1Ac mi a welais mewn llaw ddehau yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfaingc, lyfr wedi ei scrifennu o’r tu fewn, ac o’r tu allan, wedi ei selio â saith sêl.
2Ac mi a welais angel cadarn yn pregethu â llais vchel, pwy sy deilwng i agoryd y llyfr, ac i ddattod ei seliau ef?
3Ac nid oedd nêb yn y nef, nac yn y ddaiar, na than y ddaiar, yn abl i agoryd y llyfr, nac i edrych arno.
4Ac mi a ŵylais lawer, o achos na châed nêb yn deilwng i agoryd, ac i ddarllen y llyfr, nac i edrych arno.
5Ac vn o’r henuriaid a ddywedodd wrthif fi, nac ŵyla, wele, y * llew yr hwn sydd o lwyth Iuda, gwreiddin Dafydd a orchfygodd i agoru y llyfr, ac i ddattod ei saith sêl ef.
6Yna mi a edrychais, ac wele, yng-hanol yr orseddfaingc a’r pedwar anifail, ac yng-hanol yr henuriaid, yr ydoedd oen yn sefyll fel pe buase wedi ei lâdd, yr hwn oedd a saith gorn, ac a saith lygad iddo, y rhai ydynt saith Yspryd Duw, y rhai a ddanfonwyd i’r holl fŷd.
7Ac efe a ddaeth, ac a gymmerth y llyfr o law ddehau yr vn oedd yn eistedd ar yr orseddfaingc.
8A phan gymmerth efe y llyfr, y pedwar anifail, a’r pedwar henuriad ar hugain, a syrthiasant ger bron yr oen, ac yr ydoedd gan bôb vn o honynt delŷnau a chrythau aur yn llawn o arogl-darth, y rhai ydynt weddiau’r sainct.
9Ac hwynt hwy a ganâsant ganiad newydd, gan ddywedyd, teilwng ŵyt ti i gymmeryd y llyfr, ac i dattod ei seliau ef: canys ti a laddwyd, a thi a’n prynaist ni i Dduw, trwy dy waed, allan o bôb llwyth, a thafod, a phobl, a chenhedlaeth,
10Ac a’n gwnaethost yn frenhinoedd, ac yn offeiriaid i’n Duw ni, a ni a deyrnaswn ar y ddaiar.
11Yna mi a edrychais, ac a glywais lais llawer o angelion yng-hylch yr orseddfaingc a’r anifeiliaid a’r henuriaid, ac yr oeddynt yn fil ô filoedd,
12Yn dywedyd â llais vchel, teilŵng yw’r oen yr hwn a laddwyd i dderbyn gallu, a chyfoeth, a doethineb, a chadernid, ac anrhydedd, a gogoniant, a moliant.
13Ac mi a glywais yr holl greaduriaid y rhai ydynt yn y nef, ac ar y ddaiar, a than y ddaiar, ac yn y mor, a’r hyn oll sydd ynddynt hwy, yn dywedyd, moliant, ac anrhydedd, a gogoniant a gallu fyddo iddo ef yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfaingc, ac i’r Oen yn dragywydd.
14A’r pedwar anifail a ddywedasant, Amen, a’r pedwar henuriad ar hugain a syrthiasant i lawr, ac ai anrhydeddasant ef, yr hwn sydd yn byw yn dragywydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
