Gweledigaeth Ioan 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.1 Gweledigaeth mawredd Duw yn ymddangos ar orseddfaingc lle y gwele Ioan vn yn eistedd, 8 A phedair ar hugain o orseddfeudd oi amgylch, a phedwar ar hugain o enafgwyr yn eistedd arnynt, a phedwar anifail yn moli Duw ddydd a nôs.

1 Gwedi hyn mi a edrychais, ac wele yr ydoedd drŵs yn agored yn y nef, a’r llais cyntaf a glywais oedd fel llais vdcorn yn chwedleua â mi, gan ddywedyd, dring i fynu ymma, a mi a ddangosaf i ti y pethau a orfydd eu gwneuthur wedi hyn.

2Ac yn y man yr oeddwn yn yr yspryd, ac wele fe a roddwyd gorsedd-faingc yn y nef, ac eisteddodd vn ar yr orsedd-faingc.

3A’r hwn a eisteddodd, oedd iw weled yn debyg i garreg Iaspis, a Sardon, ac enfys oedd o amgylch yr orseddfaingc yn debyg yr olwg arni i Smaragdus.

4Ac yng-hylch yr orseddfaingc yr oedd pedair gorseddfaingc ar hugain, ac mi a welwn ar y gorseddfeingciau bedwar ar hugain o henuriaid yn eistedd, a dillad gwynnion am danynt, a choronau o aur ar eu pennau.

5A mellt, a tharanau, a lleisiau, a ddaethant allan o’r orseddfaingc, a saith ffagl o dân oeddēt yn llosci ger bron yr orseddfaingc, y rhai ydynt saith Yspryd Duw,

6Ac o flaen yr orseddfaingc yr ydoedd môr o wydr yn debyg i crystal, ac yng-hanol yr orseddfaingc, ac yng-hylch yr orseddfaingc yr oedd pedwar anifail yn llawn o lygaid ym mlaen ac yn ôl.

7A’r anifail cyntaf oedd debyg i lew, a’r ail anifail yn debyg i lô, a’r trydydd oedd ag wyneb ganddo fel wyneb dŷn, a’r pedwerydd anifail oedd yn debyg i eryr yn ehedeg.

8Ac yr oedd i bôb vn o’r pedwar anifail chwech o adenydd o amgylch iddynt, a’r rhai hynny yn llawn llygaid o’r tu fewn, Esa.6.3.ac nid oeddent yn gorphywys ddydd na nôs, gan ddywedyd, Sanct, Sanct, Sanct, Arglwydd Dduw, Hollalluog, yr hwn a fu, ac y sydd, ac yw ar ddyfod.

9A phan roddodd yr anifeiliaid hynny ogoniant ac anrhydedd, a diolch i’r hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfaingc, yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd:

10Y pedwar henuriad ar hugain a syrthiasant ger bron yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd-faingc, ac a addolasant yr hwn sydd yn byw yn dragywydd, ac a fwriasant eu coronau ger bron yr orsedd-faingc gan ddywedyd,

11 Pen.5.11. Teilwng ŵyt ô Arglwydd i dderbyn gogoniant, ac anrhydedd, a gallu, canys ti a greaist bôb pêth, ac er mwyn dy ewyllys di y maent, ac y creuwyd hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help