1YNA ’r ŵylais yn athrist, ac a weddiais mewn gorthrymder gan ddywedyd:
2Cyfiawn wyt ô Arglwydd, a chwbl o’th weithredoedd a’th ffyrdd oll ydynt drugaredd a gwirionedd: dy farn hefyd a roddi yn iniawn, ac yn gyfiawn yn dragywydd.
3Cofia am danaf, ac edrych arnaf, ac na wna ddial ar fy mhechodau, nac ar fy anwybodaeth, na’m henafiaid y rhai a bechasant ger dy fron di.
4O achos nad vfuddhaent i’th orchymynnion: am hynny ti a’n rhoddaist yn yspail, ac i gaethiwed, ac i angeu, ac yn ddihareb wradwyddus ym mysc y rhai oll i’n gwascarwyd ni yn eu plith.
5Ac yn awr y mae i ti lawer o achosion cyfiawn i wneuthur â myfi yn ôl fy mhechodau, a fy henafiaid, am na chadwasom dy orchymynnion, (canys ni rodiasom ddim yn y gwirionedd ger dy fron di)
6Yr awran gan hynny gwna â myfi y peth a fyddo cymmwys yn dy olwg di: pâr gymmeryd fy hoedl oddi wrthif, fel i’m dattoder, ac yr elwyf yn ddaiar: canys gwell i mi farw na byw, o achos y gwarth anwir a glywais, a’r mawr dristwch sydd i’m gorchfygu. Am hynny pâr fyng-ollwng yn rhydd o’r cyfyngder ymma, i le tragywyddawl: na thro dy wyneb-pryd oddiwrthif.
7A’r vn dydd fe a ddigwyddodd i Sarra merch Raguel yn Echatan ym Media, gael ei gwradwyddo gan forwynion ei thad,
8Sef ei rhai hi i saith o wŷr, ac i Asmodaeus yr yspryd drwg eu lladd hwynt, cyn bod iddynt a wnaent â hi yn ôl arfer gwragedd.
9Oni ŵyddost (meddynt) dagu o honot ti dy wŷr: bu saith o wŷr i ti hyd yn hyn, ac ni’th gyfenwyd yn ol yr vn o honynt:
10Pa ham ein curi ni am danynt: os meirw ydynt, dos centhynt, na welom byth o honot na mab na merch.
11A phan glybu hi y pethau hynny, tristau yn ddirfawr a wnaeth, fel ymdagu: ac etto hi a ddywedodd, vn-ferch fy nhad ydwyf, os gwnaf fi hyn, cywilyddus fydd ganddo ef, ai henaint a ddygaf i’r bedd mewn gorthrymder.
12Ac yna hi a weddiodd tua ’r ffenestr gan ddywedyd: Bendigaid wŷt ô Arglwydd fy Nuw, a bendigaid yw enw sanctaidd dy ogoniant, ac anrhydeddus byth bythoedd, bendiged dy holl weithredoedd dydi yn dragywydd:
13Ac yr awran ô Arglwydd y dychwelaf fy llygaid am hwyneb attat,
14Gan ddeisyf fyng-ollwng yn chydd oddi ar y ddaiar, fel na chlywyf mwy haiach wradwydd.
15Ti a ŵyddost Arglwydd fy mod yn lân oddi wrth bob pechod gyd â gŵr.
16Ac ni halogais fy enw, nac enw fy nhad yn nhîr fyng-haethiwed. Vnic ferch wŷf i’m tad, ac nid oes ganddo fab i fod yn etifedd iddo, nac vn câr agos, na phlentyn i’r vn, fel y cadwn fy hun yn wraig iddo: ac wedi marw saith-ŵr i mi i ba beth y byddwn i byw: Eithr oni rynga bodd i ti fy lladd, pâr edrych arnaf, a thrugarhau wrthif, fel na chlywyf mwy wradwydd.
17Ai gweddiau ill dan a wrandawyd ger bron gogoniant y Duw mawr.
18A Raphael a anfoned i iachau ’r ddau i dynny ’r huchen oddi ar lygaid Tobit, ac i roddi Sarra merch Raguel yn wraig i Tobias mab Tobit, ac i rwymo Asmodaeus yr yspryt drwg, o achos bod yn perthynu i Tobias o gyfiawnder ei chael hi: yn y cyfamser hwnnw y dychwelodd Tobit, ac yr aeth efe iw dŷ, a Sarra merch Raguel a ddescynnodd di stafell.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.