1Dymma y gair yr hwn a ddaeth at Ieremi oddi wrth yr Arglwydd wedi i Nabuzaradan pennaeth y mil-wŷr ei ollwng ef yn rhydd o Ramah pan ddaliasid ef, ac y rhwymasid ef mewn cadwyni ym mysc holl gaeth-glud Ierusalem, ac Iuda y rhai a gaeth-gludasid i Babilon.
2A phennaeth y mil-wŷr a gymmerodd Ieremi, ac a ddywedodd wrtho ef: yr Arglwydd dy Dduw di a lefarodd y drwg ymma yn erbyn y lle hwn.
3A’r Arglwydd ai ddug i benn, ac a wnaeth megis y llefarodd, chwi a bechasoch yn erbyn yr Arglwydd, ac ni wrandawsoch ar ei lais ef: am hynny y daeth y peth hyn i chwi.
4Yn awr wele mi a’th ryddheais di heddyw o’r cadwynau y rhai am dy wddf, os da gennit ti ddyfod gyd â mi i Babilon tyret, ac myfi a fyddaf dâ wrthit, ond os drwg y gweli di ddyfod gyd â mi i Babilon paid: gwêl di yr holl dîr o’th flaen di i’r fann da, a bodlon gennit fyned, yno dos di.
5Ac yr oedd efe etto heb ddychwelyd, yna dychwel di at Gedaliah fab Ahicam, fab Saphan yr hwn a swyddodd brenin Babilon ar ddinasoedd Iuda, ac aros gyd ag ef ym mhlith y bobl, neu dos di lle y gwelech di yn dda fyned: felly pennaeth y mil-wŷr a roddodd iddo ef lynniaeth, a rhodd, ac ai gollyngodd ef ymmaith.
6Yna y daeth Ieremi at Gedaliah fab Ahicam i Mispah: ac efe a arhosodd gyd ag ef ym mysc y bobl y rhai a adawsid yn y wlâd.
7Pan glybu holl dywysogion y lluoedd, ai gwŷr hwynt y rhai oeddynt ar hŷd y wlâd, i frenin Babilon swyddo Gedaliah fab Ahicam ar y wlad, ac iddo osod ef yn llywydd ar y gwŷr, a’r gwragedd, a’r plant, a’r o dlodion y wlâd, o ba rai ni chaeth-gludasid i Babilon,
8Yna hwynt a ddaethant at Gedaliah i Mispah Ierem.41.2.Ismael mab Nathaniah, ac Iohanan, ac Ionathan meibion Careah, a Seraiah mab Thanehumeth, a meibion Ephai y Netophathiad, a Iezaniah mab Maachati, hwynt hwy ai gwŷr.
9A Gedaliah mab Ahicam fab Saphan 2.Bren.25.24.a dyngodd wrthynt hwy, ac wrth eu gwŷr gan ddywedyd, nac ofnwch chwi wasanaethu y Caldeaid: trigwch yn y wlâd, a gwasanaethwch frenin Babilon, felly y bydd daioni i chwi.
10Am danaf finne, wele fi yn aros ym Mispah i wasanaethu y Caldeaid y rhai a ddeuant attom ni: am hynny y cesclwch chwi wîn, a hâf, ac olew, a gosodwch yn eich llestri, a thrigwch yn eich dinasoedd y rhai yr ydych yn eu meddiannu.
11A phan glybu yr holl Iddewon y rhai ym Moab, ac ym mysc meibion Ammō, ac yn Edom, ac yn yr holl wledydd, i frenin Babilon adel gweddill o Iuda, a gosod Gedaliah fab Ahicam fab Saphan yn llywydd arnynt hwy:
12Yna yr holl Iddewon a ddychwelasant, o’r holl leoedd lle y gyrrasid hwynt, ac a ddaethant i wlâd Iuda at Gedaliah i Mispah: a hwynt a gasclasant wîn, a hâf lawer iawn.
13Iohanan hefyd mab Careah a holl dywysogion y lluoedd y rhai ar hŷd y wlâd a ddaethant at Gedaliah i Mispah,
14Ac a ddywedasant wrtho ef, oni ŵyddost ti yn hyspus i Baalis brenin meibion Ammon anfon Ismael fab Nathaniah i’th ladd di? ond ni chredodd Gedaliah mab Ahicam iddynt hwy.
15Yna Iohanan mab Careah a ddywedodd wrth Gedaliah ym Mispah, yn gyfrinachol gan ddywedyd: gat ti i mi fyned atolwg, ac mi a laddaf Ismael fab Nathaniah, fel na chaffo neb ŵybod: pa ham y lladde efe di fel y gwascerid yr holl Iddewon y rhai a ymgasclasant attat ti, ac y darfydde am weddill Iuda?
16Gedaliah mab Ahicam a ddywedodd wrth Iohanan fab Careah, na wna di y peth hyn, canys celwydd yr ydwyt ti yn ei ddywedyd am Ismael.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.