2.Samuel 23 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXIII.Geiriau diweddaf Dafydd. 8 Henwau, a chyflafan cedyrn Dafydd.

1Dymma eiriau diweddaf Dafydd: dywedodd Dafydd mab Isai, a dywedodd y gŵr yr hwn a osodwyd yn vchel, eneiniog Duw Iacob, a pheraidd yng-haniadau Israel.

2Yspryd yr Arglwydd a lefarodd ynofi: ai ymadrodd ef ar fy nhafod.

3Duw Israel a ddywedodd wrthifi, craig Israel a ddywedodd: lywodraethwr ar ddynion yn gyfiawn yn llywodraethu ofn Duw:

4Ac fel boreuol oleuni pan gyfodo haul foreucwaith heb gwmylau, ac nid fel eginin yr hwn a dyf o’r ddaiar drwy lewyrchiad, a glaw.

5Canys nid felly y fy nhŷ i gyd a Duw: o herwydd cyfammod tragywyddol a osododd efe i mi, wedi ei luniaethu yn hollawl, ac yn gadwedig, canys fy holl iechydwriaeth, a’m holl ddymuniad na wnaiff efe flaguro

6A’r rhai anwir fyddant oll fel drain symudedic: canys mewn llaw nis cymmerir hwynt.

7Ond y gŵr a gyffwrdd a hwynt a gynnorthwyir a haiarn, ac a phaladr gwaiffon: ac a thân y lloscir hwynt yn trig-le.

8Dymma enwau y cedyrn y rhai gan Ddafydd: yr hwn a eistedde yng-hader doethineb, yn bennaeth y tywysogion oedd Adino yr Esinad, yn erbyn wyth-gant o rhai archolledig ar vnwaith.

9Ac ar ei ôl ef Eleazar mab Dodo, 1.Cron.11.12.fab Ahohi, ym mhlith y tri cedyrn gyd a Dafydd, pan ddifenwasant hwy y Philistiaid a ymgynnullasant yno i ryfel, pan aeth gwyr Israel i fynu.

10Efe a gyfododd, ac a darawodd ar y Philistiaid nes deffygio ei law ef, a glynu oi law ef ŵrth y cleddyf, a’r Arglwydd a wnaeth iechydwriaeth mawr y diwrnod hwnnw: a’r bobl a ddychwelasant ar ei ôl ef yn vnic i anrheithio.

11Ac ar ei ôl ef 1.Cron.11.27.Samma mab Age yr Harariad: a’r Philistiaid a ymgynnullasant yn dorf, ac yr oedd yno rann o’r maes yn llawn o ffacbys; a’r bobl a ffoawdd o flaen y Philistiaid.

12Ond efe a safodd yng-hanol y rhandir, ac ai hachubodd, ac efe a darawodd y Philistiaid: felly y gwnaeth yr Arglwydd ymwared mawr.

13A thri o’r dêg pennaeth ar hugain a ddescynnasant, 1.Cron.11.15.ac a ddaethant y cynhaiaf at Ddafydd i ogof Adulam: a thorf y Philistiaid oedd yn gwerssyllu yn nyffryn y cawri.

14A Dafydd yna mewn amddeffynfa: a sefyllfa y Philistiaid yna yn Bethlehem.

15Yna y blyssiodd Dafydd, ac y dywedodd: pwy a’m didda i a dwfr o bydew Bethlehem, yr hwn yn y porth?

16Yna yr tri chedyrn a ruthrasant i werssyll y Philistiaid, ac a dynnasant ddwfr o bydew Bethlehem yr hwn yn y porth ac a gymmerasant hefyd, ac a ddugasant at Ddafydd: ond ni fynne efe ei yfed ef, eithr efe ai diod-offrymmodd ef i’r Arglwydd,

17Ac a ddywedodd, na atto yr Arglwydd i mi wneuthur hyn, a waed y gwyr a aethant mewn am eu henioes? 1.Cron.11.19.am hynny ni fynne efe ei yfed: hyn a wnaeth y tri chedyrn hynny.

18Ac 1.Cron.11.21.Abisai brawd Ioab, mab Serfia oedd bennaf o’r tri, ac efe a escydwodd ei waiwffō ar dry-chant lladdodd ac iddo ef enw ym mhlith y tri.

19Onid anrhydeddusach na’r tri hyn? a bu iddynt yn dywysog: etto ni chyrrheddodd efe y tri

20A Banaia mab Iehoiada, mab gŵr grymmus o Cabzel, aml o weithredoedd: efe a laddodd ddau o gedyrn Moab, ac efe aeth i wared, ac a laddodd ryw lew o fewn y pydew yn amser yr eira.

21Ac efe a darawodd Aipht-ddyn, gŵr golygus ac yn llaw yr Aiphtiad gwaiw-ffon, eithr efe a ddaeth i wared atto ef a gwialen: ac a gippiodd y waiw-ffon o law yr Aiphtiad, ac ai lladdodd ef, ai waiw-ffon ei hun.

22Hyn a wnaeth Banaia mab Iehoiada: ac iddo enw ym mhlith y tri cedyrn.

23Anrhydeddusach na’r dêc ar hugain, ond ni chyrheddodd efe y tri etto Dafydd ai gosododd ef yn ei gyngor.

24 Pen.2.18. Asahel brawd Ioab o’r dêc ar hugain: Elhanan mab Dodo y Bethlehemiad.

25 1.Cron.11.27. Samma’r Harodiad, Elica yr Harodiad

26Helez 1.Cron.11.27.y Paltiad, Ira mab Icces y Theociad.

27Abieser yr Anatothiad, Mebunnai yr Husathiad,

28Salomon yr Ahohiad, Mahari y Netophathiad.

29 1.Cron.11.30. Heleb mab Baana y Netophathiad: Ithai mab Ribai o Gibea meibion Beniamin.

30Benaia y Pirathoniad, 1.Cron.11.32.Hidai o afonydd Gaas.

31 1.Cron.11.32,33. Abi-albon yr Arbathiad, Azmafeth * y Barhumiad.

32Elihaba y Saalboniad, o feibion Iasen Ionathan.

33Samma yr Harariad, Ahiam mab Sarar yr Arariad.

34Eliphelet mab Ahasbai, mab Maachathi: Eliam mab Ahitophel y Giloniad.

35Hesrai y Carmeliad, Paarai, yr Arbiad.

36Igal mab Nathan o Zobah, Bani y Gadiad.

37Selec yr Ammoniad: Nahari y Beerothiad yn dwyn arfau Ioab mab Serfia.

38Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad.

39Vrias yr Hethiad, dau ar bymthec, ar hugain oll.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help