Genesis 24 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXIIII.1 Abraham yn peri iw was dyngu y ceisie wraig i Isaac o genedl Abraham. 12 Gweddi y gwâs, a’r arwydd llwyddiant a gafodd efe. 33 Ei ddiwydrwydd ef i wneuthur ewyllys ei feistr. 50 Atteb cenedl Rebecca. 58 Cydtundeb Rebecca i fyned at Isaac 67 Isaac yn priodi Rebecca.

1Ac Abraham oedd hên, wedi myned yn oedrannus, a’r Arglwydd a fendithiase Abraham ym mhob dim.

2A dywedodd Abraham wrth ei wâs hynaf ei dŷ, yr hwn oedd yn llywodraethu ar yr hyn oll a’r ganddo: Gene.47.29.gosot yn awr dy law tann fy morddwyd.

3Fel y parwyf it dyngu i Arglwydd Dduw y nefoedd a Duw y ddaiar, na chymmerech wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid y rhai ’r ydwyf yn trigo yn eu mysc.

4Ond i’m gwlad fy hun yr ei, at fyng-henedl fy hun yr ei di, ac a gymmeri wraig i’m mâb Isaac.

5A’r gwâs a ddywedodd wrtho ef, onid odid ni fynn y wraig ddyfod ar fy ôl i i’r wlad hon, gan ddychwelyd a ddychwelaf dy fab di i’r tîr y yr hwn y daethost allan o honaw?

6Yna y dywedodd Abraham wrtho, gwylia arnat rhac i ti ddychwelyd fy mâb mau-fi yno.

7Arglwydd Dduw y nefoedd yr hwn a’m cymmerodd i o dŷ fy nhâd, ac o wlad fyng-henedl, yr hwn hefyd a ymddiddanodd a mi, ac a dyngodd wrthif gan ddywedyd: Gene.15.7. gene.13.15.|GEN 13:15. gene.15.18.|GEN 15:18. gene.26.4îth hâd ti y rhoddaf y tîr hwnn, efe a enfyn ei angel o’th flaen di, fel y cymmerech wraig i’m mâb oddi yno.

8Ac os y wraig ni fynn ddyfod ar dy ôl di, yna glân fyddi oddi wrth y llw hwn: yn unic na ddychwel di fy mab i yno.

9A’r gwâs a osododd ei law tann forddwyd Abraham ei feistr, ac a dyngodd iddo am y pêth hynn.

10A chymmerodd y gwâs ddec camel, o gamelod ei arglwydd, ac a aeth ymmaith: canys holl dda ei arglwydd tann ei law ef: ac efe a gododd ac a aeth i Mesopotamia i ddinas Nachor.

11Ac efe a wnaeth i’r camelod orwedd or tu allan i’r ddinas, wrth bydew dwfr ar bryd nawn, yng-hylch yr amser y bydde yn dyfod allan i dynnu dwfr.

12Ac efe a ddywedodd ô Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, gwna ddigwyddo o’m blaen i heddyw: a gwna di drugaredd a’m meistr Abraham.

13Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr, a merched gwyr y ddinas yn dyfod allan i dynnu dwfr.

14Bydded mai’r llangces yr hon y dywedwyf wrthi gogwydda attolwg dy stên, fel yr yfwyf: os dywed hi ŷf, a mi a ddiodaf dy gamelod di hefyd, honno a ddarperaist i’th wâs Isaac: ac wrth hynn y caf wybod wneuthur o honot ti drugaredd a’m meistr.

15A bu hynn: cynn darfod iddo lefaru, wele Rebecca yn dyfod allan, (yr honn a anesyd i Bethuel fab Milcha, gwraig Nachor, brawd Abraham) ai stên ar ei hyscwydd.

16A’r llangces dêg odieth yr olwg, yn forwyn, a heb i wr ei hadnabod, a hi a aeth i wared i’r ffynnon, ac a lanwodd ei stên, ac a ddaeth i fynu.

17A’r gwâs a redodd iw chyfarfod, ac a ddywedodd: attolwg gad i mi yfed ychydic ddwfr o’th stên.

18A hi a ddywedodd ŷf fy meistr, a hi a fryssiodd, ac a ddescynnodd ei stên ar ei llaw, ac ai diododd ef.

19Pan ddarfu iddi ei ddiodi ef, hi a ddywedodd: tynnaf hefyd i’th gamelod hyd oni ddarffo iddynt yfed.

20Yna hi a fryssiodd, ac a dywalltodd ei stên i’r cafn, ac a redodd eil-waith i’r pydew i dynnu, ac a dynnodd iw holl gamelod ef.

21Felly y gŵr a synnodd oi phlegit hi, gan dewi, i wybod a lwyddase’r Arglwydd ei daith ef, ai nat do.

22A bu pan ddarfu i’r camelod yfed, gymmeryd o’r gŵr glust-dlws aur, yn hanner sicl ei phwys: a dwy fraichled aur iw dwylo hi, yn ddêc eu pwys.

23Ac efe a ddywedodd, merch pwy ti? mynega i mi attolwg: a oes lle i mi i leteu nhŷ dy dad?

24A hi a ddywedodd wrtho, myfi ferch i Bethuel fâb Milcha yr hwn a ymddug hi i Nachor.

25Ac hi a ddywedodd wrtho ef gwellt ac ebran ddigon gennym ni, a lle i letteu.

26Yna y gŵr, a ymgrymmodd ac a addolodd yr Arglwydd,

27Ac a ddywedodd, bendigêdic fyddo Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, yr hwn ni adawodd fy meistr heb ei drugaredd, ai ffyddlondeb, yr fi ar y ffordd: dug yr Arglwydd fi dŷ brodyr fy meistr.

28A’r llangces a redodd, ac a fynegodd yn nhŷ ei mam fel y petheu hynn.

29Ac i Rebecca’r brawd, ai enw Laban: a Laban a redodd at y gŵr allan i’r ffynnon.

30A phan welodd efe y glust-dlws, ar breichledau am ddwylo ei chwaer, a phan glywodd efe eiriau Rebecca ei chwaer yn dywedyd: fel hyn y dywedodd y gŵr wrthifi, yna efe a aeth at y gŵr, ac wele efe yn sefyll gyd ar camelod wrth y ffynnon.

31Ac efe a ddywedodd, tyret ti i mewn, ti fendigêdic yr Arglwydd, pa ham y sefi di allan? mi a baratoais y tŷ, a llê i’r camelod.

32Yna y daeth y gŵr i’r tŷ, ac yntef a ryddhaodd y camelod, ac a roddodd wellt ac ebran i’r camelod, a dwfr i olchi ei draed ef, a thraed y dynion oedd gyd ag ef.

33Yna y gosodwyd oi flaen ef i fwytta, ac efe a ddywedodd ni fwyttâf hyd oni thraethwyf fy negesau: yna y dywedwyd traetha.

34Ac efe a ddywedodd gwâs Abraham fi.

35A’r Arglwydd a fendithiodd fy meistr yn ddirfawr, ac efe a gynnyddodd, canys rhoddodd iddo ddefaid, a gwarthec, ac arian, ac aur, a gweision, a morwynion, a chamelod, ac assynnod.

36Sara hefyd gwraig fy meistr a ymddug fab i’m meistr, wedi ei heneiddio hi, ac efe a roddodd i hwnnw yr hyn oll ganddo.

37A’m meistr a’m tyngodd i, gan ddywedyd: na chymmer wraig i’m mab i, o ferched y Canaaneaid, y rhai’r ydwyf yn trigo yn eu tîr.

38Ond ti a ei i dŷ fy nhâd, ac at fy nhŷlwyth, fel y cymmerech wraig i’m mâb.

39Yna y dywedais wrth fy meistr, onid odid ni ddaw’r wraig ar fy ôl:

40Yna y dywedodd wrthif, yr Arglwydd yr hwn y rhodiais ger ei fron, a enfyn ei angel gyd a thi, ac a lwydda dy daith di: fel y cymmerech wraig i’m mab i o’m tylwyth fy hun, ac o dŷ fy nhâd.

41Yna y byddi rydd oddi wrth fy melldith, os ti a ddaw at fy nhŷlwyth: canys oni roddant i ti, yna y byddi rydd oddi wrth fy melldith.

42A heddyw y daethum at y ffynnon, ac a ddywedais, Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, os ti sydd yr awran yn llwyddo fy-nhaith, yr hon yr wyfi yn myned arni.

43Wele fi Gene.24.13.yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr, a’r forwyn yr hon a ddelo allan i dynnu, ac y dywedwyf wrthi: dod ti i mi attolwg ychydic ddwfr iw yfed oth stên:

44Ac a ddywedo wrthif finne, ŷf di, a thynnaf hefyd i’th gamelod, bydded honno y wraig yr hon a ddarparodd yr Arglwydd i fab fy meistr.

45Cyn darfod i mi ddywedyd yn fyng-halon, wele Rebecca yn dyfod allan, ai stên ar ei hyscwydd, a hi a aeth i wared i’r ffynnon, ac a dynnodd: yna dywedais wrthi dioda fi attolwg.

46Hithe a fryssiodd, ac a ddescynnodd ei stên oddi arni, ac a ddywedodd ŷf; a mi a ddyfrhaf dy gamelod hefyd: felly’r yfais; a hi a ddyfrhaodd y camelod.

47A mi a ofynnais iddi, ac a ddywedais, merch pwy ti? hithe a ddywedodd merch Bethuel mab Nachor, yr hwn a ymddug Milcha iddo ef. Yna y gossodais y glust-dlŵs, wrth ei hwyneb, a’r breichledau am ei dwylo hi.

48Ac a ben-wyrais, ac a ymgrymmais i’r Arglwydd ac a fendithiais Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, yr hwn a’m harweiniodd ar hyd yr iawn ffordd, i gymmeryd merch brawd fy meistr iw fâb.

49Ac yn awr od ydych chwi yn gwneuthur trugaredd, a ffyddlondeb a’m meistr, mynegwch i mi, ac onid e, mynegwch i mi, fel y troiwyf ar y llaw ddehau neu ar y llaw asswy.

50Yna’r attebodd Laban, a Bethuel, ac a ddywedasant: oddi wrth yr Arglwydd y daeth y peth hyn, ni allwn ddywedyd wrthit ddrwg, na dâ.

51Wele Rebecca o’th flaen, cymmer, a dôs, a bydded wraig i fab dy feistr, fel y llefarodd yr Arglwydd.

52A phan glybu gwâs Abraham eu geiriau hwynt, yna efe a ymgrymmodd hyd lawr i’r Arglwydd.

53A thynnodd y gwas allan dlŷsau arian, a thlysau aur, a gwiscoedd, ac ai rhoddodd i Rebecca, rhoddodd hefyd gwerthfawr iw brawd hi, ac iw mam.

54Yna y bwyttasant, ac yr yfasant, efe, a’r dynnion y rhai gyd ag ef, ac a letteuasant, a chodasant yn foreu, ac efe a ddywedodd gollyngwch fi at fy meistr.

55Yna y dywedodd ei brawd, ai mam, triged y llangces gyd a ni ddeng-nhiwrnod o’r lleiaf, wedi hynny hi a gaiff fyned.

56Yntef a ddywedodd wrthynt, na rwystrwch fi gan i’r Arglwydd lwyddo fy nhaith, gollyngwch fi, fel yr elwyf at y meistr.

57Yna y dywedasant, galwnn ar y llangces, a gofynnwn iddi hi.

58Felly y galwasant ar Rebecca, a dywedasant wrthi: a ei di gyd a’r gŵr hwn? a hi a ddywedodd af.

59Yna y gollyngasant Rebecca ei chwaer, ai mammaeth, a gwâs Abraham, ai ddynion:

60Ac a fendithiasant Rebecca, ac a ddywedasant wrthi: ein chwaer, bydd di fîl fyrddiwn: ac etifedded dy hâd borth ei gaseion.

61Yna y cododd Rebecca ai llangcessau, ac a farchogasant ar gamelod, ac a aethant ar ôl y gŵr, a’r gwâs a gymmerodd Rebecca, ac a aeth ymmaith.

62Ac Isaac oedd yn dyfod o ffordd Gene.16.14. gene.25.11pydew, Laharoi ac efe yn trigo yn nhîr y dehau.

63Yna y daeth Isaac allan i fyfyrio yn y maes ym mîn yr hwyr, ac a dderchafodd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele gamelod yn dyfod.

64Rebecca hefyd a dderchafodd ei llygaid, ac wele Isaac, ac hi a ddescynnodd oddi ar y camel.

65A hi a ddywedodd wrth y gwâs pwy ’r gŵr hwn sydd yn rhodio yn y maes i’n cyfarfod ni? a’r gwâs a ddywedodd fy meistr efe: a hi a gymmerth foled, ac a ymwiscodd.

66A’r gwâs a fynegodd i Isaac yr hyn oll a wnaethe efe.

67Yna Isaac ai dûg hi i mewn i babell Sara ei fam, ac efe a gymmerth Rebecca i fod yn wraig iddo, ac ai hoffôdd hi, ac Isaac a ymgyssurodd ar ol ei fam.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help