Mathew 22 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXII.1 Dammeg y briodas yn arwyddocau galwedigaeth y cenhedloedd, 11 a dialedd rhagrith-wyr, 16 ymresymmiad am deyrn-ged, Crist yn cau safnau y Saducæaid ynghylch yr adgyfodiad, 31 am yr adgyfodiad 36 y gorchymyn mwyaf, â’r ail, 41 Iesu yn ymresymmu â’r Pharisæaid am y Messias.

1A’r Iesu Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ddyn a oedd frenin, yr hwn a wnaethe briodas iw fâb.

3Ac a ddanfonodd ei weision i alw y rhai a wahoddasid i’r briodas, ac ni fynnent hwy ddyfod.

4Trachefn efe a anfonodd weision eraill, gan ddywedyd, dywedwch wrth y rhai a wahoddwyd, wele, paratoais fyng-hinio, fy ŷchen a’m pascedigion a laddwyd, a phob peth sydd barod, deuwch i’r briodas.

5A hwy yn ddiystyr ganddynt, a aethant ymmaith, vn iw faes, ac arall iw fasnach.

6A’r llaill, a ddaliasant ei weision ef, a chan wneuthur yn drahaus â hwynt a’u lladasant.

7A phan glybu y brenin, efe a lidiodd, ac a ddanfonodd allan eu luedd-wŷr, ac a ddinistriodd y lleiddiaid hynny, ac a loscodd eu dinas hwynt.

8Yna efe a ddywedodd wrth ei weision, yn wir y briodas sydd barod, ond y rhai a wahoddasit, nid oeddynt deilwng.

9Ewch gan hynny allan i’r priffyrdd, a chynnifer ag a gaffoch gwahoddwch i’r briodas.

10A’r gweision hynny a aethant allan i’r priffyrdd, ac a gasclasant yng-hŷd gynnifer oll ag a gawsant, drwg a da, a llanwyd y briodas o wahaddedigion.

11A phan ddaeth y brenin i mewn i weled y gwahaddedigion, efe a ganfu yno ddyn heb wisc priodas am dano.

12Ac efe a ddywedodd wrtho, y cyfaill, pa fodd y daethost i mewn ymma heb fod gennit wisc priodas? ac yntef a aeth yn fûd.

13Yna YnaAc wedi clywed o’r Pharisæaid ddarfod ostegu y Saducæaid, hwythau a ymgynnullasant ynghyd i’r vn lle.

35Ac vn o honynt, yr hwn oedd gyfraithiwr a ofynnodd iddo gan ei demtio, a dywedyd,

36Athro, pa vn yw’r gorchymyn mawr yn y gyfraith?

37Yr Iesu y ddywedodd wrtho, Deut.6.5. Luc.10.27.ceri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl.

38Hwn yw’r cyntaf, a’r gorchymyn mawr.

39A’r Leuit.19.18.|LEV 19:18. Mar.12.31.|MRK 12:31. Rufe.13.9.|ROM 13:9. Gala.5.14. Iac.2.8.ail sydd gyffelyb i hwn, ceri dy gymydog fel tydi dy hun.

40Yn y ddau orchymyn hyn, y mae’r holl gyfraith a’r prophwydi yn sefyll.

41Ac Mar.12.35.|MRK 12:35. Luc.20.41.wedi ymgasclu o’r Pharisæaid yng-hyd, yr Iesu a ofynnodd iddynt,

42Gan ddywedyd, beth a dybygwch chwi am Grist? mâb i bwy ydyw? dywedasant wrtho: Mâb Dafydd.

43Yntef a ddywedodd wrthynt, pa fodd gan hynny y mae Dafydd yn yr yspryd yn ei alw ef yn Arglwydd, gan ddywedyd,

44 Psa.110.1 Dywedodd yr Arglwydd, wrth fy Arglwydd, eistedd ar fy neheulaw hyd oni osodwyf dy elynion yn droed-faingc i’th traed.

45Am hynny os galwodd Dafydd ef yn Arglwydd, pa fodd y mae efe yn fâb iddo?

46Ac ni fedre nêb atteb gair iddo, ac ni feiddiodd nêb o’r dydd hwnnw allan ymofyn ac ef mwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help