Zacharias 9 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IX.Dinistr gelynion yr eglwys. 7 Dychweliad y cenhedloedd. 9 Dyfodiad Crist ar yr assyn.

1Baich gair yr Arglwydd yn erbyn tîr Hadrac: a Damascus ei orphwysfa ef: o blegit ar yr Arglwydd y bydd llygad dŷn, a llwythau Israel oll.

2Felly Hemath hefyd a derfyna oi mewn ei hun: Tyrus, a Sidon hefyd, canys doeth odieth ydynt.

3A Thyrus a adailada iddi ei hun gastell, ac a gynnull arian fel llwch, ac aur coeth fel tomm yr heolydd.

4Wele’r Arglwydd ai speilia, ac a deru ei nerth hi yn y môr, a hi a yssir â thân.

5Ascalon a wêl, ac a ofna, a Azza a ymofidia yn ddirfawr, felly Accaron hefyd am ei chywilyddio oi gobaith, difethir hefyd y brenin allan o Azza, ac Ascalon nid erys.

6Estron hefyd a drig yn Astod, a thorraf i lawr falchder y Philistiaid.

7A mi a symmudaf ymmaith ei waed oddi wrth ei enau, ai ffiaidd-dra oddi rhwng ei ddannedd, ac efe a weddillir i’n Duw ni, fel y byddo megis pennaeth yn Iuda, ac Accaron megis Iebusiad.

8A gwerssyllaf wrth fy nhŷ rhac y llu, rhac a êl heibio, a rhac a ddatrô, fel nad elo gorthrymmwr arnynt mwyach: canys weithian gwelais am llygaid.

9Bydd lawen iawn ti ferch Sion, a chrechwenna ha ferch Ierusalem, Math.21.5.wele dy Frenin yn dyfod attat yn gyfiawn, ac achubudd yw efe, efe yn dlawd, ac yn marchogeth ar assyn, ac ar lwdn assyn.

10Torraf hefyd y cerbyd oddi wrth Ephraim, a’r march oddi wrth Ierusalem, a’r bwa rhyfel a dorrir, ac efe a lefara heddwch i’r cenhedloedd, ai lywodraeth o fôr hyd fôr, ac o’r afon hyd eithafoedd y tir.

11A thithe yng-waed dy ammod gollyngais dy garcharorion o’r pydew heb ddwfr ynddo.

12Troiwch i’r cestyll chwi garcharorion gobaithiol, heddyw’r ydwyf yn dangos y talaf it yn ddau ddyblig.

13Canys annelais Iuda i’m yn fwa, llenwais Ephraim, a’th feibion di Sion a gyfodais yn erbyn dy feibion dithe Groec, ac a’th osodais fel cleddyf cawr.

14Yr Arglwydd a welir trostynt, ai saethau ef a ânt allan fel mellt, a’r Arglwydd Dduw a gân ag vdcorn, ac a gerdd yn rhyferth-wynt y dehau.

15Arglwydd y lluoedd ai hamddeffyn hwynt, fel y bwyttânt, ac y gostyngant gerric y dafl, yfant therfyscant megis gwin, a llanwyd hwynt fel mail, ac fel conglau’r allor.

16A’r Arglwydd eu Duw ai gwared hwynt y dydd hwnnw fel mintai oi bobl: canys fel meini coron y byddant wedi eu derchafu ar ei dîr ef.

17Canys pa feint ei lâs ef, a pha feint ei degwch ef? yr ŷd a lawenycha ei wŷr ieuaingc ef, a’r gwin ei weryfon.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help