2.Samuel 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.1 Un yn dwyn newydd i Ddafyd o farwolaeth Saul. 14 Gwobr yr hwn ai dûg. 17 Galar-nad Dafydd am Saul, ac Ionathan.

1Ac yn ôl marwolaeth Saul pan ddychwelase Dafydd 1.Sam.30.17.o ladd yr Amaleciaid: wedi aros o Ddafydd ddeu-ddydd yn Siclag,

2Yna y trydydd dydd wele ŵr yn dyfod o’r gwerssyll oddi wrth Saul, ai ddillad wedi eu rhwygo, a phridd ar ei benn: a phan ddaeth efe at Ddafydd, yna efe a syrthiodd i lawr, ac a ymgrymmodd.

3A Dafydd a ddywedodd wrtho ef, o ba le y daethost di? yntef a ddywedodd wrtho ef, o werssyll Israel y diengais i.

4Yna y dywedodd Dafydd wrtho ef, beth yw’r matter mynega attolwg i mi? yntef a ddywedodd, y bobl a ffoawdd o’r rhyfel, a llawer hefyd o’r bobl a syrthiodd, ac a fuant feirw: Saul hefyd ac Ionathan ei fab a fuant feirw.

5A Dafydd a ddywedodd wrth y llangc yr hwn oedd yn mynegu iddo ef: pa fodd y gwyddost di farw Saul, ar Ionathan ei fab?

6Yna’r llangc yr hwn oedd yn mynegu iddo ef a ddywedodd, digwyddodd i mi ddyfod i fynydd Gilboa, ac wele Saul oedd yn pwyso ar ei waiw-ffon: wele hefyd y cerbydau a’r marchogion yn ei erlid ef.

7Ac efe a edrychodd oi ôl, ac am canfu i: ac a alwodd arnafi, minne a ddywedais wele fi.

8Dywedodd yntef wrthifi, pwy ti? minne a ddywedais wrtho ef, Amaleciad fi.

9Yna y dywedodd efe wrthifi, saf attolwg arnaf a lladd fi, cays dychryn a’m daliodd i, o herwydd fy holl enaid ynofi etto.

10Felly mi a sefais arno ef, ac ai lleddais ef, canys gwybum na bydde efe byw ar ôl ei gwymp: a chymmerais y goron yr hon ar ei benn ef, a’r fraichled yr hon am ei fraich ef, ac ai dugum hwynt ymma at fy arglwydd.

11Yna Dafydd a ymaflodd yn ei ddillad, ac Pen.3.31.|2SA 3:31 & 13.31.ai rhwygodd hwynt: a’r holl wŷr hefyd y rhai gyd ag ef.

12Galarasant hefyd, ac ŵylasant, ac ymprydiasant hyd yr hwyr am Saul, ac am Ionathan ei fab, ac am bobl yr Arglwydd, ac am dŷ Israel, o herwydd iddynt syrthio trwy gleddyf.

13A Dafydd a ddywedodd wrth y llangc yr hwn oedd yn mynegu iddo ef, o ba le i’th di? yntef a ddywedodd mab i ŵr dieithr o Amaleciad ydwyfi.

14Yna y dywedodd Dafydd wrtho ef: Psal.105.15.pa fodd nad ofnaist di estyn dy law i ddifetha eneiniog yr Arglwydd?

15A Dafydd a alwodd ar vn o’r gweision, ac a ddywedodd, nessâ, rhuthra iddo ef: ac efe ai tarawodd ef, fel y bu efe farw.

16Yna y dywedodd Dafydd wrtho ef, dy waed ti ar dy benn dy hun: canys dy enau dy hun a destiolaethodd yn dy erbyn gan ddywedyd: myfi a leddais eneiniog yr Arglwydd.

17A Dafydd a alar-nadodd yr alar-nad hon am Saul, ac am Ionathan ei fab ef.

18Dywedodd hefyd am ddyscu meibion Iuda a bŵa: wele y mae yn scrifennedic Iosua 10.13.yn llyfr yr iniawn.

19Oh ardderchawgrwydd Israel, efe a archollwyd ar dy vchelfaoedd di: pa fodd y cwympodd y cedyrn?

20Nac Mic.1.10.adroddwch yn Gath, na fynegwch yn heolydd Ascelon: rhac llawenychu merched y Philistiaid, rhac gorfoleddu o ferched y rhai dienwaededic.

21Oh fynyddoedd Gilboa, na arnoch chwi wlith na glaw, na meusydd o offrymmau: canys yno y syrthiodd tarian y cedyrn, tarian Saul, fel pe buase heb ei eneinio ag olew.

22Oddi wrth waed lladdedigion, oddi wrth frasder cedyrn ni phlygodd bŵa Ionathan yn ôl: a chleddyf Saul ni ddychwelodd yn wâg.

23Saul ac Ionathan gariadol ac annwyl yn eu bywyd, ac yn eu marwolaeth ni wahanwyd hwynt: cynt oeddynt na’r erŷrod, chryfach oeddynt na’r llewod.

24Merched Israel ŵylwch am Saul: yr hwn oedd yn eich dilladu chwi ag scarlat gyd ag hyfrydwch, yr hwn oedd yn gwisco addurnwisc aur ar eich gwisc chwi.

25Pa fodd y cwympodd y cedyrn yng-hanol y rhyfel? Ionathan a laddwyd ar dy vchelfaoedd.

26Gofid arnafi am danati fy mrawd Ionathan, cû iawn fuost gennyfi: rhyfeddach oedd dy gariad tua ag attafi na chariad gwragedd.

27Pa fodd y syrthiodd y cedyrn, ac y difethwyd arfau rhyfel?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help