1.Brenhinoedd 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.Swyddogion Salomon. 22 yr arlwy ydoedd i fwrdd Salomon. 26 Ei feirch ef, 32 Ai lyfrau.

1A’r brenin Salomon oedd frenin ar holl Israel.

2Dymma y tywysogion y rhai ganddo ef: Azariahu mab Zadoc yr offeiriad:

3Elihoreph, ac Ahiah, meibion Sisa scrifennyddion, Iehosaphat mab Ahilud yn gofiadur:

4A Banaiah mab Iehoiada ar y llu, a Zadoc, ac Abiathar yn offeiriaid:

5Azariahu hefyd mab Nathan ar y swyddogion, a Zabud mab Nathan raglaw yn gyfell i’r brenin:

6Ac Ahisar ben-teulu, Pen.5.14.ac Adomram mab Abda ar y deyrnged.

7A chan Salomon yr ydoedd deuddec o swyddogion, ar holl Israel, a hwynt a gynhalient y brenin ai dŷ: mîs yn y flwyddyn yr oedd ar vn gynnal.

8Dymma eu henwau hwynt, mab Hur ym mynydd Ephraim.

9Mab Decar ym Macas, ac yn Saalbin, a Bethsemes, ac Elon, Bethanan.

10Mab Hesed yn Aruboth, iddo ef Socho, a holl dir Hepher.

11Mab Abinadab holl ardal Dor, Taphath merch Salomon oedd yn wraig iddo ef.

12Baanah mab Ahilud Thaanach, a Megido, a Bethsan oll yr hon ger llaw Sarthana, îs law Iezrahel: o Bethsan hyd Abelmehola, hyd ar gyfer Iocmeam.

13Mab Geber yn Ramoth Gilead, iddo ef Num.32.41.trefydd Iair mab Manasses, y rhai yn Gilead: eiddo ef ardal Argob, yr hon o fewn Basan: tri vgain o ddinasoedd mawrion gaerau a barrau prês.

14Ahinadab mab Hido ym Hahanaim.

15Ahimaaz yn Nephthali, yntef a gymmerodd Basmath merch Salomon yn wraig.

16Baanah mab Husai yn Aser, ac yn Aloth.

17Iehosaphat mab Paruah yn Issachar.

18Simei mab Ela o fewn Bēiamin.

19Geber mab Uri yng-wlâd Gilead, gwlâd Sehon yr Amoriad, ac Og brenin Basan, ar vnic swyddog yr hwn yn y wlâd

20Iuda, ac Israel aml, fel y tyfod yr hwn ger llaw’r mor o amldra: yn bwytta, ac yn yfed, ac yn bod yn llawen.

21A Ecclesi.47.15.Salomon oedd yn llywodraethu ar yr holl deyrnasoedd o afon gwlâd y Philistiaid, hyd derfyn yr Aipht: yr oeddynt hwy yn dwyn anrhegion, ac yn gwasanaethu Salomon holl ddyddiau ei oes ef.

22A bara Salomon beunydd oedd ddêc Corus ar hugain o beillied, a thri vgain Corus o flawd:

23Dêc o ŷchen pascedic, ac vgain o ŷchen porfadwy, a chant o ddefaid, heb law ceirw, ac iwrchod, a buail, ac ednod breision.

24Canys efe oedd yn llywodraethu ar y tu hwnt i’r afon oll, o Thipsah, hyd Azza, ar yr holl frenhinoedd o’r tu hwynt i’r afon: ac yr oedd iddo ef heddwch o bob parth iddo o amgylch.

25Yna y presswyliodd Iuda ac Israel yn ddiogel, pob vn tann ei win-wŷdden, a thann ei ffigus-bren, o Ddan hyd Beerseba holl ddyddiau Salomon.

26Ac 1.Cron.9.25.yr oedd gan Salomon ddeugain mil o bresêbau meirch iw gerbydau, a deuddeng-mil o wŷr meirch.

27A’r swyddogion hyn a gynhaliasant Salomon y brenin, a phawb a ddele i fwrdd y brenin, pob vn ei fîs, ni adawsant eisieu dim.

28Haidd hefyd, a gwellt a ddugasant hwy i’r meirch, ac i’r mulod, i’r fann lle y bydde pob vn ar ei gylch.

29A Ecclesi 47.16.Duw a roddodd ddoethineb i Salomon a deall mawr iawn, a helaethora calon, fel y tywod yr hwn sydd ar fîn y môr.

30A doethineb Salomon oedd fwy na doethmeb holl feibion y dwyrain, ac na doethineb yr Aiphtiaid.

31Ie doethach oedd efe nac vn dŷn: nac Ethan yr Ezrahiad, na Heman, na Chalcol, na Darda meibion Mahol: ai enw ef oedd ym mysc yr holl genhedloedd oddi amgylch.

32Ac efe a lefarodd dair mil o ddiharebion, ai ganiadau ef oedd fil, a phump.

33Llefarodd hefyd a’m brennau, o’r cedrwŷdd yr hwn yn Libanus, hyd yr yssop yr hwn a dŷf wrth y pared: ac efe a lefarodd am anifeiliaid, ac am ehediaid, ac am ymlusciaid, ac am byscod.

34Ac o bob pobloedd y daethpwyd i wrando doethineb Salomon, oddi wrth holl frenhinoedd y ddaiar y rhai a glywsent am ei ddoethineb ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help