Ezeciel 47 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XLVII.Gweledigaeth y dyfroedd y rhai a ddaethant o’r Deml. 13 Terfynau a rhanniad y tîr.

1Ac efe a wnaeth i’m ddychwelyd i ddrws y tŷ, ac wele ddwfr yn dyfod allan oddi tann rinniog y tŷ tua’r dwyrain, o herwydd talcen y tŷ’r dwyrain: a’r dyfroedd oeddynt yn descyn oddi tann ystlys dehau’r tŷ, o du’r deau i’r allor.

2Ac efe a’m dug i ffordd porth y gogledd, ac a wnaethim amgylchu y ffordd oddi allan, hyd y porth nessaf allan y ffordd yr hon sydd yn edrych tua’r dwyrain: ac wele ddyfroedd yn tarddu o’r ystlys dehau.

3Pan aeth y gŵr (yr hwn oedd â’r llinin yn ei law) allan tua’r dehau, yno y messurodd fil o gufyddau, ac a’m tywysodd i’r dwfr, a’r dwfr hyd y fferau.

4Ac efe a fessurodd fil ac a’m tywysodd i’r dwfr, dwfr hyd y gliniau, ac a fesfurodd fil ac a’m tywysodd, a’r dyfroedd hyd y lwyni.

5Ac a fessurodd fil afon yr hon ni allwn fyneb trwyddi, canys codasse y dyfroedd yn ddyfroedd nofiadwy, yn afon yr hon nid eid trwyddi.

6Ac efe a ddywedodd wrthif, oni welaist di fab dŷn? yna i’m tywysodd, ac i’m dychwelodd hyd lann yr afon.

7A phan i’m dychwelodd, wele ar lann yr afon goed lawer iawn o bob tu.

8Ac efe a ddywedodd wrthif, y dyfroedd hyn ydynt yn myned allan tua brô y dwyrain, ac a ddescynnant ar y gwastad, ac a ânt Zach.14.8.tua’r môr, ac wedi myned i’r môr yr iecheuir y dyfroedd.

9Yna y bydd pob peth byw, yr hwn a ymlusco i’r lle oll y delo’r afonydd fyw, ac fe a fydd pyscod lawer iawn, o herwydd dyfod y dyfroedd hynn yno: canys iachus fyddāt, a phob dim lle y delo’r afon fydd byw.

10A bydd i’r pyscod-wŷr sefyll arni o En Gedi, hyd En Eglaim, fyddant yn danfa rhwydau: eu pyscod fyddant yn ôl eu rhyw fel pyscod y môr mawr, yn aml iawn.

11Ei chorsydd, ai ffosydd ni iacheuir, yn halen y rhoddir hwynt.

12Eithr ar yr afon y cyfyd ar ei glann o’r ddau tu bob prenn ymborth, ei ddalen ni syrth, ai ffrwyth ni dderfydd, yn ei bryd yr addfeda, o herwydd ei ddyfroedd ydynt yn dyfod allan o’r cyssegr: am hynny y bydd ei ffrwyth yn ymborth, ai afalau yn feddiginiaeth.

13Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, dymma y terfyn wrth yr hwn y rhennwch y tir yn etifeddiaeth i ddeuddec llwyth Gen.48.22.Israel, Ioseph a o rannau.

14Hefyd chwi ai hetifeddwch hi, yr hon a Gen.12.7.|GEN 12:7. Gen.13.15.|GEN 13:15. Gen.15.18.|GEN 15:18. Gen.26.4.|GEN 26:4. Deut.34.4.dyngais ar ei rhoddi i’ch tadau bob vn fel ei gilydd, felly y syrth y tîr hwn i chwi yn etifeddiaeth.

15Dymma derfyn y tîr o du yr gogledd, o’r môr mawr tua Hethlon, ffordd yr eir i Zedada.

16[Sef] Hamath, Berotha, Sabarim, y rhai rhwng terfyn Damascus, a therfyn Hamath, Hazar, Hatticon, y rhai ar derfyn Hauran.

17Felly y bydd terfyn o fôr Hazar, Enan, terfyn Damascus, a y gogledd tua’r gogledd, a therfyn Hamath: ac dymma du y gogledd.

18Ac ystlys y dwyrain a fesurwch chwi oddi rhwng Hauran a Damascus, a Gilead, a thîr Israel yr Iorddonen o’r terfyn hyd fôr y dwyrain: ac dymma du y dwyrain.

19A thu’r deau tu a Theman o Thamar hyd ddyfroedd cynnen Cades, afon hyd y môr mawr: ac dymma du yr deau tua Theman.

20A thu yr gorllewyn y môr mawr o’r terfyn hyd oni ddeuir ar gyfer Hamath: dymma du’r gorllewyn.

21Felly y rhennwch y tîr hwn i chwi yn ôl llwythau Israel.

22Bydded hefyd rannu o honoch y hi yn etifeddiaeth i chwi, ac i’r dieithriaid y rhai a ymdeithiant yn eich mysc chwi, y rhai a genhedlant blant yn eich plith chwi, a byddant i chwi fel vn wedi ei eni ym mysc meibion Israel: gyd â chwi y bwriant am etifeddiaeth ym mysc llwythau Israel.

23A bydded ym mha lwyth bynnac yr ymdeithio y dieithr gyd ag ef, yno y rhoddwch ei etifeddiaeth ef medd yr Arglwydd Dduw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help