Malachi 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.Am gennadwriaeth yr Arglwydd, ac am swydd Crist.

1Wele fi yn anfon Luc.7.27.fyng-hennad, ac efe a arloesa y ffordd o’m blaen: ac yn ddisymmwth y daw’r Arglwydd yr hwn yr ydych yn ei geisio i’w Deml, ac angel y cyfammod yr hwn a ddymunwch: wele efe yn dyfod medd Arglwydd y lluoedd.

2A phwy a oddef ddydd ei ddyfodiad ef? a phwy a saif pan ymddangoso efe? canys y mae efe fel tân puradwy, ac fel sebon y golchyddion.

3Efe a eistedd purudd, a glanheudd arian, ac efe a burhâ feibion Lefi, ac ai coetha hwynt fel aur, ac fel arian: fel y bŷddont yn offrymmu i’r Arglwydd offrwm mewn cyfiawnder.

4Yna y bydd melys gan yr Arglwydd fwyd offrwm Iuda, ac Ierusalem: megis yn y dyddiau gynt, ac fel blynyddoedd y cynfyd.

5A mi a nesâf attoch chwi mewn barn, a byddaf dyst cyflym yn erbyn yr hudolion, ac yn erbyn y godineb-wŷr, ac yn erbyn yr anudon-wŷr, ac yn erbyn camattal-wŷr cyflog y cyflogedic, y weddw, a’r ymddifad, ac yn gorthrymmu y dieithr, ac heb fy ofni i medd Arglwydd y lluoedd.

6Canys myfi’r Arglwydd ni’m newidîr: am hynny ni ddifethwyd chwi meibion Iacob.

7Er dyddiau eich tadau y ciliasoch oddi wrth fy neddfau, ac ni chadwasoch Zach.1.3.dychwelwch attaf fi, a mi a ddychwelaf attoch chwitheu, medd Arglwydd y lluoedd: a chwi a ddywedwch ym-mha beth y dychwelwn?

8A yspeilia dyn Dduw? etto chwi a’m hyspeiliasoch i: a chwi a ddywedwch, ym-mha beth i’th yspeiliasom? y degwm, ac offrwm.

9Melldigedic ydych drwy felldith, canys chwi a’m hyspeiliasoch i, yr holl genhedlaeth.

10Dygwch yr holl ddegwm i’r tryssor-dŷ, fel y bydde bwyd yn fy nhŷ: a phrofwch fi’r awr hon yn hyn medd Arglwydd y lluoedd: onid agoraf i chwi ffenestri y nefoedd, a thywallt arnoch chwi fendith yn anfeidrol.

11Myfi hefyd a argyoeddaf er eich mwyn chwi’r ormes, fel na ddifwyno i chwi ffrwyth y ddaiar: a’r winwydden yn y maes ni bydd ddiffrwythlon i chwi medd Arglwydd y lluoedd

12A’r holl genhedloedd a’ch chwi yn wynfydedig, canys byddwch chwi wlâd hyfrydaidd, medd Arglwydd y lluoedd.

13Eich geiriau chwi a’m gorchfygasant medd yr Arglwydd: a chwi a ddywedwch, pa beth ydym ni yn ei ddywedyd yn dy erbyn di?

14Dywedasoch, oferedd yw gwasanaethu Duw, a pha lesiant er i ni gadw ei orchymynnion ef? ac er i ni rodio yn ostyngedig ger bron Arglwydd y lluoedd?

15Ac yr awr hon yr ydym yn galw y beilchion yn wynfydedig, a gweithred-wŷr drygioni a adailadwyd: temptiasant hefyd Dduw a gwaredwyd hwynt.

16Yna’r rhai oeddynt yn ofni’r Arglwydd a lefarasant bôb vn wrth ei gymydog: a’r Arglwydd a wrandawodd, ac a glybu, ac scrifennwyd llyfr coffadwriaeth ger ei fron ef i’r rhai oeddynt yn ofni’r Arglwydd, ac i’r rhai oeddynt yn ystyried ei enw ef.

17A byddant eiddo fi medd Arglwydd y lluoedd y dydd yn yr hwn y gwnelwyf briodoledd: arbedaf hwynt hefyd fel yr arbed gŵr ei fâb sydd yn ei wasanaethu ef.

18Yna y dychwelwch, ac y gwelwch rhwng y cyfiawn, a’r drygionus, rhwng gwasanaethudd Duw, a’r hwn ni’s gwasanaetho ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help