yr Iddewon, ac wedi eu hymgynnull y dywedodd efe wrthynt (ô wyr frodyr) myfi, er na wnaethym ddim yn erbyn y bobl, na defodau y tadau, a roddwyd yn garcharor o Ierusalem i ddwylo y Rhufein-wŷr.

18Y rhai wedi darfod fy holi, a fynnasent fyng-ollwng ymmaith, am nad oedd dim achos angeu ynof.

19Eithr am fod yr Iddewō yn dywedyd yn erbyn hyn, mi a yrrwyd i appelio at Cæsar, nid am fod gennif ddim i achwyn ar fyng-henedl.

20Ac am yr achos ymma y gelwais am danoch chwi, i’ch gweled, ac i ymddiddan â chwi, canys am obaith yr Israel i’m rhwymwyd â’r gadwyn hon.

21A hwythau a ddywedasant wrtho, ni chawsom ni na llythyrau o Iudæa am danat, ac ni ddaeth neb o’r brodyr i ddywedyd nac lefaru dim drwg am danat.

22Ond ni a fynnem glywed gennit ti, beth yw dy feddwl, o blegit mae yn yspys gan bawb am y sect hon, fod ym mhob man yn dywedyd yn ei herbyn hi.

23Ac wedi iddynt nodi diwrnod iddo, llawer a ddaeth atto ef iw letty, i’r rhai yr eglurodd ac y testiolaethodd efe am deyrnas Dduw, gan gynghori iddynt y pethau a berthynent am Iesu Grist, o gyfraith Moses, a’r prophwydi, o’r boreu hyd yr hwyr.

24A rhai a gredasant i’r pethau a ddywedasid, ac eraill ni chredâsant.

25A phryd nad oeddynt yn cydgordio yn eu plith eu hunain, ymadel a wnaethant, wedi i Paul ddywedyd y gair hwn, Da yn wir y llefarodd yr Yspryd glân wrth ein tadau drwy Esaias brophwyd:

26Gan ddywedyd, Esai.6.9. math.13.14. marc.4.12. luc.8.10. ion.12.40. rufein.11.8. dos at y bobl ymma, a dywet, yn clywed y clywch, ac ni ddeallwch, ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch.

27Canys brâs-hawyd calon y bobl hyn, a thrwm y clywsant â’u clustiau, a’u llygaid a gaeasant, rhag iddynt weled â’u llygaid, na chlywed â’u clustiau, na deall â’u calonnau, a dychwelyd fel yr iachawn hwynt.

28Bydded hyspys i chwi, ddanfon iechydwriaeth Dduw i’r cenhedloedd, ac hwy ai gwrandawant.

29A phan ddarfu iddo ddywedyd hyn, yr Iddewon a aethant allan, a llawer o ymrafaelion ganddynt.

30A Phaul a arhoes gwbl o ddwy flynedd yn ei dŷ ardrethol, ac a dderbynniodd bawb a’r a ddaeth i mewn atto,

31Gan bregethu teyrnas Dduw, a dyscu y pethau a berthynent am yr Arglwydd Iesu Grist â phob hyder, heb ei wahardd.

Diwedd Gweithredoedd yr Apostolion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help