1A meibion Israel a gychwnnasant, ac a werssyllasant yn rhossydd Moab, am yr Iorddonen a Iericho.
2A gwelodd Balac mab Ziphor, yr hyn oll a wnaethe Israel i’r Amorriaid.
3Ac ofnodd Moab rhac y bobl yn fawr, canys llawer oedd, ie ymofidiodd Moab rhac meibion Israel.
4Yna y dywedodd Moab wrth henuriaid Madian, y gynnulleidfa hon yn awr a lyfant ein holl amgylchoedd, fel y llyfa ŷch ddail y maes: a Balac mab Ziphor frenin ar Moab yn yr amser hwnnw.
5Ac efe a anfonodd gennadau at Iosua 24.2.|JOS 24:2. Deut.23.5. 2.pet.2.15.Balam fab Peor, i Petor (yr hon wrth afon tîr meibion ei bobl) iw gyrchu ef gan ddywedyd: wele papl a ddaeth allan o’r Aipht, wele y maent yn cuddio wyneb y tîr, ac y maent yn aros ar fyng-hyfer i.
6Yr awran gan hynny tyret attolwg melldithia i mi y bobl ymma, canys cryfach ydynt na mi: etto ond odid gallwn daro arnynt, a gyrrwn hwynt o’r tir: canys gwn mae bendigedic yr hwn a fendithiech, a melldigedic yr hwn a felldithiech.
7Yna henuriaid Moab, ar henuriaid Madian a aethant dewiniaeth yn eu dwylo, daethant hefyd at Balaam a thraethasant iddo eiriau Balac.
8A dywedodd yntef wrthynt, lleteuwch ymma heno, a rhoddaf i chwi atteb megis y llefaro yr Arglwydd wrthif: a thywysogion Moab a arhosasant gyd a Balaam.
9Yna y daeth Duw at Balaam ac a ddywedodd pwy y dynion hyn gyd a thi?
10A dywedodd Balaam wrth Dduw, Balac mab Ziphor brenin Moab a ddanfonodd attaf
11Wele bobl wedi dyfod allan o’r Aipht, ac yn gorchguddio wyneb y tîr: yr awran tyret rhega hwynt i mi, felly ond odid y gallaf ryfela a hwynt, ai gyrru allan.
12A dywedodd Duw wrth Balaam, na ddos gyd a hwynt, na felldithia y bobl canys bendigedic ydynt.
13Yna y cododd Balaam y boreu ac a ddywedodd wrth dywysogion Balac: ewch i’ch gwlad, o blegit yr Arglwydd a neccaodd adel i mi fyned gyd a chwi.
14A thywysogion Moab a godasant, ac a ddaethant at Balac, ac a ddywedasant: neccaodd Balaam ddyfod gyd a ni.
15Yna Balac a anfonodd eilwaith fwy o dywysogion anrhydeddusach na’r rhai hyn.
16A daethant at Balaam ac a ddywedasant wrtho, fel hyn y dywed Balac mab Ziphor, attolwg na luddier di rhac dyfod attaf.
17Canys gan anrhydeddu i’th anrhydeddaf yn fawr, a’r hyn oll a ddywedech wrthif a wnaf: tyret tithe attolwg, rhega i mi y bobl hyn.
18Yna yr attebodd Balaam ac a ddywedodd wrth weision Balac, Num.24.13.pe rhodde Balac i mi arian ac aur loned ei dy, ni allwn fyned tros air yr Arglwydd fy Nuw i wneuthur bychan neu fawr.
19Ond attolwg yn awr arhoswch chwithau ymma y nôs hon, fel y caffwyf wybod beth a ddywedo yr Arglwydd wrthif yn chwaneg.
20A daeth Duw at Balaam nôs a dywedodd wrtho, os i’th gyrchu di y daeth y dynion hyn, cyfot dos gyd a hwynt: ac er hynny y peth a lefarwyf wrthit, hynny a wnei di.
21Yna y cododd Balaam yn forau, ac a gyfrwyodd ei assyn, ac a aeth gyd a thywysogion Moab.
22Yna dig Duw a ennynnodd am iddo ef fyned, ac angel’r Arglwydd a safodd ar y ffordd iw wrthwynebu ef, ac efe yn marchogaeth ar ei assyn, ai ddau langc gyd ag ef.
23A’r assyn a welodd angel yr Arglwydd yn sefyll ar y ffordd, ai gleddyf yn noeth yn ei law, a chillodd yr assyn o’r ffordd, ac aeth i’r maes, a tharawodd Balaam yr assyn iw throi i’r ffordd.
24Yna angel yr Arglwydd a safodd ar lwybr y gwinllanoedd chae o’r ddau tu.
25Pan welodd yr assyn angel yr Arglwydd yna hi a ymwascodd at y pared, ac a wascodd droed Balaam wrth y pared, ac efe ai tarawodd hi eil-waith.
26Ac aeth angel yr Arglwydd ym mhellach, ac a safodd mewn lle cyfyng, lle nid ffordd i gilio tua’r tu dehau, na’r tu asswy.
27A gwelodd yr assyn angel yr Arglwydd ac a orweddodd tan Balaam, yna’r enynnodd dîg Balaam, fel y tarawodd efe yr assyn a ffonn.
28Ac 2.Pet.2.16.agorodd yr Arglwydd safn yr assyn, a hi a ddywedodd wrth Balaam, beth a wneuthum it pan darewaist fi y tair gwaith hyn?
29A dywedodd Balaam wrth yr assyn, am it fy siommi, ô na bydde gleddyf yn fy llaw, canys yn awr i’th laddwn.
30Yna y dywedodd yr assyn wrth Balaam, onid myfi dy assyn, ar yr hon y marchogaist er pan ti, hyd y dydd hwn? gan arfer a arferais i wneuthur it fel hyn? ac efe a ddywedodd, na ddo.
31A’r Arglwydd a agorodd lygaid Balaam, ac efe a welodd angel yr Arglwydd, yn sefyll ar y ffordd, ai gleddyf noeth yn ei law: yna efe a ogwyddodd ei ben, ac a ymgrymmodd ar ei wyneb.
32A dywedodd angel yr Arglwydd wrtho, pa ham y tarewaist dy assyn y tair gwaith hyn? wele mi a ddeuthum allan yn wrthwynebydd canys cyfeiliornus yw y ffordd hon yn fyng-olwg.
33A’r assyn a’m gwelodd, ac a giliodd rhagof y tair gwaith hyn, oni buase iddi gilio rhagof, diau yn awr y lladdaswn di, a gadawswn yn fyw y hi.
34Yna y dywedodd Balaam wrth angel yr Arglwydd, pechais am na wyddwn mai ti oedd yn sefyll ar y ffordd yn fy erbyn: ac yr awran os drwg yn dy olwg, dychwelaf adref.
35A dywedodd angel yr Arglwydd wrth Balaam, dos gyd a’r dynion, a’r gair a lefarwyf wrthit, hynny yn vnic a leferi: felly Balaam a aeth gyd a thywysogion Balac.
36A chlybu Balac ddyfod Balaam, ac efe a aeth iw gyfarfod ef i ddinas Moab: yr hon ar ardal Arnon, yr hon ar gwrr y terfyn.
37A dywedodd Balac wrth Balaam: onid gan anfon yr anfonais attat i’th gyrchu? pa ham na ddeuit ti attaf? oni allwn dy wneuthur di yn anrhydeddus?
38A dywedodd Balaam wrth Balac, wele mi a ddeuthum attat, gan Num.23.12.allu a allafi lefaru dim yr awran? y gair a osodo Duw yn fyng-enau hwnnw a lefaraf.
39Ac aeth Balaam gyd a Balac, ac a ddaethant i gaer Huzoth.
40A lladdodd Balac warthec, a defaid, ac a anfonodd i Balaam, ac i’r tywysogion y rhai gyd ag ef.
41Ar boreu Balac a gymmerodd Balaam ac aeth ag ef i fynu i vchelfeudd Baal: fel y gwele oddi yno eithaf y bobl.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.