1Yna Abimelech mab Ierubbaal a aeth i Sichem, at frodyr ei fam: ac a ymddanodd a hwynt, ac a holl dylwyth tŷ tâd ei fam, gan ddywedyd,
2Dywedwch attolwg lle y clywo holl arglwyddi Sichein, pa vn oref gennych ai arglwyddiaethu arnoch o ddeng-wr a thrugain, oll yn feibion Ierubbaal, ai arglwyddiaethu o vn gŵr arnoch? cofiwch gan hynny mai eich ascwrn, a’ch cnawd ydwyfi.
3Yna brodyr ei fam o ddywedasant oi blegit ef lle y clybu holl arglwyddi Sichem yr holl eiriau hynny: ai calon hwynt a drôdd ar ôl Abimelech, canys dywedasant ein brawd ni efe.
4A rhoddasant iddo ddec a thrugain arian o dŷ Baal-berith: ac Abimelech a gyflogodd a hwynt ofer-wŷr gwammal, y rhai aethant ar ei ôl ef.
5Felly efe a ddaeth i dŷ ei dad i Ephra, ac a laddodd ei frodyr meibion Ierubaal ddeng-wr a thrugain ar vn garrec: ond Iotham mab ieuangaf Ierubbaal a adawyd, canys efe a ymguddiase.
6Yna holl arglwyddi Sichem, a holl dŷ Milo a ymgasclasant, ac a aethant, ac a vrddasant Abimelech yn frenin yn nyffryn Iosua.24.26.y piler yr hwn yn Sichem.
7Pan fynegasant i Iotham, yna efe a aeth, ac a safodd ar benn mynydd Garizim, ac a dderchafodd ei lêf, ac a waeddodd: dywedodd hefyd wrthynt, gwrandewch arnafi ô arglwyddi Sichem, fel y gwrandawo Duw arnoch chwithau.
8Y coed gan fyned a aethant i eneinio brenin arnynt: a dywedasant wrth yr oli-wydden teyrnasa arnom ni.
9Ond yr oliwydden a ddywedodd wrthynt a beidiafi a’m braster a’r hwn drwofi’r anrhydeddant Dduw, a dynion? ac a âfi i lywodraethu ar y prennau
10Yna y coed a ddywedasant wrth y ffigusbren: tyret ti, teyrnasa arnom ni.
11Ond y ffigus-bren a ddywedodd wrthynt a beidiafi a’m melysdra, ac a’m ffrwyth goref? ac a âfi i lywodraethu ar y prennau
12Yna y coed a ddywedasant wrth y wînwydden: tyret ti, teyrnasa arnom ni.
13Ond y win-wydden a ddywedodd wrthynt hwy, a beidiafi a’m melys-win yr hwn sydd yn llawenhau Duw, a dynion? ac a âfi i lywodraethu ar y prennau
14Yna’r holl goed a ddywedasant wrth y fieren: tyret ti, teyrnasa arnom.
15A’r fieren a ddywedodd wrth y prennau os mewn gwirionedd yr eneiniwch chwi fi yn frenin arnoch, deuwch ac ymddyriedwch yn fyng-hyscod i: ac onid ê, fe aiff tân allan o’r fieren, ac a yssa cedr-wydd Libanus.
16Felly yn awr os mewn gwirionedd, a pherffeithrwydd y gwnaethoch, ac y gosodasoch Abimelech yn frenin: ac os gwnaethoch yn dda ag Ierubbaal, ac ai dŷ ef, ac os yn ôl haeddedigaeth ei ddwylaw ef y gwnaethoch iddo (bernwch eich hun: )
17Canys fy nhâd a ymladdodd drosoch chwi, ac a anturiodd ei enioes ym mhell, ac a’ch gwaredodd chwi o law y Madianiaid.
18A chwithau a gyfodasoch yn erbyn tŷ fy nhâd i heddyw, ac a laddasoch ei feibion ef ddeng-wr a thrugain ar vn garrec: ac a osodasoch Abimelech (mab ei lawforwyn ef) yn frenin ar arglwyddi Sichem o herwydd efe yn frawd i chwi.
19 Gan hynny os mewn gwirionedd, ac mewn perffeithrwydd y gwnaethoch ag Ierubbaal, ac ai dŷ ef y dydd hwn: llawenychwch gyd ag Abimelech, a llawenyched yntef gyd a chwithau.
20Ac onid ê, aed tân allan o Abimelech, ac yssed arglwyddi Sichem, a thŷ Milo: hefyd eled tân allan o arglwyddi Sichem, ac o dŷ Milo, ac yssed Abimelech.
21Yna Iotham a giliodd, ac a ffôdd, ac a aeth ymmaith, i Beera: ac a drigodd yno rhac ofn Abimelech ei frawd.
22Felly Abimelech a deyrnasodd ar Israeldair blynedd.
23Ond Duw a anfonodd yspryd drwg rhwng Abimelech, ac arglwyddi Sichem: ac arglwyddi Sichem a anghywirasant ag Abimelech,
24Fel y dele y traha dengmab a thrugain Ierubbaal: ac fel y gosodid eu gwaed hwynt ar Abimelech eu brawd yr hwn ai lladdodd hwynt, ac ar arglwyddi Sichem y rhai ai cynnorthwyasant ef i ladd ei frodyr.
25Felly arglwyddi Sichem a osodasant iddo ef fradwriaeth ar hennau y mynyddoedd, ac yspeiliasant bawb a’r a oedd yn trammwy heibio iddynt ar hyd y ffordd: a mynegwyd i Abimelech.
26Yna Gaal mab Ebed a ddaeth efe ai frodyr, ac a drammwyasant i Sichem: ac arglwyddi Sichem a ymddyriedasant ynddo ef.
27Am hynny’r aethant i’r maes, ac a gasclasant rawn-win eu gwîn-llānoedd, ac ai sangasant, a gwnaethant yn llawen: a daethant i mewn i dŷ eu duw, bwyttawsant hefyd, ac yfasant, a melldithiasant Abimelech.
28Yna Gaal mab Ebed a ddywedodd, pwy Abimelech? a phwy Sichem fel y gwasanaethem ef? onid mab Ierubbaal ond Zebul ei swyddog? gwasanaethwch wŷr Hemor tad Sichem, canys paham y gwasanaethwn ni ef?
29O na bydde’r bobl hyn tann fy llaw i, fel y bwriwn ymmaith Abimelech: ac efe a ddywedodd wrth Abimelech amlhâ dy lû a thyret allā.
30Pan glybu Zebul tywysog y ddinas eiriau Gaal mab Ebed: yna y llidiodd ei ddigllonedd ef.
31Ac efe a anfonodd gennadau at Abimelech yn ddirgel gan ddywedyd: wele Gaal mab Ebed ai frodyr yn dyfod i Sichem, ac wele hwynt yn gwarche y ddinas i’th erbyn.
32Gan hynny cyfot yn awr liw nôs a’r bobl y rhai gyd athi, a chynllwyn yn y maes.
33A chyfot yn foreu yng-hylch codiad yr haul, a rhuthra yn erbyn y ddinas: ac wele ddelo efe a’r bobl y rhai gyd ag ef allan i’th erbyn, yna gwna iddo’r hyn a ellech.
34Felly Abimelech a gyfododd, a’r holl bobl y rhai gyd ag ef liw nôs: ac a gynllwynasant yn erbyn Sichem yn bedair byddin.
35Yna Gaal mab Ebed a aeth allan, ac a safodd ddrws porth y ddinas: ac Abimelech a gyfododd, a’r bobl y rhai gyd ag ef o’r cynllwyn.
36Pan welodd Gaal y bobl, yna efe a ddywedodd wrth Zebul, wele bobl yn dyfod i wared o bennau’r mynyddoedd: a dywedodd Zebul wrtho ef; cyscod y mynyddoedd yr ydwyt ti’n ei weled fel dynion.
37A Gaal a chwanegodd etto lefaru, ac a ddywedodd: wele bobl yn dyfod i wared o ganol y tîr, ac vn fyddin yn dyfod o ffordd gwastadedd Meonenim.
38Yna y dywedodd Zebul wrtho ef, pa le yn awr dy enau di’r hwn y dywedaist, pwy Abimelech pan wasanaethem ef? ond dymma y bobl y rhai a ddirmygaist di? dos allan attolwg yn awr, ac ymladd iw herbyn.
39Yna Gaal a aeth allan o flaen arglwyddi Sichem: ac a ymladdodd yn erbyn Abimelech.
40Ond Abimelech ai herlidiodd ef, ac efe a ffôdd oi flaen ef: a llawer a gwympasant yn archolledic hyd ddrws y porth.
41Ac Abimelech a drigodd yn Arumah: a Zebul a yrrodd ymmaith Gaal ai frodyr o bresswylio yn Sichem.
42A thrannoeth y daeth y bobl allan i’r maes: a mynegwyd i Abimelech.
43Ac efe a gymmerth y bobl, ac ai rhannodd yn dair byddin, ac a gynllwynodd yn y maes: ac efe a edrychodd, ac wele y bobl yn dyfod allan o’r ddinas, ac efe a gyfododd yn eu herbyn, ac ai tarawodd hwynt.
44Ac Abimelech, a’r byddinoedd y rhai gyd ag ef a ruthrasant, ac a safasant wrth ddrws porth y ddinas: a’r ddwy fyddin a ruthrasant ar yr holl rai a yn y maes, ac ai tarawsant hwy.
45Pan ymladdodd Abimelech yn erbyn y ddinas yr holl ddiwrnod hwnnw, yna efe a enillodd y ddinas, ac a laddodd y bobl y rhai ynddi: ac a ddestruwiodd y ddinas, ac ai hauodd a halen.
46Pan glybu holl arglwyddi tŵr Sichem yna y daethant i amddeffynfa tŷ duw Berith.
47A mynegwyd i Abimelech, ymgasclu o holl arglwyddi tŵr Sichem.
48Yna Abimelech a aeth i fynu i fynydd Zalmon, efe a’r holl bobl y rhai gyd ag ef, ac Abimelech a gymmerth fwyeill yn ei law, ac a dorrodd gangen o brenn, ac ai dûg hi, ac ai gosododd ar ei ycswydd: ac a ddywedodd wrth y bobl y rhai gyd ag ef, gwelsoch beth a wneuthum, bryssiwch gwnewch fel finne.
49Yna’r holl bobl a dorrasant bob vn ei gangen, ac a aethant ar ôl Abimelech, ac ai gosodasant wrth yr amddeffynfa, ac a loscasant a hwynt yr amddeffynfa a thân: felly holl arglwyddi tŵr Sichem a fuant feirw, yng-hylch mil o wŷr a gwragedd.
50Yna Abimelech a aeth i Thebez: ac a werssyllodd yn erbyn Thebez, ac ai hennillodd hi.
51Ac yr oedd tŵr cadarn yng-hanol y ddinas a’r holl wŷr a’r gwragedd, a holl arglwyddi y ddinas a ffoasant yno, ac a gaeuasant arnynt: ac a ddringasant ar nenn y tŵr.
52Ac Abimelech a ddaeth at y tŵr, ac a ymladdod yn ei erbyn: ac a nesaodd at ddrws y tŵr iw losci ef a thân.
53Yna rhyw wraig 2.Sam.11.21.a daflodd ddarn o faen melin ar benn Abimelech: ac a ddrylliodd ei benglog ef.
54Am hynny efe a alwodd yn fuan ar y llangc yr hwn oedd yn dwyn ei arfau ef, ac a ddywedodd wrtho, tynn dy gleddyf a lladd fi, fel na ddywedant am danaf gwraig ai lladdodd ef: yna’r llangc ai trywanodd ef fel y bu efe farw.
55Pan welodd gwŷr Israel farw o Abimelech, yna hwynt a aethant bob vn iw fangre.
56Felly y talodd Duw ddrygioni Abimelech yr hwn a wnelse efe iw dâd gan ladd ei ddêc brawd a thrugain.
57A holl ddrygioni gwŷr Sichem a dalodd Duw ar eu penn hwynt: a melldith Iotham mab Ierubbaal a ddaeth arnynt hwy.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.