Tobias 7 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VII.Priodas rhwng Tobis a Sarra.

1A Phan ddaethant i Echatane yr aethant i dŷ Ranguel: a Sarra a aeth iw cyfarfod hwynt, ac a gyfarchodd iddynt, a hwythau iddi hithe, ac hi ai dug hwynt i’r tŷ:

2Yna y dywedodd Raguel wrth Edna ei wraig, mor Debyg yw ’r gŵr ieuangc ymma i’m cefnder Tobit?

3A Raguel a ofynnodd iddynt, o ba le eich hannyw fy mrodyr: yna y dywedasant wrtho, o feibion Nephthalim, y rhai ydynt gaethion yn Ninife.

4Yna y dywedodd efe wrthynt, a adwaenoch chwi Tobit ein brawd: hwyntau a at­tebasant, adwaenom: yna y dywedodd yntef wrthynt, a ydyw efe yn iach:

5A hwynt a ddywedasant, y mae efe yn fyw, ac yn iach A Thobias a ddywedodd, fy nhad yw efe.

6Yna Raguel a neidiodd ac ai cusanodd ef, ac a ŵylodd,

7Ac ai bendithiodd gan ddywedyd wrtho, yr wyt ti yn fab i wr honest, ac i wr-da: eithr pan glybu fyned Tobit yn ddall tristau a wnaeth, a ŵylo:

8Ac Edna ei wraig, a Sarra ei serch a ŵylasant. Ac eu croesawu hwynt a wnaethant yn ewyllyscar, ac a laddasant fyharē o’r defaid ac a roddasant ger eu bronnau amryw seigiau. Yna y dywedodd Tobias wrth Raphael, fy mrawd Azarais, dywet am y pethau hynny a sonniaist am danynt ar y ffordd, fel y gallo yr peth ddyfod i benn.

9Ac yntef a ddywedodd am y chwedl wrth Raguel, a Raguel a ddywedodd wrth Tobias, bwytta ac ŷf, a gwna yn llawen,

10Gweddus ydyw i ti gael fy merch i, etto mi a ddangosâf y ti yr gwirionedd.

11Mi a roddais fy merch i saith o wŷr, a’r nos yr honn yr aethant i mewn atti, y buant feirw: eithr bydd di gyssurus a llawen: a Thobias a ddywedodd, ni fwytaf fi ddim ymma nes i chwi ddyfod ger bron, a gwneuthur penn â myfi.

12A Raguel a ddywedodd wrtho, cymmer vithe hi yn ôl y gyfraith, canys trâs wyt iddi, a hithe i tithe: ar trugarog Dduw a’ch llwyddo ym mhob daioni.

13Ac efe a alwodd Sarra ei ferch, ac hi a ddaeth at ei thad, yna efe ai cymmerth hi erbyn ei llaw ac ai rhoddes yn wraig i Tobias, gan ddywedyd: wele cymmer hi yn ôl cyfraith Moses, a dwg hi ymmaith at dy dad, ac efe ai bendithiodd hwynt:

14Ac wedi iddo alw Edna ei wraig, efe a gymmerth lyfr, ac a scrifennodd scrifen o’r am­mod, ac ai seliodd.

15Ac yna y dechreuasant fwytta.

16A Raguel a alwodd Edna ei wraig, ac a ddywedodd wrthi, fy chwaer, trefna stafell arall, a dwg hi i mewn.

17A hi a wnaeth fel y dywedodd efe, ac ai dug hi i mewn i’r stafell, a hithe a ŵylodd, ai mam a dderbynniodd ddagreu ei merch,

18Gan ddywedyd wrthi, cymmer gyssur fy merch, rhodded Arglwydd nef a daiar i ti lawenydd yn lle yr tristwch ymma: bydd lawen fy merch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help