1Pa ham na chuddid yr amseroedd gan yr Holl-alluog? fel nas rhac-wele y rhai ydynt yn ei adnabod ef ei ddyddiau ef?
2Y mae yn symmudo cerfynau: yn sclyfaethu defaid, ac yn ymborthi
3Y maent yn gyrru assynnod yr ymddifad ymmaith: maent hwy yn cymmeryd ych y wraig weddw ar wystl.
4Maent hwy yn gwneuthur i’r anghenog droi allan o’r ffordd: tlodion y ddaiar a gyd-lechasant
5Wele y maent assynnod gwylltion yn yr anialwch, yn myned allan iw gwaith gan geisio sclyfaeth yn foreu: y diffaethwch iddynt fwyd, iw plant.
6Medant y maes yr hwn nid yw eiddynt: a gwin-llan yr annuwiol a gasclant hwy yn ddiweddar.
7Gwnant tlawd leteu yn noeth heb ddillad: ac heb wisc mewn oerni.
8Gwlychant gan lifeiriant mynyddoedd: ac o eisieu diddosrwydd cofleidiant graig.
9Tynnant yr ymddifad oddi wrth y fron: cymmerant wystl gan y tlawd.
10Gwnaethant fyned yn noeth heb ddillad: a dygasant ddyrneidiau y rhai newynog.
11Y rhai sy yn gwneuthur olew rhwng eu parwydydd: sy yn sathru y cafnau gwîn ydynt yn sychedic.
12Y mae gwŷr yn griddfan o’r dref: ac y mae eneidiau y rhai lladdedic yn gweiddi, ac ni esid Duw ddial.
13Y rhai hynny sy ym mhlith y rhai ydynt yn gwrthwynebu goleuni, nid ydynt hwy yn adnabod ei ffyrdd ef: nid ydynt yn aros yn ei lwybrau ef.
14Gyd a’r goleuad y cyfyd y lleiddiad, ac y lladd efe y tlawd, a’r anghenog: a’r nôs y bydd efe fel lleidr.
15A llygad y godineb-wr sydd yn gwilied y cyfnos gan ddywedyd, ni chaiff llygad fyngweled: ac efe a esyd hûg ar ei wyneb.
16Y maent hwy yn cloddio trwy dai mewn tywyllwch: a nodasant iddynt eu hunain liw dydd, nid adwaenent hwy oleuni.
17Canys cyscod marwolaethy borau iddynt hwy eu gyd: dychryn cyscod marwolaeth os gwybydd
18Yscafn ydyw ar wyneb y dyfroedd, melltigedic ydyw eu rhan-dir hwy ar y ddaiar: ni thry efe ei wyneb ffordd y gwin-wŷdd.
19Fel y mae sychdwr, a gwres yn cippio dyfroedd eira: y bedd a bechasant.
20Y tosturiol ai gollwng ef dros gof, melus gan y pryf ef, ni chofiir ef mwy: felly y dryllir anwiredd fel pren.
21Y mae efe yn dryllio yr amhlantadwy ni phlanta: ac nid ydyw efe yn gwneuthur daioni i’r wraig weddw.
22Ar y mae efe yn tynnu rhai cedyrn wrth ei nerth: gododd efe nid oedd ddiogel oi enioes.
23Er rhoddi iddo fod mewn diofalwch: etto ei lygaid ef ar eu ffyrdd hwy.
24Hwyntwy a dderchafwyd ychydig, ac a ddarfuant hefyd, hwynt a ostyngwyd, ac a escydwyd i lawr fel pawb ac a dorrwyd ymmaith fel pen twysen.
25Ac onid yn awr, pwy a’m gwnaiff i yn gelwyddoc? ac a esyd fy ymadrodd yn ddiddym?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
