2.Machabæaid 10 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. X.1 Iudas Machabaeus yn ennill trachefn y ddinas a’r Deml. 10 Gweithredoedd Eupator. 16 Yr Idde­won yn ymladd yn erbyn yr Idumeaid. 24 Timotheus yn gorescyn Iudaea, yn erbyn yr hwn y mae Iudas yn rhyfêla. 29 Pum gwr sydd yn ymddangos yn yr awyr i helpu yr Iddewon. 37 Lladdiad Timotheus.

1Machabaeus hefyd a’r rhai oeddynt gyd ag ef, drwy fôd yr Arglwydd yn llywydd a ennillodd trachefn y ddinas a’r Deml.

2Ac hwy a fwriasant i lawr yr allorau a’r Cappelau a wnaethe yr cenhedloedd yn yr heolydd.

3Ac wedi glanhau ’r Deml, hwy a weithiasant allor arall: ac wedi iddynt daro tân allan o gerrig tanllyd, hwy a offrymmasant aberth yn ôl dwy flynedd, ac a arlwyasant arogl-darth a Iusernau, a bara gosot.

4Wedi hynny hwy a attolygasant i’r Arglwydd gan syrthio i lawr ar eu hwynêbau, na bydde iddynt mwyach syrthio mewn cyfryw ddrygau: ond os pechent trachefn vn amser, bod iddo ef ei hun eu cospi drwy drugaredd, ac nas rhodde ddim o honynt mwy i’r cablaidd a’r creulon genhedloedd.

5A’r dydd hefyd yr halogasid y Deml gan y dieithraid, y digwyddodd gwneuthur puredigaeth y Deml yr vn dydd, sef y pummed dydd ar hugain o fis Casleu.

6Hwy a gadwasant â llawenydd tros wyth niwrnod ddydd gwyl y pebyll, gan gofio fel y gorfase iddynt ychydig o’r blaen gadw gŵyl y pebyll yn y mynyddoedd a’r ogfeuydd yn ôl modd anifeiliaid.

7Am hynny hwy a gymmerasant ganghenau îr, a cheingciau hardd, a blodau, ac a ganasant psalmau i’r hwn a roddase iddynt rwydd­deb i lânhau ei fangre

8Hwy a ordeiniasant hefyd drwy gyffredin orchymyn a deddf ym mysc hôll genedl yr Iddewon, gadw y dyddiau hyn bôb blwyddyn.

9Ac fel hyn y bu ddiwedd Antiochus a gyfenwid Epiphanes.

10Weithian hefyd ni a fynegwn y pethau a wnaethpwyd yn amser Eupator Antiochus yr hwn ydoedd fâb yr annuwiol hwnnw) gan dalfyrru yng-hŷd y beunyddiol ddrygau y rhai oblegit rhyfêloedd a ganlynasant.

11Canys hwn wedi cymmeryd arno y deyrnas a seiniodd ryw vn a elwid Lysias, i fod yn olygwr ar faterrion, yr hwn a fuase yn gapten pennaf o Caeles Syria a Phenicia.

12Canys Ptolomeus yr hwn a henwasid Macron (ai fryd ar wneuthur cyfiawnder a’r Iddewon, o blegit y cam a wnaethe iddynt) a aeth yng-hylch dwyn eu materion hwy i benn yn heddychol.

13Am hynny efe a gyhuddwyd ger bron Eupator gan ei geraint, ac efe a alwyd yn fynych yn fradychwr, o blegit gadel o honaw Cyprus, yr hon a roddase Philometor yn ei gadwriaeth ef, a myned o honaw at Antiochus Epiphanes: am hynny pan weled nad ydoedd mewn bri ardderchog, efe a gymmerth wenwyn, ac ai gwenwynodd ei hun, ac a fu farw.

14Ond pan wnaethwyd Gorgias yn ben llywydd y lleoedd hyn, efe a groesawodd estro­niaid, ac a ryfelodd yn fynych yn erbyn yr Idde­won.

15Yr Idumeaid hefyd a gytunasant ag ef, ac a flinent yr Iddewon, gan ennill y lleoedd cedyru, a thrwy derbyn y rhai a yrrid ar herw o Ierusalem hwy a ymroddasant i gadw rhyfel.

16Am hynny y rhai oeddynt gid â Macha­baeus drwy weddio a ddeisyfasant ar Dduw fod yn gymmorthwr iddynt, ac yna hwy a ruthrasant ar gedyrn leoedd yr Idumeaid.

17I’r rhai pan redasant yn rymmus, hwy a wnaethpwyd yn gyfrannogion o’r lleoedd, ac wedi iddynt ddial ar yr hôll rai a oeddynt ar y gaer hwy a laddasant y rhai a gyfarfyddent, ac a ddienaidasant nid llai nag vgain mil.

18Canys pan gyd-ffoese naw mil o’r lleiaf i ddau dŵr cadarn tros ben, gan fod ganddynt bôb peth ang-henrheidiol er gwarchau,

19Machabaeus a adawodd Simon ac Ioseph a Zaccheus hefyd, a’r rhai oeddynt gid ag hwynt i amgylchu ac efe a aeth ei hun lle yr oedd mwy o eisieu.

20Ond y rhai oeddynt gyd â Simon, am eu bod yn chwannog i arian, a lygrwyd ag arian gan y rhai oeddynt yn y tyrau: ac wedi cymmeryd dêng mîl a thrugain drachmau hwy a ollyngasant rai i ffoi.

21Yr hwn beth pan fynegwyd i Machabaeus efe a gynhullodd yng-hyd bendefigion y bobl, ac a gwynodd arnynt hwy ddarfod iddynt werthu eu brodyr am arian, gan ollwng eu gelynion yn eu herbyn hwynt.

22Am hynny efe ai lladdodd hwynt wedi eu tittio o draeturiaeth, ac yn ddisymmwth efe a ennillodd y ddau dŵr hynny.

23Ac efe a arferodd yr arfau y rhai oeddynt yn dwylo yn llwyddiannus, ac a laddodd fwy nac vgain mil yn y ddau le hynny.

24Timotheus hefyd yr hwn a ddarfuase i’r Iddewon ei orch-fygu o’r blaen, wedi casclu llawer o luoedd dieithr a llawer o wŷr meirch o Asia, a ddaeth yno ar fedr ennill Iudaea wrth arfau.

25Ond y rhai oeddynt gyd a Machabeus, pan ydoedd yn nessau, a droesont i weddio-ar yr Arglwydd,

26Gan danu pridd ar eu pennau, a gwre­gysu eu lwynau â lliensach, a syrthio ar eu hwynebau i’r llawr wrth droed yr allor, ac a attoly­gasant iddo drugarhau wrthynt, a bod yn elyn iw gelynnion, a gwrthwynebu eu gwrthwyneb-wŷr, megis ac y mynêga y gyfraith.

27Ac wedi diweddu eu weddi, hwy a gymmerasant eu harfau, ac a aethant ym mhellach oddi wrth y ddinas, a phan ddaethant yn agos at eu gelynnion hwy a gymmerasant ofal am danynt eu hun.

28Ac er cyntedd yr ymddangosodd cyfodiad haul, hwy a aethant bob vn yng-hŷd: y naill ran a’r Arglwydd ganddynt yn noddfa, ac yn ŵystyll llwyddiant, a buddugoliaeth ardder­chog, a’r lleill yn gosod calondid yn llywydd rhyfel.

29A thra ’r oedd y gâd yn dost fe a ymddangosodd i’r gelynnion o’r nef bum gŵr hardd­wychion, yn eistedd ar feirch a ffrwynau aur, a dau yn blaenori’r Iddewon.

30Y rhai gan gymmeryd Machabeus erbyn ei ganol ai gwiscasant ai barfau rhai ydoedd am danynt, ai cadwasant yn ddiniwed: ac a saethasant bicellau a mellt yn erbyn y gelynnion: am hynny wedi eu gwascaru â dallineb, hwy a syrthiasant i lawr yn llawn blinder.

31Am hynny y lladdwyd o wŷr traed vgain mil a phymp cant, ac o wŷr meirch chwe-chant.

32Ond Timotheus hwnnw a ffôdd i Ga­zara yr hon a elwid yn lle cadarn, lle yr ydoedd y pen llywydd Chereas.

33Ond mil-wŷr Machabeus a ymgylchynasant y lle hwnnw yn galonog bedwar diwr­nod ar hugain.

34Ond y rhai oeddynt oddi mewn yn ym­ddyried yng-hadernid y lle a gablasant yn ddirfawr, ac a ddywedasāt eiriau ffîaidd.

35Pan oleuodd hi y pummed dydd ar hugain, gwŷr ieuaingc y rhai oeddynt gyd â Machabeus, yn llosci yn eu meddyliau o blegit y gabledd, a ddaethant at y gaer, ac a laddasant yn ŵrol â chalon egnius bôb vn a gyfarfyddent â hwynt.

36Eraill hefyd a ddringasant oddi amgylch yn erbyn y rhai oeddynt oddi mewn, ac a loscasant y tyrau, ac wedi cynneu tân hwy a loscasant y cabl-wŷr yn fyw.

37Yn ddiweddaf rhai eraill a dorrasant y pyrth, ac a dderbyniasant i mewn weddill y llu, ac a ennillasant y ddinas, ac a laddasant Timotheus yr hwn ydoedd wedi ymguddio mewn rhyw ffôs, efe ai frawd Chereas, ac Apollopha­nes.

38Wedi darfod iddynt wneuthur y pethau hyn hwy a foliannasant yr Arglwydd â chaniadau, ac a mawl, yr hwn ag ardderchog ddaioni a helpase Israel, ac a roddase iddo oruchafiaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help