1Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthif: dos a phryn it wregys lliain, a gosot ef am dy lwynau, ac na osot ef mewn dwfr.
2Felly y prynais y gwregys yn ôl gair yr Arglwydd, ac ai gosodais am fy lwynau.
3A daeth gair yr Arglwydd attaf eilwaith, gan ddywedyd:
4Cymmer y gwregys yr hwn a brynaist, ac y sydd am dy lwynau, a chyfot, dos i Euphrates, a chuddia ef mewn hollt o’r graig.
5Ac felly’r mi a aethum, ac mi ai cuddiais ef yn Euphrates, megis y gorchymynnase yr Arglwydd i mi.
6Ac ar ôl dyddiau lawer y dywedodd yr Arglwydd wrthif, cyfot, a dôs i Euphrates, a chymmer oddi yno y gwregys yr hwn a orchymynnais i ti ei guddio yno.
7Yna’r aethum i Euphrates, ac a gloddiais, ac a gymmerais y gwregys o’r man lle y cuddiaswn ef: ac wele pydrase y gwregys ni wnâi lesâd
8A daeth gair yr Arglwydd attaf gan ddywedyd:
9Fel hyn y dywed yr Arglwydd, felly y gwnafi i falchder Iuda, a mawr falchder Ierusalem bydru.
10Y bobl ddrygionus hyn a wrthodasant wrando fyng-air i, rhodio y maent mewn cildynrwydd eu calon, ac aethant ar ôl duwiau dieithr iw gwasanaethu hwynt, ac i ymostwng iddynt hwy: am hynny y byddant fel y gwregys ymma, yr hwn ni wnâ lês i ddim.
11Canys megis ag yr ymwasc gwregys am lwynau gŵr, felly y gwneuthum i holl dŷ Israel wascu attaf, a holl dŷ Iuda medd yr Arglwydd, i fod i mi yn bobl, ac yn enw, ac yn foliant, ac yn ogoniant, ond ni wrandawsant.
12Am hynny y dywedi wrthynt y gair ymma: fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, pôb costrel a lenwir â gwîn, a dywedant wrthit ti: gan ŵybod oni wyddom ni y llenwir pôb costrel â gwîn?
13Yna y dywedi wrthynt, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd: wele fi yn llenwi holl drigolion y tîr hwn, a’r brenhinoedd y rhai sy yn eistedd yn lle Dafydd ar ei orseddfaingc ef, yr offeiriaid hefyd a’r prophwydi, a holl bresswyl-wŷr Ierusalem â meddwdod.
14Tarawaf hwy y naill wrth y llall, y tadau a’r meibion yng-hyd, medd yr Arglwydd, nid arbedaf, ac ni thrugarhâf, ac ni ressynnaf, onid eu difetha hwynt.
15Clywch, a gwrandewch; na falchiwch: canys yr Arglwydd a lefarodd
16Rhoddwch ogoniant i’r Arglwydd eich Duw, cyn iddo ef ddwyn tywyllwch, a chyn i chwi daro eich traed wrth y mynyddoedd tywyll, a disgwil o honoch am oleuni, ac iddo ef ei droi yn gyscod angeu, osod yn dywyllwch.
17Ac oni wrandewch chwi hyn, fy enaid a ŵyla yn ddirgel am eich balchder: a’m llygaid gan ŵylo a wylant, ac a ollyngant ddagrau o achos dwyn diadell yr Arglwydd i gaethiwed.
18Dywet wrth 2.Bren.24.12.y brenin a’r frenhines, ymostyngwch, eisteddwch i lawr: canys descynnodd eich pendefigaeth, choron eich anrhydedd.
19Dinasoedd y deau a gaewyd, ac nid agorudd, Iuda ei gyd a gaeth-gludwyd, yn llwyr y dygwyd i gaethiwed.
20Codwch i fynu eich llygaid, a gwelwch y rhai sydd yn dyfod o’r gogledd, pa le y ddiadell a roddwyd i ti: dy ddefaid hardd?
21Beth a ddywedi pan ymweler â thi? ti ai dyscaist hwynt yn dywysogion, ac yn ben arnat: oni oddiwedd gofid di megis gwraig yn escor?
22Ac o dywedi yn dy galon, pa ham y digwydd hyn i mi? o herwydd amlder dy anwiredd y noethwyd dy odrau, ac y dinoethwyd dy sodlau.
23A newidia yr Ethiopiad ei groen, neu’r llewpard ei frychni? felly chwithau a ellwch wneuthur dâ, y rhai a gynnefinwyd i wneuthur drwg.
24Am hynny y chwâlaf hwynt megis sofl yn myned ymmaith gyd â gwynt y dehau.
25Dymma dy gyfran di y rhan a fesurais i ti medd yr Arglwydd, am i ti fy anghofio fi, ac ymddyried mewn celwydd.
26Am hynny y dinoethais inne dy odrau di tros dy wyneb, fel yr amlyge dy warth.
27[Gwelais] dy odineb, a’th weryriadau, brynti dy butteinrwydd ar y brynnoedd, yn y maes dy ffieidd-dra a welais: gwae di Ierusalem onid ymlanhei di mwyach? pa bryd bellach?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.