Mathew 15 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XV.Crist yn escusodi ei ddyscyblion am fwyta y tywys yd ar y Sabboth gan ddangos rhagrith y Pharisæaid, 15 A chan egluro iw ddiscyblion nad yr hyn sydd yn myned i’r corph sydd yn halogi y corph, 32 Ac yn porthi llawer â phedair torth o fara.

1Yna A’r Iesu a aeth oddi yno, ac a giliodd i dueddau Tyrus a Sidon.

22Ac wele, Mar.7.25.gwraig o Canaan a ddaeth o’r parthau hynny, ac a lefodd, gan ddywedyd wrtho, trugarhâ wrthif, ô Arglwydd fâb Dafydd: y mae fy merch yn ddrwg ei hwyl gan gythrael.

23Eithr nid attebodd efe iddi vn gair, yna y daeth ei ddiscyblion atto, ac yr attolygâsant iddo, gan ddywedyd, gollwng hi ymmaith, canys y mae hi yn llefain ar ein hôl.

24Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd, Math.10.6.ni’m danfonwyd onid at ddefaid colledic tŷ Israel.

25Er hynny hi a ddaeth, ac a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, ô Arglwydd cymmorth fi.

26Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd, nid da cymmeryd bara y plāt ai fwrw i’r cenawon cŵn.

27Hithe a ddywedodd, gwîr yw ô Arglwydd, er hynny y mae’r cenawō cŵn yn bwytta’r briwsion a syrth oddi ar fwrdd eu harglwyddi.

28Yna yr attebodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrthi, ha wraig mawr yw dy ffydd, bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio: a’i merch a iachawyd yn yr awr honno.

29A’r Mar.7.31.Iesu gan fyned oddi yno, a ddaeth ger llaw môr Galilæa, ac efe a escynnodd i’r mynydd, ac a eisteddodd yno.

30A daeth atto dorfeudd mawrion, Esa.35.5.a chanddynt gloffion, deillion, mudion, efryddion, ac eraill lawer: a hwy a’u bwriasant i lawr wrth draed yr Iesu, ac efe a’u hiachaodd hwynt.

31Fel y rhyfeddodd y dyrfa, wrth weled y mudion yn dywedyd, y rhai anafus yn iach, y cloffion yn rhodio, a’r deillion yn gweled: ac hwy a ogoneddâsant Dduw yr Israel.

32 Marc.8.1. Yna y galwodd yr Iesu ei ddiscyblion atto, ac a ddywedodd, yr ydwyf yn tosturio wrth y dyrfa, am iddynt aros gyd â mi er ys tri-diau bellach, ac nad oes ganddynt ddim i’w fwytta: a’u gollwng hwy ar eu cythlwng ni’s gwnaf, rhag eu llewygu ar y ffordd.

33A’i ddiscyblion a ddywedasant wrtho, o ba le y caem ni gymmaint o fara yn y dyffaethwch, ag y diwellid tyrfa gymmaint?

34A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, pa sawl torth sydd gennych? a hwy a ddywedâsant, saith, ac ychydig byscod bychein.

35Yna y gorchymynnodd efe i’r dyrfa eistedd ar y ddaiar.

36A chan gymmeryd y saith dorth, a’r pyscod, a diolch, efe a’u torrodd, ac a’u rhoes iw ddiscyblion, a’r discyblion i’r dyrfa.

37Ac hwy oll a fwyttasant, ac a gawsant ddigon: ac a godasant o’r briwfwyd yr hwn oedd yng-weddill saith fascedaid.

38A’r rhai a fuasent yn bwytta oeddynt bedeir-mil o wŷr, heb law gwragedd a phlant.

39Yna wedi iddo ollwng y dyrfa i ffordd, efe a aeth i long, ac a ddaeth i dueddau Magdala.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help