Ecclesiasticus 35 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN XXXV.I ba aberthau y mae Duw bodlon. 14 Gweddi yr ymddifad a’r weddw a’r gostyngedic.

1 1.Sam.15.22. Ier.7.3. Y Mae y neb sydd yn cadw y gyfraith yn dwyn digon o offrymmau.

2Y neb sydd yn dilyn y gorchymynnion sydd yn aberthu iechydwriaeth.

3Ac y mae yr hwn a dalo ddiolch megis yn offrymmu peillied, Phil.4.18.ar hwn a roddo elusen yn aberthu moliant.

4Ewyllys yr Arglwydd yw troi oddi wrth ddrygioni: Exod.23.15. & 34.20.a bodloni yw ymado ag anghyfiawnder.

5Nac ymddangos ger bron yr Arglwydd yn wag-law.

6O blegit hyn oll a wneir o achos y gorchymyn.

7 Gen 4.4. Y mae offrwm y duwiol yn gwneuthur yr allor yn frâs, a pheraidd yw ei arogl ef ger bron y Goruchaf.

8Aberth y gŵr cyfiawn sydd gymeradwy, ac nis gollyngir tros gof ei goffadwriaeth ef.

9Gogonedda Dduw yn ewyllyscar, ac na ddod flaen-ffrwyth dy ddwylo yn brin.

10 2 Cor 9 7. Dangos dy wyneb yn llawen ym mhob rhodd: a chyssegra dy ddecfed yn siriol.

11 Tobit 4 8. Dod i’r Arglwydd megis y rhoddes yntef i tithe, ac fel y mae dy allu yn ewyllyscar.

12O blegit diolchgâr yw yr Arglwydd, ac efe a dâl saith gymmaint: na wna dy rodd yn brinnach.

13 Deut.10.17. 2.Cron.19.7.|2CH 19:7. Iob 34.19.|JOB 34:19. Doeth.6.7. Act.10.34. Rhuf.2.11. Galat.2.6.|GAL 2:6. Ephes.6.9.|EPH 6:9. Colos.3.25.|COL 3:25. 1.Pet.1.17. Na phrinhâ mo’th offrwm, canys ni dderbyn efe mo honaw: ac nac edrych ar aberth anghyfiawn.

14O blegit yr Arglwydd sydd farn-wr, ac nid yw efe yn ystyried wyneb neb.

15Nid ystyria efe berson yn erbyn y tlawd, eithr efe a wrendu weddi y gorthrymedic.

16Ni ddiystyra efe ddeisyfiad yr ymddifad na’r weddw, pan dywallto hi ei gweddi.

17Onid yw dagrau y weddw yn descyn ar ei gruddiau hi, ai llefain yn erbyn y neb sydd yn eu peri:

18Yr hwn a addôlo a fydd cymmeradwy, ai weddi ef a gyredd hyd y cwmylau.

19Gweddi y gostyngedic a aiff trwy y cwmylau, ac nis diddenir hi nes ei dyfod yn agos, nid ymmedu hi nes i’r Goruchaf edrych arni hi a barnu y cyfiawn, a gwneuthur barn.

20A’r Arglwydd nid oeda, ac nid erys y cadarn wrthynt hwy, nes dryllio cefn y rai creulon.

21A rhoddi dial ar y cenhedloedd a dwyn ymmaith luosogrwydd y rhai trahaus, a dryllio lwynau y rhai anghyfiawn.

22Nes iddo ef dalu i dŷn yn ôl eu haeddedigaethau: a gobrwyo dynion yn ôl eu meddyliau.

23Nes iddo farnu ei bobl, ai llawenychu hwynt ai drugaredd ef.

24Mor hyfryd yw trugaredd yn amser adfyd: fel y cwmylau glaw yn amser sychder.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help