1O Dduw na ostêga, na thaw, ac na fydd lonydd ô Dduw.
2Canys wele dy elynnion sydd yn terfyscu, a’th gaseion yn cyfodi eu pennau.
3Ymgyfrinachâsant yn ddichellgar yn erbyn dy bobl, ac ymgynghorâsant yn erbyn dy rai dirgel di.
4Dywedâsant, deuwch, a difethwn hwynt fel na byddant yn genhedlaeth, ac na chofier enw Israel mwyach.
5Canys ymgynghorâsant yn vn-fryd, ac ymwnaethant i’th erbyn.
6Pebyll Edom, a’r Ismaeliaid, y Moabiaid, a’r Hagariaid.
7Y Gebaliaid, a’r Ammoniaid a’r Amaleciaid, y Philistiaid, gyd â phresswyl-wŷr Tyrus.
8Assur hefyd a ymgwplysodd â hwynt, buant fraich i blant Lot.Selah.
9Gwna di iddynt fel Madian, megis i Sisara, megis Iabin wrth afon Cizon.
10Yn Endor y difethwyd hwynt, y buant yn dail i’r ddaiar.
11Gosot hwy ai boneddigion fel Barn.7.25|JDG 7:25 & 8.21.|SIR 8:21. Esa. 10.26Oreb, a Zeb, ai holl dywysogion fel Zeba, a Salmunah.
12Y rhai a ddywedâsant, gorescynnwn i ni gyfanneddau Duw.
13Gosot hwynt ô fy Nuw fel olwyn, fel sofl o flaen y gwynt.
14Fel y llysc tân goed, ac fel y goddeithio fflam fynyddoedd:
15Felly erlit di hwynt â’th dymhestl, a dychryna hwynt â’th gor-wynt.
16Llanw di eu hwynebau â gwarth, fel y ceisiant dy enw ô Arglwydd.
17Cywilyddier a thralloder hwynt yn dragywydd: gwradwydder hefyd, a difether hwynt.
18Fel y gwypont mai tydi yn vnic Iehofa dy enw, Oruchaf ar yr holl ddaiar.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
