1Baich Damascus. Wele Ddamascus wedi symmud o yn ddinas, a charnedd wedi ei syrthio a fydd hi.
2Gwrthodedic ddinasoedd Aroer a fyddant eiddo’r preiddiau: yno y gorweddant, ac ni dychrynnudd.
3Yna y derfydd amddeffynfa o Ephraim, a brenhiniaeth o Ddamascus, a gweddill Syria: fel gogoniant meibion Israel y byddant medd Arglwydd y lluoedd.
4Ac ar y dydd hwnnw y bydd i ogoniant Iacob feinhau, a brasder ei gîg ef a gulhâ.
5Ac efe a fydd fel pan cascle gynhaiaf ŷd, ac pe mede ei fraich dwysennau: a bydd fel casgludd twyssennau yng-lynn Rephaim.
6Ac ynddo y gadewir grawn-wîn, fel escydwad oliwŷdden, dau dri o rawn ym mlaen y brig, phedwar bump yn ei changhennau ffrwythlawn, medd Arglwydd Dduw Israel.
7Yn y dydd hwnnw yr edrych dŷn am ei wneuthur-wr, ai lygaid a edrychant am Sanct Israel.
8Ac nid edrych am yr allorau waith ei ddwylo; îe nid edrych am yr hyn a wnaeth ei fyssedd, sef llwyni a delwau.
9Yn y dydd hwnnw y bydd eu dinasoedd cedyrn fel y blagur a’r brîg gwrthodedic y rhai a adawsant o herwydd meibion Israel: felly y bydd yn ddiffaethwch.
10O herwydd anghofio o honot Dduw dy iechydwriaeth, ac na chofiaist graig dy gadernid: am hynny y plenni blanhigion hyfryd, ac yr impi hwynt a changhennau dieithr.
11Y dydd y gwnei i’th blanhigin dyfu, a’r boreu y gwnei i’th hâd flodeuo, cogwrn cynhaiaf ar ddydd llescedd, a dolur gofidus.
12Gwae dyrfa pobloedd lawer, fel twrwf y môr y trystiant, îe twrwf y bobloedd a drystiant fel sŵn dyfroedd lawer.
13Fel sŵn dyfroedd lawer y trystia y bobl, a ai cerydda hwynt, yna y ffoant ym mhell, ac yr erlidir hwynt fel peiswyn mynydd o flaen y gwynt, ac fel troeth ymlaen corwynt.
14Ac wele ddychryn ar bryd nawn, a chynn y boreu ni bydd: Dymma rann y rhai a’n sathrant ni, a choel-bren y rhai a’n yspeiliant ni.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
