1Wedi y pethau hyn, pan lonyddodd digllonedd y brenin Ahasferus, efe a gofiodd am Fasthi, ac am yr hyn a wnelse hi, ac am yr hyn a farnasid arni.
2Am hynny llangciau y brenin ei wenidogion ef a ddywedasant: ceisier i’r brenin langcesau têg yr olwg weryfon,
3A gosoded y brenin swyddogion drwy holl dalaithau ei frenhiniaeth ef, a chasclant hwythau bôb llangces dêg yr olwg, weryf, i Susan y brenhin-lys i dŷ y gwragedd, tann law Hege stafelludd y brenin, ceidwad y gwragedd: yr hwn a ddyru iddynt eu gwychter.
4A’r llangces yr hon fyddo dâ yng-olwg y brenin a deyrnasa yn lle Fasthi: a dâ oedd y peth hyn yng-olwg y brenin, ac felly y gwnaeth efe.
5Yn Susan y brenhin-lys yr oedd rhyw Iddew, ai enw Mordoceus mab Iair, fab Simei, fab Cis, gŵr o Iemini,
6Yr hwn a drosgludasid o Ierusalem gyd a’r gaeth-glud 2 Bren.24.15.yr hon a gaeth-gludasid gyd ag Ieconiah brenin Iuda: yr hon a barase Nabuchodonosor brenin Babilon ei chaeth-gludo.
7Ac efe a fagase Hadassa honno Esther, merch ei ewythr ef frawd ei dad, canys nid iddi dad, na mam: a’r llangces weddaidd-lwys, a chlaer-deg golwg, a phan fuase ei thad, ai mam hi farw, Mordoceus ai cymmerase hi yn ferch iddo.
8A phan gyhoeddwyd gair y brenin, ai gyfraith, pan gasclasid hefyd langcesau lawer i Susan y brenhin-lys tann law Hegai: yna y cymmerwyd Esther i dŷ y brenin tann law Hegai cediwad y gwragedd.
9A’r llangces oedd dêg yn ei olwg ef, ac hi a gafodd ffafor ganddo ef, am hynny efe ar frys a barodd rhoddi iddi ei gwychter, ai rhannau, a rhoddi iddi saith o langcesau golygus o dy’r brenin: ac efe ai symmudodd hi, ai llang-cesau i’r oref nhŷ y gwragedd.
10[Ond ni fynê godd Esther ei phobl, nai chenedl: canys Hordoceus a orchymynnase iddi nad yngêne
11A Mordoceus a rodiodd beunydd o flaen cyntedd tŷ’r gwragedd, i ŵybod llwyddiant Esther, a pheth a wnelyd iddi.
12A phan ddigwydde amser pob llangces i fyned i mewn at y brenin Ahasferus wedi bod iddi hi yn ôl defod y gwragedd ddeuddengmis, canys felly y cyflawnyd dyddiau eu puredigaethau hwynt: chwe mîs mewn olew myrh, a chwe mis mewn pêr-aroglau, a gwychter y gwragedd.
13Ac fel hyn y deue y llangces at y brenin: pa beth bynnac a ddywede hi a roddid iddi, i fyned gyd a hi o dŷ’r gwragedd hyd dŷ’r brenin.
14Gyd a’r hwyr hi a ddeue i mewn, a’r borau hi a ddychwele i dŷ arall y gwragedd tann law Saasagaz stafelludd y brenin ceidwas y gordderchadon: ni ddeue hi i mewn at y brenin mwyach, ond os chwennyche’r brenin hi, yna y gelwid hi wrth henw.
15Pan ddigwyddodd amser Esther (merch Abihail ewythr Mordoceus yr hon a gymmerase efe yn ferch iddo) i fyned i mewn at y brenin, ni cheisiodd hi ddim ond yr hyn a ddywedase Heg ai stafelludd y brenin ceidwad y gwragedd: ac Esther oedd yn cael ffafor yng-olwg pawb a’r a oedd yn edrych arni.
16Felly Esther a gymmerwyd at y brenin Ahasterus iw frenhin-dŷ ef yn y decfed mîs hwnnw mîs Tebeth: yn y seithfed flwyddyn oi deyrnasiad ef.
17A’r brenin a hoffodd Esther rhagor yr holl wragedd, a hi a gaffodd ffafor, a thrugaredd yn ei ŵydd ef rhagor yr holl weryfon: ac efe a osododd deyrn-goron ar ei phen hi, ac ai gwnaeth yn frenhines yn lle Fasthi.
18Yna y gwnaeth y brenin wledd fawr iw holl dywysogion, ai weision, sef gwledd Esther: ac efe wnaeth rydd-did i’r talaithau, ac a roddodd rannau yn ôl gallu y brenin.
19Pan gasclwyd y gweryfon yr ail waith: yna Mordoceus oedd yn eistedd ym mhorth y brenin,
20Nid oedd Esther yn mynegu ei chenedl, nai phobl, megis y gorchymynnase Mordoceus iddi: canys Esther oedd yn gwneuthur yr hyn a ddywede Mordoceus fel oedd hi yn ei meithrino gyd ag ef.
21Yn y dyddiau hynny pan oedd Mordoceus yn eistedd ym mhorth y brenin: yna y llidiodd Bigthan, a Theres dau o stafellyddion y brenin, o’r rhai oeddynt yn cadw y trothwy, a cheisiasant estyn llaw yn erbyn y brenin Ahasferus.
22A’r peth a hyspysswyd i Mordoceus, ac efe ai mynegodd i Esther y frēhines: ac Esther ai dywedodd wrth y brenin yn enw Mordoceus.
23A phan chwiliwyd y peth, yna efe a gafwyd am hynny y crogwyd hwynt ill dau ar bren: ac scrifennwyd mewn llyfr Cronicl ger bron y brenin.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.